xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Adroddiadau gan Weinidogion Cymru ar gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol etc. gan awdurdodauLL+C

17.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol â pharagraff (2), gyhoeddi adroddiadau sy'n rhoi trosolwg o'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau tuag at gydymffurfio eu hunain â'r ddyletswydd gyffredinol.

(2Rhaid i adroddiadau o dan baragraff (1)

(a)cael eu cyhoeddi—

(i)erbyn 31 Rhagfyr 2014 fan bellaf; a

(ii)bob hyn a hyn ar ôl hynny heb fod yr ysbeidiau rhwng yr adroddiadau yn hwyrach na diwedd pob cyfnod olynol o bedair blynedd gan ddechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diwethaf arno yn unol â'r is-baragraff hwn; a

(b)cael eu cyhoeddi

(i)erbyn 31 Rhagfyr 2016 fan bellaf; a

(ii)bob hyn a hyn ar ôl hynny heb fod yr ysbeidiau rhwng yr adroddiadau yn hwyrach na diwedd pob cyfnod olynol o bedair blynedd gan ddechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diwethaf arno yn unol â'r is-baragraff hwn.

(3Rhaid i adroddiadau o dan baragraff (1), ac eithrio'r adroddiadau cyntaf yn unol â pharagraff (2)(a)(i) a (b)(i), gwmpasu'r cyfnod ers y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diwethaf o dan baragraff (2)(b).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad, erbyn 31 Rhagfyr 2011 fan bellaf —

(a)yn nodi trosolwg o'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau tuag at gydymffurfio eu hunain â'r ddyletswydd gyffredinol i'r graddau y mae'n ymwneud â phersonau sy'n rhannu nodwedd warchodedig anabledd; a

(b)gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cyfnod o 2 Rhagfyr 2008 i 5 Ebrill 2011 y byddai wedi bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ei chynnwys mewn adroddiad o dan reoliad 5 o Reoliadau Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Awdurdodau Cyhoeddus) (Dyletswyddau Statudol) 2005(1) yn rhinwedd rheoliad 5(2)a o'r rheoliadau hynny petai'r rheoliadau hynny mewn grym.

(5Rhaid i adroddiadau o dan y rheoliad hwn nodi hefyd gynigion Gweinidogion Cymru ynglŷn â chydlynu camau gan awdurdodau mewn modd a fydd yn sicrhau rhagor o gynnydd tuag at gydymffurfiaeth yr awdurdodau hynny â'r ddyletswydd gyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 17 mewn grym ar 6.4.2011, gweler rhl. 1(2)

(1)

O.S. 2005/2966. Yn rhinwedd rheoliad 5(1) a (3) o'r Rheoliadau hynny ac Atodlen 2 iddynt yr oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddid gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) yn awdurdod adrodd at ddibenion rheoliad 5. Trosglwyddwyd y swyddogaeth honno yn union ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol, i Weinidogion Cymru yn rhinwedd y ffaith bod paragraff 30(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) yn weithredol. Diffinnir y cyfnod cychwynnol (yr “initial period”) yn adran 161(5) o Ddeddf 2006 a diffinnir swyddogaeth (“function” ) yn adran 158(1) o'r Ddeddf honno.