xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5Penderfynu ar Amodau

Penderfyniad tybiedig ar amodau o dan Ddeddfau 1991 a 1995

42.—(1Nid yw paragraff 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 yn gymwys i gais AHGM amhenderfynedig oni fydd Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio o dan reoliad 9 neu 11 i'r perwyl nad yw'r datblygiad dan sylw yn ddatblygiad AEA.

(2Wrth benderfynu, at ddibenion paragraffau 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (penderfynu ar amodau), yr amser a aeth heibio heb i'r awdurdod cynllunio mwynau roi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o'i benderfyniad, mewn achos pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan reoliad 9 i'r perwyl bod datblygiad AHGM yn ddatblygiad esempt, neu o dan reoliad 11 i'r perwyl nad yw'r datblygiad dan sylw yn ddatblygiad AEA, rhaid anwybyddu'r cyfnod cyn dyroddi'r cyfarwyddyd.

Datgymhwyso paragraff 4(4) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991

43.  Nid yw paragraff 4(4) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 (gofyniad bod awdurdod cynllunio mwynau yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad) yn gymwys i gais AEA a wneir o dan baragraff 2(2) o'r Atodlen honno.

Penderfynu ar amodau

44.—(1Rhaid i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad ynghylch cais AEA o fewn 16 wythnos o'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

(a)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'n cael y dogfennau sy'n ofynnol o dan reoliad 21 neu, os ceir y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y ceir y ddogfen derfynol;

(b)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'n cael y dogfennau sy'n ofynnol o dan reoliad 31 neu, os ceir y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y ceir y ddogfen derfynol;

(c)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth berthnasol arall o dan reoliad 37,

neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng y ceisydd a'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig o'u penderfyniad ynghylch cais AEA o fewn y cyfryw gyfnod ag y bo'n ofynnol ganddynt yn rhesymol ar ôl y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

(a)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y maent yn cael y dogfennau sy'n ofynnol o dan reoliad 21 neu, os ceir y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y ceir y ddogfen derfynol;

(b)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y maent yn cael y dogfennau sy'n ofynnol o dan reoliad 31 neu, os ceir y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y ceir y ddogfen derfynol;

(c)y dyddiad sy'n digwydd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth berthnasol arall o dan reoliad 37,

neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir rhwng Gweinidogion Cymru a'r ceisydd neu'r apelydd.

Apelau yn erbyn methiant i benderfynu

45.—(1Mae paragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl i apelio) yn cael effaith fel pe bai hawl hefyd i apelio i Weinidogion Cymru(1) pan nad yw'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad yn unol â rheoliad 44.

(2Mae paragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl i apelio) yn cael effaith fel pe baent hefyd yn darparu ar gyfer gwneud hysbysiad o apêl o fewn chwe mis ar ôl diwedd y cyfnod o 16 wythnos neu gyfnod arall a gytunwyd yn unol â rheoliad 44.

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddfau 1991 a 1995, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999 Rhif 672 ac maent yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).