xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac i ysgolion arbennig (os cynhelir hwy felly ai peidio). Maent yn darparu (ymhlith pethau eraill) ar gyfer diwrnod ysgol sydd fel arfer i'w rannu'n ddwy sesiwn (gydag egwyl yn y canol), a bod ysgolion (nad ydynt yn ysgolion meithrin) yn cyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod paragraff newydd yn rheoliad 4 o Reoliadau 2003 i leihau'r nifer lleiaf o sesiynau ysgol y mae'n rhaid eu cynnal yn y blynyddoedd ysgol 2010-2011 a 2011-2012 o 380 i 378. Yn lle'r hen reoliad 5 yn Rheoliadau 2003 mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhoi rheoliad 5 newydd sydd, yn fras, yn darparu bod hyd at bedair sesiwn yn y flwyddyn ysgol 2010-2011 i'w cyfrif fel sesiynau pryd yr oedd yr ysgol wedi cyfarfod os oeddent wedi eu neilltuo i ddarparu hyfforddiant, neu i baratoi a chynllunio, ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir.