- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.
(2) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.
(3) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 18,099 ewro o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010.
(4) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant i deithio adref am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol un siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i'r Athrofa.
(5) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant ar gyfer teithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yn yr Athrofa, i'r Athrofa.
(6) Ar yr amod bod Gweinidogion Cymru'n cytuno ymlaen llaw a chyn tynnu costau mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan yr Athrofa yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(7) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at yswiriant meddygol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol yswirio'r myfyriwr yn erbyn rhwymedigaeth i dalu cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig os yw cyfnod arferol y cwrs yn fwy nag un flwyddyn academaidd.
17. Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir o dan baragraffau (3) i (6) o reoliad 16.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: