Offerynnau Statudol Cymru
2009 Rhif 390 (Cy.40)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed
26 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Chwefror 2009
Yn dod i rym
20 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion gwneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
(1)
O.S. 2005/2766. Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 11 iddi.
(2)
1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).