ATODLEN 1Meini prawf dethol ar gyfer sgrinio
Priodweddau datblygiad
1. Rhaid ystyried nodweddion datblygiad gan roi sylw, yn benodol, i—
(a)maint y datblygiad;
(b)y cyfuniad â datblygiadau eraill;
(c)defnyddio adnoddau naturiol;
(ch)cynhyrchu gwastraff;
(d)llygredd a niwsansau;
(dd)y risg o ddamweiniau, gan ystyried yn benodol y sylweddau neu'r technolegau a ddefnyddir.
Lleoliad y datblygiad
2. Rhaid ystyried sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol y mae'r datblygiad yn debygol o effeithio arnynt, gan roi sylw, yn benodol i—
(a)y defnydd tir presennol;
(b)maint cymharol y cyflenwad o adnoddau naturiol yn yr ardal, eu hansawdd, a'u galluoedd atgynhyrchiol;
(c)galluoedd amsugnol yr amgylchedd naturiol, gan roi sylw penodol i'r ardaloedd canlynol–
(i)gwlyptiroedd;
(ii)parthau arfordirol;
(iii)ardaloedd mynyddig a choedwigol;
(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;
(v)ardaloedd dosbarthedig neu warchodedig o dan ddeddfwriaeth Aelod-wladwriaethau; ardaloedd a ddynodwyd gan Aelod-wladwriaethau yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC(1) ar gadwraeth adar gwyllt(2) a Chyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC(3) ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(4);
(vi)ardaloedd lle'r aed eisoes y tu hwnt i'r trothwyon ansawdd amgylcheddol a bennir yn neddfwriaeth yr UE;
(vii)ardaloedd trwchus eu poblogaeth;
(viii)tirweddau o arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol neu archaeolegol.
Priodweddau'r effaith bosibl
3. Rhaid ystyried effeithiau arwyddocaol posibl y datblygiad gyferbyn â'r meini prawf a bennir o dan baragraffau 1 a 2 uchod, a chan roi sylw penodol i–
(a)ehangder yr effaith (arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth yr effeithir arni);
(b)natur drawsffiniol yr effaith;
(c)maint a chymhlethdod yr effaith;
(ch)tebygolrwydd yr effaith;
(d)parhad, amlder a gwrthdroadwyedd yr effaith.
O.J. Rhif L103, 25.4.79, t.1.
Diwygiwyd y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/102/EC. O.J. Rhif L323, 3.12.2008, t.31.
O.J. Rhif L206, 27.7.92, t.7.
Diwygiwyd y Gyfarwyddeb Cynefinoedd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC ddyddiedig 20 Tachwedd 2006 a oedd yn addasu Cyfarwyddebau 79/409/EEC, 92/43/EEC, 97/68/EC, 2001/80/EC a 2001/81/EC ym maes yr amgylchedd, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Romania (O.J. Rhif L363, 20.12.2006, t. 368; a gweler O.J. L80, 21.3.2007, t. 15, ar gyfer y Corigendwm a ddiwygiodd yr enw gwreiddiol).