xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4CYMORTHARIANNOL

Cyffredinol

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw bod myfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan yr Athrofa yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael—

(a)grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 1; a

(b)grantiau atodol yn unol â Phennod 2.

(2Os yw'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu—

(a)nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael math neu swm penodol o gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau; neu

(b)nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael unrhyw gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau.

(3Wrth benderfynu na fyddai myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i amgylchiadau'r achos ac yn benodol i'r rhesymau pam y gofynnwyd i'r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o'r blaen ond y mae'r Athrofa yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.