- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
1. Disgrifiad o'r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—LL+C
(a)disgrifiad o briodweddau ffisegol yr holl ddatblygiad a'r gofynion defnydd tir yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu;
(b)disgrifiad o brif briodweddau'r prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur a maint y deunyddiau a ddefnyddir;
(c)amcangyfrif, yn ôl math ac ansawdd, o'r gwaddodion ac allyriadau a ddisgwylir (llygredd dŵr, aer a phridd; sŵn, dirgryniadau, golau, gwres, pelydredd, etc.) o ganlyniad i weithredu'r datblygiad arfaethedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 8.1.2010, gweler rhl. 1(2)
2. Rhaglen neu raglenni gwaith manwl, y bwriada'r ceisydd neu'r apelydd gyflawni'r datblygiad yn unol â hi neu â hwy, gan gynnwys, yn benodol, manylion am gyfeiriad a dyfnder y gwaith.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 8.1.2010, gweler rhl. 1(2)
3. Amlinelliad o'r prif ddulliau amgen a astudiwyd gan y ceisydd neu'r apelydd, ac awgrym o'r prif resymau dros y dewis neu ddewisiadau a wnaed gan y ceisydd neu'r apelydd, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 8.1.2010, gweler rhl. 1(2)
4. Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r datblygiad yn debygol o gael effaith arwyddocaol arnynt gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dŵr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archaeolegol, y dirwedd a chydberthynas y ffactorau uchod.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 8.1.2010, gweler rhl. 1(2)
5. Disgrifiad o effeithiau arwyddocaol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd; dylai hyn gynnwys effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnus, tymor byr, tymor canolig a hirdymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y datblygiad, o ganlyniad i—LL+C
(a)bodolaeth y datblygiad;
(b)y defnydd o adnoddau naturiol;
(c)allyrru llygryddion, creu niwsansau a dileu gwastraff,
a disgrifiad gan y ceisydd o'r dulliau rhagamcanu a ddefnyddiwyd i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 8.1.2010, gweler rhl. 1(2)
6. Disgrifiad o'r mesurau y rhagwelir eu defnyddio i atal, lleihau, a phan fo modd, gwrthbwyso unrhyw effeithiau anffafriol arwyddocaol ar yr amgylchedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 8.1.2010, gweler rhl. 1(2)
7. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 6 o'r Rhan hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 8.1.2010, gweler rhl. 1(2)
8. Awgrym o unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg medrusrwydd) a wynebwyd gan y ceisydd neu'r apelydd wrth grynhoi'r wybodaeth a oedd yn ofynnol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 8.1.2010, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: