xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2Gwybodaeth ar gyfer ei chynnwys mewn datganiadau amgylcheddol

RHAN 1

1.  Disgrifiad o'r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—

(a)disgrifiad o briodweddau ffisegol yr holl ddatblygiad a'r gofynion defnydd tir yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu;

(b)disgrifiad o brif briodweddau'r prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur a maint y deunyddiau a ddefnyddir;

(c)amcangyfrif, yn ôl math ac ansawdd, o'r gwaddodion ac allyriadau a ddisgwylir (llygredd dŵr, aer a phridd; sŵn, dirgryniadau, golau, gwres, pelydredd, etc.) o ganlyniad i weithredu'r datblygiad arfaethedig.

2.  Rhaglen neu raglenni gwaith manwl, y bwriada'r ceisydd neu'r apelydd gyflawni'r datblygiad yn unol â hi neu â hwy, gan gynnwys, yn benodol, manylion am gyfeiriad a dyfnder y gwaith.

3.  Amlinelliad o'r prif ddulliau amgen a astudiwyd gan y ceisydd neu'r apelydd, ac awgrym o'r prif resymau dros y dewis neu ddewisiadau a wnaed gan y ceisydd neu'r apelydd, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.

4.  Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r datblygiad yn debygol o gael effaith arwyddocaol arnynt gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dŵr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archaeolegol, y dirwedd a chydberthynas y ffactorau uchod.

5.  Disgrifiad o effeithiau arwyddocaol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd; dylai hyn gynnwys effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnus, tymor byr, tymor canolig a hirdymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y datblygiad, o ganlyniad i—

(a)bodolaeth y datblygiad;

(b)y defnydd o adnoddau naturiol;

(c)allyrru llygryddion, creu niwsansau a dileu gwastraff,

a disgrifiad gan y ceisydd o'r dulliau rhagamcanu a ddefnyddiwyd i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.

6.  Disgrifiad o'r mesurau y rhagwelir eu defnyddio i atal, lleihau, a phan fo modd, gwrthbwyso unrhyw effeithiau anffafriol arwyddocaol ar yr amgylchedd.

7.  Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 6 o'r Rhan hon.

8.  Awgrym o unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg medrusrwydd) a wynebwyd gan y ceisydd neu'r apelydd wrth grynhoi'r wybodaeth a oedd yn ofynnol.

RHAN 2

9.  Disgrifiad o'r datblygiad, gan gynnwys gwybodaeth am safle, dyluniad a maint y datblygiad.

10.  Rhaglen waith fanwl, y bwriada'r ceisydd gyflawni'r datblygiad yn unol â hi, gan gynnwys, yn benodol, manylion am gyfeiriad a dyfnder y gwaith.

11.  Disgrifiad o'r mesurau y rhagwelir eu defnyddio i atal, lleihau, a phan fo modd, gwrthwneud effeithiau anffafriol arwyddocaol.

12.  Y data sy'n ofynnol er mwyn adnabod ac asesu prif effeithiau tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd.

13.  Amlinelliad o'r prif ddulliau amgen a astudiwyd gan y ceisydd neu'r apelydd, ac awgrym o'r prif resymau dros y dewis a wnaed gan y ceisydd neu'r apelydd, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.

14.  Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 9 i 13 o'r Rhan hon.