- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
3. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Athrofa” (“the Institute”) yw'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd;
ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â'r Athrofa, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;
ystyr “cwrs cyfredol” (“current course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef neu am gael ei gydnabod yn fyfyriwr cymwys;
ystyr “cwrs cymwys” (“qualifying course”) yw cwrs—
sydd—
yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs cyffelyb; a
sy'n para am o leiaf ddwy flynedd academaidd; a
y cafodd y myfyriwr ar ei gyfer, am o leiaf ddwy flynedd academaidd o'r cwrs, ddyfarniad statudol ac eithrio dyfarniad a fwriadwyd i helpu gyda gwariant ychwanegol yr oedd y myfyriwr yn gorfod ei dynnu mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar y cwrs oherwydd anabledd y mae neu yr oedd yn ei ddioddef;
ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw 31 Ionawr 2010;
ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir, neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962(1), neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs a delir o gronfeydd cyhoeddus;
ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(2), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(3), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980(4) a rheoliadau a wnaed odani, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(5) a rheoliadau a wnaed odano neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed odani;
ystyr “ffoadur” yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr “refugee” yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(6) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(7);
ystyr “grantiau at gostau byw a chostau eraill” (“grants for living and other costs”) yw'r grantiau sy'n daladwy o dan reoliad 16;
ystyr “grantiau atodol” (“supplementary grants”) yw'r grantiau sy'n daladwy o dan Bennod 2 o Ran 4;
ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—
wedi'i ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi'i gysylltu yn rhesymegol â hwy; a
yn honni ei fod wedi'i ymgorffori neu wedi'i gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i gadarnhau bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau;
mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir gan reoliad 8;
ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—
sydd wedi'i hysbysu gan berson yn gweithredu dan awdurdod yr Ysgrifenydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir, er ystyried nad yw'n gymwys i'w gydnabod fel ffoadur, ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i neu aros yn y Deyrnas Unedig;
a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny;
nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben neu y mae'r cyfnod hwnnw wedi'i adnewyddu ac nad yw'r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu y mae apôl (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(8)) ynghylch caniatâd y person i ddod i mewn neu i aros yn yr arfaeth; ac
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;
ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008(9);
ystyr “Undeb Ewropeaidd” (“European Union”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o dro i dro.
1962 p.12; rhoddwyd yn lle adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 y ddarpariaeth a osodir yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p.20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p.11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a osodir yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.
1990 p.6; diddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), Atodlen 4.
O.S. 1990/1506 (G.I.11); diwygiwyd gan O.S. 1996/1274 (G.I.1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I.15), Erthygl 3 a'r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I.1), Erthyglau 3 i a ddirymwyd, gydag arbedion, gan RhS (G.I.) 1998 Rhif 306.
1980 p.44.; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 0 Ddeddf yr Alban 1998 (p.46).
O.S. 1998/1760 (G.I.14), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Gorch. 9171.
Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopï au ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth yr Is-adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).
2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc) 2004 (p.19) Atodlenni 2 a 4 a Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), adran 9.
O.S. 2008/18 (Cy.7); diwygiwyd gan O.S. 2008/1324 (Cy.137); O.S. 2008/3114 (Cy.276) ac O.S. 2009/2157 (Cy.181).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: