- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig gyfarwyddo unrhyw berson i adael y canlynol heb aflonyddu arnynt, cyhyd ag y byddo'n rhesymol angenrheidiol at ddiben unrhyw archwiliad neu ymchwiliad—
(a)wyau;
(b)wyau deor;
(c)pecynnau neu gynwysyddion eraill ar gyfer wyau, wyau deor neu gywion;
(ch)labeli neu ddogfennau'n ymwneud ag wyau, wyau deor neu gywion; a
(d)unrhyw fangre lle y deuir o hyd i unrhyw wyau, wyau deor neu gywion, unrhyw becynnau neu gynwysyddion eraill ar gyfer wyau, wyau deor neu gywion, ac unrhyw labeli neu ddogfennau'n ymwneud â'r cyfryw wyau neu gywion.
(2) Os na fydd archwiliad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal ar unwaith ar ôl i gyfarwyddyd gael ei roi o dan baragraff (1), caiff swyddog awdurdodedig roi tâp ynghlwm wrth y pecynnau neu gynwysyddion eraill ar gyfer wyau neu wyau deor sy'n ddarostyngedig i'r cyfarwyddyd hwnnw, neu eu diogelu mewn ffordd arall tra disgwylir yr archwiliad neu'r ymchwiliad.
(3) Caiff swyddog awdurdodedig gyfarwyddo unrhyw berson i sicrhau bod unrhyw—
(a)wyau;
(b)wyau deor;
(c)pecynnau neu gynwysyddion eraill ar gyfer wyau, wyau deor neu gywion; neu
(ch)labeli neu ddogfennau'n ymwneud ag wyau, wyau deor neu gywion,
nad ydynt yn cydymffurfio mewn unrhyw ffordd â gofynion unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2 (o ran wyau deor a chywion) neu 3 (o ran wyau eraill), yn cydymffurfio â'r gofynion hynny cyn iddynt gael eu symud o unrhyw dir, cerbyd neu ôl-gerbyd, ac eithrio fel y byddo swyddog awdurdodedig yn cyfarwyddo'n ysgrifenedig fel arall.
(4) Caiff swyddog awdurdodedig atafaelu unrhyw gyfrifiadur ac offer cysylltiedig at ddiben copïo dogfennau ar yr amod eu bod yn cael eu dychwelyd cyn gynted ag y bo'n ymarferol a, beth bynnag, o fewn 28 o ddiwrnodau.
(5) Os yw swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵer o dan baragraff (4), rhaid i'r swyddog awdurdodedig hysbysu'r person a chanddo ofal o'r fangre lle yr atafaelwyd y cyfarpar o'r hawl i apelio a roddir gan reoliad 18.
(6) Ac eithrio fel a ddatgenir ym mharagraff (3), gall unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o dan baragraff (1) neu (3) gael ei roi ar lafar neu'n ysgrifenedig ond rhaid i unrhyw gyfarwyddyd a roddir ar lafar gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n ymarferol a, beth bynnag, o fewn 24 awr.
(7) Rhaid i swyddog awdurdodedig beidio ag arfer y pwerau o dan baragraffau (1) i (4) onid yw'n cyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog.
(8) Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw—
(a)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person hwnnw gan gyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o dan baragraff (1);
(b)oni chaiff ei awdurdodi'n ysgrifenedig i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig, yn ymyrryd ag unrhyw becynnau neu gynwysyddion a ddiogelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan baragraff (2); neu
(c)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person hwnnw gan gyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o dan baragraff (3).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: