- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992 (O.S. 1992/1978), Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123), Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3124) a Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (O.S. 1995/3187) (pob un ohonynt yn ymestyn i'r cyfan o Brydain Fawr), ac yn ailddeddfu gyda newidiadau ac ar sail drosiannol darpariaethau penodol o'r tri olaf o'r offerynnau hynny.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi, o ran Cymru, Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.16) (“y Rheoliad”) ac yn rhoi effaith yng Nghymru i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/10/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/84/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L44, 14.2.2009, t.62).
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd—
(a)defnyddio unrhyw liw ac eithrio lliw a ganiateir mewn neu ar unrhyw fwyd, a defnyddio unrhyw liw a ganiateir oni fodlonir gofynion penodol (diffinnir y termau “lliw” a “lliw a ganiateir” yn rheoliad 2(1))(rheoliad 3);
(b)defnyddio lliwiau ac eithrio lliwiau penodol a ganiateir, ar gyfer marcio iechyd a mathau eraill o farcio ar rai cigoedd a chynhyrchion cig (rheoliad 4);
(c)defnyddio lliw ac eithrio lliw a ganiateir i liwio'n addurniadol plisgyn wyau neu farcio plisgyn wyau fel y darperir ar ei gyfer mewn offeryn UE penodedig (rheoliad 5);
(ch)gwerthu—
(i)unrhyw liw i'w ddefnyddio mewn neu ar unrhyw fwyd, onid yw'r lliw yn un a ganiateir,
(ii)yn uniongyrchol i ddefnyddwyr unrhyw liw ac eithrio lliw penodedig a ganiateir (diffinnir y term “lliw penodedig a ganiateir” yn rheoliad 2(1)), neu
(iii)unrhyw fwyd sydd ag unrhyw liw ynddo neu arno, ac eithrio lliw a ganiateir ac a ddefnyddiwyd yn y bwyd neu arno heb dorri darpariaethau penodedig o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 6);
(d)defnyddio mewn neu ar unrhyw fwyd unrhyw ychwanegyn amrywiol ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir (diffinnir y termau “ychwanegyn amrywiol” ac “ychwanegyn amrywiol a ganiateir” yn rheoliad 2(1)) (rheoliad 8(1));
(dd)yn ddarostyngedig i ddarpariaeth UE benodedig, defnyddio ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a restrir mewn man arall yn yr offeryn UE lle mae'r ddarpariaeth honno'n ymddangos, mewn neu ar fwyd a restrir mewn rhan benodedig o'r offeryn hwnnw (rheoliad 8(2));
(e)yn ddarostyngedig i ddarpariaeth UE benodedig yn achos y gwaharddiad a osodir gan reoliad 8(3), defnyddio ychwanegion amrywiol a ganiateir penodol mewn neu ar fwydydd penodedig oni fydd gofynion penodedig wedi eu bodloni (rheoliad 8(3), (4) a (5));
(f)defnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol fel cludydd neu doddydd cludo yn bennaf, onid yw'r ychwanegyn yn ychwanegyn amrywiol a ganiateir sydd wedi ei restru mewn darpariaeth UE benodedig, a'r defnydd ohono yn cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau, os oes rhai, a grybwyllir mewn perthynas â'r ychwanegyn yn y ddarpariaeth honno (diffinnir y termau “cludydd” a “toddydd cludo” yn rheoliad 2(1))(rheoliad 8(6));
(ff)yn ddarostyngedig i ddarpariaeth UE benodedig, defnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir mewn neu ar fwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc, onid yw wedi ei restru mewn darpariaeth UE benodedig ac oni ddefnyddir ef yn unig yn unol â'r amodau a gynhwysir yn y ddarpariaeth honno (diffinnir y term “bwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc” yn rheoliad 2(1)) (rheoliad 8(7));
(g)defnyddio, mewn neu ar unrhyw fwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc, unrhyw ychwanegyn bwyd perthnasol mewn cyfuniad ag ychwanegyn amrywiol a ddefnyddir yn bennaf fel cludydd neu doddydd cludo, onid yw'r ychwanegyn bwyd amrywiol wedi ei restru mewn darpariaeth UE benodedig, a'i bresenoldeb yn neu ar y bwyd yn cydymffurfio â'r amodau a gynhwysir yn y ddarpariaeth honno (diffinnir y term “ychwanegyn bwyd perthnasol” yn rheoliad 2(1)) (rheoliad 8(8));
(ng)gwerthu unrhyw ychwanegyn amrywiol i'w ddefnyddio mewn neu ar fwyd, ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir (rheoliad 9(1));
(h)gwerthu unrhyw ychwanegyn amrywiol i'w ddefnyddio yn bennaf fel cludydd neu doddydd cludo onid yw'r ychwanegyn yn fath penodol o ychwanegyn amrywiol a ganiateir (rheoliad 9(2));
(i)gwerthu yn uniongyrchol i ddefnyddwyr unrhyw ychwanegyn amrywiol ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir (rheoliad 9(3));
(j)gwerthu unrhyw fwyd sydd ag ychwanegyn amrywiol ynddo neu arno, ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a ddefnyddiwyd, neu sy'n bresennol yn y bwyd neu arno, heb dorri darpariaethau penodedig o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 9(4));
(l)gwerthu unrhyw ychwanegyn bwyd perthnasol mewn cyfuniad ag ychwanegyn amrywiol a ddefnyddir yn bennaf fel cludydd neu doddydd cludo, oni ddefnyddiwyd yr ychwanegyn amrywiol mewn perthynas â'r ychwanegyn bwyd perthnasol heb dorri gofynion rheoliad 8(6) (rheoliad 9(5));
(ll)rhoi ar y farchnad unrhyw felysydd a fwriedir ar gyfer ei werthu i'r defnyddwyr terfynol neu ar gyfer ei ddefnyddio mewn neu ar unrhyw fwyd, ac eithrio melysydd a ganiateir (diffinnir y termau “melysydd” a “melysydd a ganiateir” yn rheoliad 2(1)) (rheoliad 11(1));
(m)defnyddio unrhyw felysydd mewn neu ar unrhyw fwyd, ac eithrio melysydd a ganiateir—
(i)a ddefnyddir mewn neu ar fwyd a restrir mewn darpariaeth UE benodedig mewn maint nad yw'n fwy na'r dos defnyddiadwy mwyaf o'r melysydd a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn y ddarpariaeth honno, a
(ii)a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn y ddarpariaeth honno (rheoliad 11(2)); ac
(n)gwerthu unrhyw fwyd sydd ag unrhyw felysydd ynddo neu arno ac eithrio melysydd a ganiateir, a ddefnyddiwyd yn y bwyd neu arno heb dorri rheoliad 11(2) (rheoliad 12).
4. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn—
(a)ailddeddfu gyda newidiadau ar sail drosiannol (gweler paragraff 1 uchod) darpariaethau penodol a gynhwysir yn Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995, Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 a Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (rheoliadau 7, 10 a 13);
(b)darparu bod person sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio â darpariaethau penodedig o'r Rheoliadau hyn neu (yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol a gynhwysir yn Erthygl 34 o'r Rheoliad) y Rheoliad, yn euog o dramgwydd diannod, ac yn agored, o'i gollfarnu, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000) (rheoliad 14);
(c)darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad (rheoliad 15);
(ch)cymhwyso, gydag addasiadau at ddibenion y Rheoliadau hyn, darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 16);
(d)darparu, pan ardystir bod bwyd yn fwyd y byddai'n dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ei ddefnyddio, ei werthu neu ei roi ar y farchnad, y trinnir y bwyd at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel bwyd nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion diogelwch bwyd (rheoliad 17);
(dd)gwneud newidiadau canlyniadol yn Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 19 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (O.S. 1966/1073), Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3041 (Cy.286)), Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3053 (Cy.291)), Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 (O.S. 2004/139 (Cy.141)) a Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004 (O.S. 2004/553 (Cy.56)) (rheoliad 18); ac
(e)gwneud newid bychan yn Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3047 (Cy.290)) (rheoliad 19).
5. Gwnaed asesiad effaith rheoleiddiol llawn mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn, ac y mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: