Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysol Ewropeaidd) (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

26.—(1At ddibenion rheoliadau 21 i 25—

(a)ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy'n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(ch)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(d)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr;

(dd)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;

(e)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (ff), (g), (ng) ac (h), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr;

(ii)partner sifil myfyriwr;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n briod i'r myfyriwr—

(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a

(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n bartner sifil i'r myfyriwr—

(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a

(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(ff)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) i'w drin fel partner—

(v)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi'u gwahanu; neu

(vi)os yw'r person yn byw fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr;

(g)at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed” , mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;

(ng)at ddibenion diffinio “plentyn” a “rhiant unigol” , mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr y cwrs dynodedig neu'r ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;

(h)yn ddarostyngedig i is-baragraff (i), at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed” , caiff Gweinidogion Cymru drin oedolyn neu blentyn fel rhai sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt wedi'u bodloni o ran yr oedolyn neu'r plentyn—

(i)nad yw'n ddibynnol ar—

(aa)y myfyriwr cymwys; neu

(bb) ei bartner; ond

(ii)ei fod yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a'i bartner gyda'i gilydd;

(i)rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thrin oedolyn (“A”) fel dibynnydd ar fyfyriwr cymwys yn unol ag is-baragraff (h), os Ayw—

(i)priod neu bartner sifil partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn barnu bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(ii)partner blaenorol partner y myfyriwr cymwys.

(j)at ddibenion penderfynu a yw person yn bartner blaenorol i bartner myfyriwr cymwys, ystyr “partner” o ran partner myfyriwr cymwys yw—

(i)priod partner myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil partner myfyriwr cymwys;

(iii)os dechreuodd y myfyriwr cymwys y cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel pe bai yn briod iddo;

(iv)os dechreuodd y myfyriwr cymwys y cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel pe bai yn bartner sifil iddo.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn cysylltiad â hi ond gan anwybyddu—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2);

(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989(3);

(dd)unrhyw daliad a wnaed i'r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(4)

(e)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno(5); ac

(f)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002(6).

(3Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) ac wedi'i ostwng yn ôl—

(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

(b)y swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn briodol pe gallai rhwymedigaeth lai, yn eu barn hwy, fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol.

(4At ddibenion paragraff (2)—

(a)os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol; a

(b)os oes taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn;

mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm i'r plentyn.

(1)

1992 p. 4 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(3)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p.41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p.31), adran 49(3) a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23), Atodlen 3, paragraffau 1 a 7.

(4)

Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i 5(C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989, o ran Lloegr, gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac mae O.S 2009/268 ac O.S. 2009/2273 yn berthnasol.

(5)

Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(6)

2002 p.21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources