xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
26.—(1) Os yw awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru o'r farn, yn rhesymol, bod gwybodaeth bellach yn ofynnol er mwyn ystyried cais AEA yn briodol neu, yn achos Gweinidogion Cymru, er mwyn ystyried apêl mewn perthynas â chais AEA yn briodol, a naill ai—
(a)y ceisydd neu'r apelydd yn alluog (neu dylai fod yn alluog) i ddarparu'r cyfryw wybodaeth, neu
(b)gweithredwr yn alluog (neu dylai fod yn alluog) i ddarparu'r cyfryw wybodaeth,
rhaid i'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd, yr apelydd neu, yn ôl y digwydd, y gweithredwr, mewn ysgrifen, o'r wybodaeth bellach sy'n ofynnol.
(2) Rhaid i hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) ddatgan yn eglur a manwl pa wybodaeth sy'n ofynnol.
(3) Rhaid cyflwyno'r hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) ynghyd â hysbysiad ysgrifenedig o'r materion a nodir ym mharagraff 15 o Atodlen 3.
(4) Rhaid darparu gwybodaeth bellach sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad o dan baragraff (1) o fewn chwe wythnos o ddyddiad yr hysbysiad, neu ba bynnag gyfnod hwy a gytunir gyda'r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) (“y cyfnod perthnasol”).
(5) Os na ddarperir gwybodaeth bellach o fewn y cyfnod perthnasol, bydd y caniatâd cynllunio y mae'r cais AEA neu'r apêl yn ymwneud ag ef yn peidio ag awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd y cyfnod perthnasol ymlaen.
(6) Nid yw hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) yn rhwystro awdurdod cynllunio mwynau perthnasol na Gweinidogion Cymru rhag rhoi hysbysiad ysgrifenedig pellach o dan y paragraff hwnnw neu o dan reoliad 27 (tystiolaeth).
(7) Caiff awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru dynnu'n ôl hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) ar unrhyw bryd cyn y daw'r cyfnod perthnasol i ben.