Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 7 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“y Ddeddf”), ynghyd â Rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno, yn darparu at gyfer cofrestru a modrwyo neu farcio adar a gedwir mewn caethiwed ac a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf.
Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn tynnu'r adar a restrir yn yr erthygl honno oddi ar Atodlen 4 i'r Ddeddf. Mae hefyd yn tynnu allan y cyfeiriad at gymysgrywiau fel nad yw Atodlen 4 bellach yn cynnwys cymysgrywiau o'r rhywogaethau o adar ar y rhestr.
O'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, dyma'r adar a gynhwysir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf —
Enw cyffredin | Enw gwyddonol |
---|---|
Buzzard, Honey | Pernis apivorus |
Eagle, Golden | Aquila chrysaetos |
Eagle, White-tailed | Haliaeetus albicilla |
Falcon, Peregrine | Falco peregrinus |
Goshawk | Accipiter gentilis |
Harrier, Marsh | Circus aeruginosus |
Harrier, Montagu's | Circus pygargus |
Merlin | Falco columbarius |
Osprey | Pandion haliaetus |
Mae Erthygl 4 yn cynnwys dirymiad canlyniadol o Erthygl 3 o Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) 1994 (O.S. 1994/1151).
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes a'r sector wirfoddol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Mae copi o'r Asesiad Effaith ar gael gan Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Yr Uned Natur, Mynediad a'r Môr, Adeiladau'r Goron, Stryd y Dollborth, Aberystwyth, neu gellir ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar www.cynulliadcymru.org .