Gweinyddwr
5.—(1) Awdurdod lleol sydd i weinyddu'r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn, ac yn unol â hynny, ef yw'r gweinyddwr ar gyfer ei ardal(1).
(2) Ym mharagraff (1) mae'r cyfeiriad at awdurdod lleol yn gyfeiriad at gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
(1)
I gael diffiniad o “administrator”, gweler paragraff 6(1) a (4) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008; ac ar gyfer cwmpas pwerau gweinyddwyr o dan y Rheoliadau hyn, gweler rheoliad 19.