Search Legislation

Gorchymyn Grymuso Harbwr Saundersfoot 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 4RHEOLI A RHEOLEIDDIO'R HARBWR

Terfynau'r harbwr

22.—(1Mae gan y Comisiynwyr y swyddogaethau a roddir iddynt gan y Gorchymyn hwn a phwerau awdurdod harbwr ac awdurdod goleudai lleol, a chânt arfer y swyddogaethau a'r pwerau hynny, o fewn yr ardal a gyfansoddir gan y canlynol—

(a)y gweithiau;

(b)y maes parcio; ac

(c)yr ardal islaw lefel y penllanw sydd â'i ffin yn llinell ddychmygol a dynnir o ben dwyreiniol eithaf Coppet Hall Point yng nghymuned Saundersfoot i gyfeiriad y de hyd at ben dwyreiniol eithaf Monkstone Point yng nghymuned St Mary out Liberty.

(2Mae Atodlen 5 yn cynnwys map o'r harbwr, sy'n dangos yr ardal y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei hamlinellu mewn gwyrdd.

(3Caiff y Comisiynwyr ofyn am ffioedd a thaliadau eraill o dan erthygl 33 a Deddf 1964 o fewn yr ardal a gyfansoddir gan—

(a)y gweithiau;

(b)y maes parcio; ac

(c)cymaint o'r blaendraeth a gwely'r môr a amgaeir gan y gweithiau a llinell a dynnir o ben eithaf tua'r môr y morglawdd sy'n ymestyn, yn fras, i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain, hyd at yr ochr sy'n wynebu'r môr o'r morglawdd sy'n ymestyn, yn fras, i gyfeiriad y dwyrain-de-ddwyrain, ac a ddangosir â llinell goch doredig ar y map o'r harbwr.

Pwerau cyffredinol

23.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y Gorchymyn hwn, caiff y Comisiynwyr, o bryd i'w gilydd, gymryd pa bynnag gamau a ystyriant yn angenrheidiol neu'n ddymunol er mwyn cynnal, gweithredu, rheoli a gwella'r harbwr a'r llety a chyfleusterau (gan gynnwys cyfleusterau mordwyo) sydd ar gael yn yr harbwr neu mewn cysylltiad â'r harbwr.

(2Yn benodol, caiff y Comisiynwyr—

(a)gwella, cynnal, rheoleiddio, rheoli, marcio a goleuo'r harbwr ac unrhyw weithiau sydd ynddo;

(b)gwella, newid a chynnal unrhyw fyndiau, argloddiau, waliau, ffyrdd (ac eithrio priffyrdd cyhoeddus), troetffyrdd, dynesfeydd, grisiau, mannau glanio, pierau, ceiau, jetïau, llithrfeydd, glanfeydd, grwynau, amddiffynfeydd morol, mannau docio, pyst angori, bwiau angori, angorfeydd, llwyfaniadau, polion, trawstiau, dolffinod, bolardiau, dolenni angori, ffenderydd, rhodfeydd, bwiau, marciau mordwyo, craeniau, goleuadau, goleufeydd, carthffosydd, draeniau, cyrsiau dŵr, pibellau nwy a dŵr, cyfarpar ar gyfer golau a phŵer trydanol a thelathrebu, warysau, swyddfeydd, siediau a gweithiau, adeiladau a chyfleusterau eraill yr ystyriant yn angenrheidiol er mwyn sicrhau dibenion y Gorchymyn hwn, gan gynnwys lletya neu hwylustod i longau, cerbydau neu draffig arall, neu er mwyn diogelu'r harbwr;

(c)gwneud unrhyw beth arall (gan gynnwys darparu cyfleusterau neu redeg unrhyw fusnes) sydd o fudd, ym marn y Comisiynwyr, er mwyn rhedeg neu ddatblygu'r harbwr yn briodol, neu y byddai'n fanteisiol iddynt ymgymryd ag ef yn rhinwedd eu gweithgareddau mewn perthynas â'r harbwr; ac

(ch)gwneud pa bynnag defnydd arall y mae'r Comisiynwyr yn ystyried yn briodol o unrhyw adnoddau i'r graddau nad oes eu hangen at ddibenion yr ymgymeriad.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, caiff y Comisiynwyr, drwy gytundeb, brynu a dal at ddibenion y Gorchymyn hwn unrhyw dir yn ychwanegol at y tir a freinir yn y Comisiynwyr o dan y Gorchymyn hwn.

Y pŵer i garthu

24.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, caiff y Comisiynwyr, o bryd i'w gilydd, ddyfnhau, carthu, sgwrio, glanhau, newid a gwella gwely, glannau a sianelau'r harbwr a'i ddynesfeydd, a chânt ffrwydro unrhyw graig o fewn yr ardal honno.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, bydd unrhyw ddeunydd (ac eithrio unrhyw longddrylliad o fewn yr ystyr a roddir i “wreck” yn Rhan 9 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(1)) a godir wrth garthu neu a symudir ymaith o bryd i'w gilydd yn eiddo i'r Comisiynwyr, a chânt ei ddefnyddio, ei feddiannu neu'i waredu fel y tybiant yn briodol.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, ni cheir dyddodi unrhyw ddeunyddiau a garthwyd islaw lefel y penllanw, ac eithrio yn y cyfryw fannau, ac yn unol â'r cyfryw amodau a chyfyngiadau, a gymeradwyir neu a ragnodir gan Weinidogion Cymru.

Angorfeydd

25.—(1Caiff y Comisiynwyr ddarparu, lleoli, gosod, cynnal, adnewyddu, defnyddio, cael neu symud ymaith pa bynnag angorfeydd o fewn yr harbwr—

(a)ar dir sy'n eiddo iddynt neu a brydlesir ganddynt neu y mae ganddynt fuddiant priodol ynddo; neu

(b)gyda chaniatâd ysgrifenedig y perchennog a'r prydlesai, ar unrhyw dir arall yn yr harbwr;

fel y tybiant yn angenrheidiol neu'n ddymunol er hwylustod llongau.

(2Caiff y Comisiynwyr ddyroddi hawlenni ar ba bynnag amodau (gan gynnwys amodau ynglŷn â thalu) y tybiant yn briodol, i awdurdodi deiliad yr hawlen i ddefnyddio neu ganiatáu defnyddio unrhyw angorfeydd a ddarperir gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon.

(3Caiff y Comisiynwyr wneud compownd gydag unrhyw berson mewn perthynas â'r taliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

(4) (aCaiff y Comisiynwyr roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person sydd â rheolaeth ar unrhyw long sydd, ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn defnyddio unrhyw angorfa yn yr harbwr, i wneud yn ofynnol bod y person hwnnw, o fewn 28 diwrnod, yn symud ymaith yr angorfa er mwyn galluogi'r Comisiynwyr i ddarparu angorfeydd yn unol â pharagraff (1).

(b)Rhaid i'r Comisiynwyr gynnig rhoi angorfa ar gael, a ddarperir ganddynt o dan baragraff (1), i'r person sydd â rheolaeth ar y llong y cyfeirir ati yn yr hysbysiad, cyn gynted ag y bydd angorfa o'r fath wedi ei gosod.

(c)Os bydd unrhyw berson yn peidio â chydymffurfio â hysbysiad a roddir gan y Comisiynwyr o dan y paragraff hwn, caiff y Comisiynwyr, ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod o 28 diwrnod o'r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad, symud ymaith yr angorfa y cyfeirir ati yn yr hysbysiad hwnnw.

(5) (aCaiff y Comisiynwyr, o bryd i'w gilydd, ganiatáu trwydded i berson, gydag amodau neu hebddynt, i leoli, gosod, cynnal, adnewyddu, defnyddio a chael angorfeydd presennol ac yn y dyfodol, ar gyfer llongau yn yr harbwr.

(b)Nid oes dim mewn unrhyw drwydded o'r fath sy'n rhoi hawl i berson leoli, gosod, cynnal, adnewyddu, neu ddefnyddio a chael unrhyw angorfa ar dir nad yw'n eiddo i'r person hwnnw neu i'r Comisiynwyr, neu wedi ei brydlesu ganddo neu ganddynt, neu nad oes gan y person hwnnw fuddiant priodol ynddo.

(c)Am drwydded o'r fath, caiff y Comisiynwyr godi pa bynnag ffi resymol a ragnodir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynwyr.

Rhwystrau mewn angorfeydd

26.—(1Mae unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu o dan awdurdod y Comisiynwyr i osod angorfeydd;

(b)yn fwriadol a heb awdurdod cyfreithlon yn tynnu allan neu'n symud ymaith y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw angorfeydd o'r harbwr;

(c)heb esgus rhesymol yn achosi neu'n caniatáu i long gael ei hangori yn yr harbwr ac eithrio mewn angorfa a ddarperir neu a drwyddedir gan y Comisiynwyr o dan y Gorchymyn hwn; neu

(ch)yn lleoli, gosod, cynnal, adnewyddu neu'n cael yn yr harbwr unrhyw angorfa nas darparwyd neu nas trwyddedwyd gan y Comisiynwyr o dan y Gorchymyn hwn;

yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(2Os yw unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan baragraff (1)(c), caiff y Comisiynwyr, ar unrhyw adeg ar ôl diwedd cyfnod o saith diwrnod o ddyddiad y tramgwydd—

(a)symud ymaith y llong, gan gynnwys unrhyw offer sydd ynghyd â'r llong;

(b)gwaredu'r cyfryw; ac

(c)adennill allan o'r arian gwerthiant—

(i)unrhyw ffi sy'n daladwy o dan erthygl 33 ac nas talwyd;

(ii)unrhyw ffi am drwydded sy'n daladwy o dan erthygl 25 ac nas talwyd; a

(iii)treuliau'r symud a'r gwaredu o dan y paragraff hwn;

a byddant yn dal unrhyw warged o'r arian gwerthiant mewn ymddiriedolaeth dros berchennog y llong.

(3Os nad yw'n hysbys pwy yw perchennog llong a symudir o dan baragraff (2) , ac na ellir dod o hyd i'r perchennog ar ôl ymchwilio'n ddiwyd, caiff y Comisiynwyr wneud cais i'r Llys Ynadon am orchymyn yn rhoi cyfarwyddiadau priodol ynglŷn â gwaredu, gan y Comisiynwyr, unrhyw warged o arian gwerthiant.

(4Os yw unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan baragraff (1)(ch), caiff y Comisiynwyr symud ymaith yr angorfa dan sylw, ac adennill y treuliau o wneud hynny gan y person hwnnw.

Symud rhwystrau ac eithrio llongau, cerbydau a llongddrylliadau

27.—(1Heb leihau dim ar eu pwerau o dan unrhyw ddeddfiad arall (gan gynnwys un a gynhwysir yn y Gorchymyn hwn) caiff y Comisiynwyr symud ymaith unrhyw beth sy'n peri, neu'n debygol o beri, rhwystr neu lyffethair i'r defnydd priodol o unrhyw ran o'r harbwr, ac eithrio—

(a)llong;

(b)cerbyd; neu

(c)longddrylliad o fewn yr ystyr a roddir i “wreck” yn Rhan 9 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(2).

(2Os yw'n hysbys i'r Comisiynwyr bod unrhyw beth a symudir ymaith ganddynt o dan baragraff (1) yn eiddo i unrhyw berson, neu os yw wedi ei farcio fel y gellir ei adnabod yn hawdd fel eiddo i unrhyw berson, rhaid i'r Comisiynwyr, o fewn un mis ar ôl cymryd y peth i'w gofal, roi hysbysiad i'r person hwnnw yn unol â pharagraff (6), ac os nad adfeddiennir y peth o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad ac yn unol â thelerau'r hysbysiad, breinir y peth yn y Comisiynwyr ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(3Os yw perchnogaeth unrhyw beth a symudir ymaith gan y Comisiynwyr o dan baragraff (1) yn anhysbys neu heb ei marcio arno, ac os na phrofir ei berchnogaeth wrth fodd rhesymol y Comisiynwyr o fewn tri mis ar ôl cymryd y peth i'w gofal, breinir y peth hwnnw yn y Comisiynwyr.

(4Caiff y Comisiynwyr, ar y cyfryw adeg ac yn y cyfryw fodd yr ystyriant yn briodol, waredu unrhyw beth sydd o natur ddarfodus neu ffiaidd, neu unrhyw beth y byddai ei gadw'n achosi cost neu anghyfleustra afresymol, hyd yn oed os nad yw wedi ei freinio yn y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon, ac os gwerthir y peth, defnyddir yr arian gwerthiant gan y Comisiynwyr i dalu'r treuliau a achoswyd iddynt o dan yr erthygl hon mewn perthynas â'r peth, a rhaid i unrhyw weddill—

(a)cael ei dalu i unrhyw berson sy'n profi ei berchnogaeth ohono ar yr adeg honno wrth fodd rhesymol y Comisiynwyr, o fewn tri mis i'r amser y daeth y peth i ofal y Comisiynwyr; neu

(b)os na fydd unrhyw berson yn profi ei berchnogaeth ohono o fewn y cyfnod perthnasol, gael ei freinio yn y Comisiynwyr.

(5Os bydd unrhyw beth a symudir ymaith o dan yr erthygl hon—

(a) yn cael ei werthu gan y Comisiynwyr a'r arian gwerthiant yn annigonol i ad-dalu iddynt swm y treuliau a achoswyd iddynt drwy arfer eu pwerau i'w symud; neu

(b)yn anwerthadwy;

caiff y Comisiynwyr adennill y diffyg neu'r cyfan o'r treuliau, yn ôl fel y digwydd, gan y person a oedd yn berchennog y peth a symudwyd pan ddaeth y peth i ofal y Comisiynwyr, neu gan y person a oedd ei berchennog ar yr adeg y'i gadawyd neu y'i collwyd.

(6Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (2) roi manylion o'r peth a symudwyd a datgan y ceir, ar ôl profi perchnogaeth er boddhad rhesymol i'r Comisiynwyr, gymryd meddiant o'r peth yn y man ac ar yr amser a bennir yn yr hysbysiad, sef dim llai na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad.

(7Rhaid i'r Comisiynwyr beidio â symud unrhyw beth, o dan y pwerau yn yr erthygl hon, sydd wedi ei osod neu'i adeiladu gan unrhyw berson o dan ddarpariaethau unrhyw ddeddfiad neu ddarpariaethau caniatâd neu drwydded, a roddwyd neu a ddyroddwyd gan y Comisiynwyr.

Pŵer i feddiannu rhannau o'r harbwr

28.—(1Caiff y Comisiynwyr neilltuo a meddiannu unrhyw ran o gyfleusterau'r harbwr sydd ar y tir at ddefnydd ac i letya'n unig neu'n flaenoriaethol unrhyw fasnach, gweithgarwch, person, llong neu ddosbarth o longau, neu nwyddau penodol, yn ddarostyngedig i ba bynnag delerau, amodau a rheoliadau a ystyrir yn briodol gan y Comisiynwyr.

(2Ni chaiff unrhyw berson neu long ddefnyddio unrhyw ran o'r harbwr a neilltuwyd neu a feddiannwyd o dan yr erthygl hon heb ganiatâd yr harbwrfeistr.

(3Caiff yr harbwrfeistr orchymyn i unrhyw berson neu long, na chafodd ganiatâd o dan baragraff (2), ymadael neu gael ei symud o unrhyw ran o'r harbwr a neilltuwyd neu a feddiannwyd o dan yr erthygl hon.

(4Mae darpariaethau adran 58 (pwerau harbwrfeistr o ran symud llongau mewn harbwr) o Ddeddf 1847 yn ymestyn ac yn gymwys, gyda'r addasiadau angenrheidiol, i unrhyw longau, neu mewn perthynas ag unrhyw longau y gorchmynnir iddynt ymadael neu gael eu symud o dan baragraff (3).

(5Nid oes dim yn yr erthygl hon sy'n awdurdodi gwahardd mordwyo o fewn unrhyw ran o'r harbwr, nac yn awdurdodi ymyrryd â hawliau tramwy'r cyhoedd ar draws llithrfeydd cyhoeddus a cheiau cyhoeddus.

Badau ac offer ar gyfer achub bywyd

29.—(1At y diben o achub bywydau, caiff y Comisiynwyr ddarparu a chynnal y canlynol yn yr harbwr neu yng nghyffiniau'r harbwr—

(a)badau neu longau eraill ynghyd â'r holl gyfarpar ac offer ac adeiladau, adeileddau, llithrfeydd ac angorfeydd angenrheidiol i'w gweithredu, eu cynnal neu'u lletya; a

(b)bwiau achub, rhaffau achub, ac offer eraill ar gyfer achub bywydau ynghyd ag adeileddau i'w storio a'u diogelu.

(2Caiff y Comisiynwyr ymuno mewn trefniadau gydag unrhyw berson i ddarparu a chynnal unrhyw rai o'r cyfleusterau a awdurdodir gan baragraff (1).

Is-ddeddfau ynglŷn â'r harbwr

30.—(1Yn ychwanegol at yr is-ddeddfau y caniateir i'r Comisiynwyr eu gwneud o dan adran 83 o Ddeddf 1847, caiff y Comisiynwyr wneud is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth a llywodraeth dda'r harbwr, gan gynnwys y cyfan neu unrhyw rai o'r dibenion canlynol—

(a)ar gyfer rheoleiddio'r modd y defnyddir pontynau, llwyfaniadau, ceiau, jetïau, pierau, rhodfeydd, pontydd, dynesfeydd, llithrfeydd, mannau glanio, mannau docio, lifftiau cychod, pyst angori, adeiladau, lleoedd parcio a gweithiau a chyfleusterau eraill a ddarperir gan y Comisiynwyr;

(b)i atal difrod neu niwed i unrhyw long, nwyddau, cerbyd, peiriannau, peirianwaith, eiddo neu bersonau yn yr harbwr;

(c)ar gyfer rheoleiddio, atal neu drwyddedu ymddygiad yr holl bersonau, mewn llongau neu fel arall, yn yr harbwr, nad ydynt yn aelodau o heddlu neu'n swyddogion neu'n weision y Goron sy'n ymgymryd â'u dyletswyddau fel y cyfryw;

(ch)ar gyfer rheoleiddio'r modd y lleolir, gosodir, cynhelir a defnyddir yr angorfeydd, ac ar gyfer rhagnodi patrymau a manylebau'r angorfeydd;

(d)ar gyfer atal neu symud ymaith rwystrau neu lyffetheiriau o fewn yr harbwr;

(dd)ar gyfer rheoleiddio lansio llongau o fewn yr harbwr;

(e)ar gyfer rheoleiddio neu wahardd angori llongau, troi llongau ar eu hochrau i'w glanhau, tirio llongau, neu ollwng angorau a chadw llongau yn yr harbwr;

(f)ar gyfer rheoleiddio neu atal defnyddio tanau, goleuadau, neu unrhyw gyfarpar, celfi neu offer arall sydd, ym marn y Comisiynwyr, yn achosi risg o dân, yn yr harbwr neu ar fwrdd unrhyw long, ac er mwyn atal ysmygu;

(ff)ar gyfer rheoleiddio'r modd y symudir neu y gwaredir sbwriel (gan gynnwys balast, pridd neu glai neu wastraff arall) a charthion o longau yn yr harbwr;

(g)i atal gwaredu sbwriel a charthion o'r fath yn yr harbwr;

(ng)ar gyfer gwahardd y defnydd o gerbydau yn yr harbwr neu reoleiddio'u symudiadau eu cyflymder a'u parcio o fewn yr harbwr;

(h)i wneud yn ofynnol defnyddio distewyddion effeithiol, a rheoli sŵn yn gyffredinol ar longau yn yr harbwr;

(i)ar gyfer rheoleiddio llongau yn yr harbwr, eu mynediad i mewn a'u hymadawiad oddi yno, a heb leihau cyffredinolrwydd y blaenorol, rhagnodi rheolau ar gyfer rheoleiddio cyflymder a dull y mordwyo, a'r goleuadau a signalau sydd i'w dangos neu'u gwneud gan, neu er budd llongau sy'n defnyddio'r harbwr neu'n mordwyo neu'n angori ynddo;

(j)ar gyfer rheoleiddio'r modd y mae personau'n mynd ar fwrdd, ac oddi ar fwrdd llongau o fewn yr harbwr;

(l)ar gyfer rheoleiddio'r modd y cynhelir regatas a digwyddiadau cyhoeddus eraill yn yr harbwr;

(ll)ar gyfer rhagnodi'r goleuadau a'r signalau sydd i'w dangos neu'u gwneud—

(i)gan longau sydd ar lawr o fewn yr harbwr;

(ii)gan ddyfeisiadau a ddefnyddir i farcio rhwystrau o fewn yr harbwr;

(iii)i gynorthwyo mordwyaeth llongau o fewn yr harbwr, yn y fynedfa i unrhyw ddoc, neu wrth unrhyw lanfa, pier neu waith arall;

(m)ar gyfer atal niwsansau yn yr harbwr;

(n)ar gyfer atal neu reoleiddio gollwng unrhyw ddeunydd neu beth, oddi ar y tir neu ar y môr, o fewn yr harbwr neu'r dynesfeydd tuag ato;

(o)ar gyfer rheoleiddio neu wahardd pysgota am greaduriaid morol o unrhyw fath ac â pha bynnag ddull o unrhyw bier, jeti neu osodiad neu adeiledd arall o unrhyw fath o fewn yr harbwr;

(p)ar gyfer rheoleiddio neu wahardd sglefrio ar ddŵr, sgïo jet, sgïo dŵr, neu ddeifio neu weithgareddau hamdden eraill yn yr harbwr, ond nid mewn ffordd a fyddai'n gwahardd defnyddio iotiau, cychod hwylio, byrddau hwylio, cychod rhwyfo, pyntiau rhwyfo, badau pleser neu fân fadau eraill i fordwyo.

(ph)ar gyfer rheoleiddio neu wahardd ymdrochi, ac i sicrhau diogelwch ymdrochwyr o fewn yr harbwr;

(r)ar gyfer rheoleiddio neu wahardd defnyddio'r blaendraeth gan gerbydau o fewn yr harbwr;

(rh)ar gyfer rheoleiddio'r defnydd o fferïau o fewn yr harbwr; a

(s)ar gyfer rheoleiddio arfer y pwerau a freiniwyd yn yr harbwrfeistr.

(2Yn yr erthygl hon mae “signalau” (“signals”) yn cynnwys signalau sain.

(3Ceir mynegi bod is-ddeddfau a wneir o dan yr erthygl hon, neu o dan adran 83 o Ddeddf 1847, yn gymwys o fewn y cyfan neu o fewn unrhyw ran o'r harbwr, a cheir gwneud is-ddeddfau gwahanol mewn perthynas â gwahanol ddosbarthiadau o longau.

(4Mae'r darpariaethau a gynhwysir yn is-adrannau (3) i (8) o adran 236 ac adran 238 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3) yn gymwys i'r holl is-ddeddfau a wneir gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon neu unrhyw ddeddfiad arall.

(5Rhaid dehongli is-adran (7) o'r adran 236 a enwyd, yn y modd y'i cymhwysir i is-ddeddfau a wneir gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon, yn ddarostyngedig i baragraff (6), fel pe bai wedi ei diwygio drwy fewnosod y geiriau “with or without modifications” ar ôl y gair “confirm” yn y man lle mae'r gair hwnnw'n digwydd gyntaf.

(6Pan fo'r awdurdod sy'n cadarnhau yn bwriadu gwneud addasiad sy'n ymddangos i'r awdurdod hwnnw yn un sylweddol—

(a)rhaid iddo hysbysu'r Comisiynwyr a gwneud yn ofynnol bod y Comisiynwyr yn cymryd pa bynnag gamau yr ystyria'r awdurdod yn angenrheidiol i hysbysu'r personau sy'n debygol o ymwneud â'r addasiad hwnnw; a

(b)rhaid iddo beidio â chadarnhau'r is-ddeddfau hyd nes bo cyfnod a ystyria'n rhesymol wedi mynd heibio, er mwyn i'r Comisiynwyr a phersonau eraill a hysbyswyd ynghylch yr addasiad arfaethedig ystyried a gwneud sylwadau ar y cynnig.

(7Yr awdurdod sy'n cadarnhau, at ddibenion yr erthygl hon a'r adran 236 a enwyd, yn y modd y'i cymhwysir i is-ddeddfau a wneir gan y Comisiynwyr, yw Gweinidogion Cymru.

(8Caiff is-ddeddfau a wneir gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon gynnwys darpariaethau i osod dirwy ar berson sy'n tramgwyddo yn erbyn unrhyw is-ddeddf ac a gollfernir yn ddiannod, sef dim mwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(9Ystyrir bod yr is-ddeddfau a wnaed gan y Comisiynwyr blaenorol ar 13 Ebrill 1971, fel y'u cadarnhawyd gan y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 28 Ebrill 1971, ac yr honnir iddynt gael eu haddasu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Tachwedd 2003, yn is-ddeddfau a wnaed gan y Comisiynwyr o dan yr erthygl hon ac a gadarnhawyd wedyn gan Weinidogion Cymru.

(10Er mwyn osgoi amheuaeth, caiff is-ddeddfau a wneir gan y Comisiynwyr o dan baragraff (1) ddiwygio neu ddirymu, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, yr is-ddeddfau yr ystyrir eu bod wedi eu gwneud a'u cadarnhau yn rhinwedd paragraff (9).

Symud cerbydau

31.—(1Os gadewir cerbyd heb ganiatâd y Comisiynwyr—

(a)mewn unrhyw fan lle mae'n debygol o rwystro neu ymyrryd â defnyddio'r harbwr;

(b)mewn unrhyw ran o'r maes parcio neu fangre'r harbwr lle y gwaherddir parcio cerbydau gan arwydd a arddangoswyd gan y Comisiynwyr; neu

(c)mewn lle parcio a ddarparwyd gan y Comisiynwyr o fewn y maes parcio neu fangre'r harbwr am gyfnod hwy na 24 awr, neu pa bynnag gyfnod arall a bennir mewn arwydd a arddangoswyd gan y Comisiynwyr;

caiff y Comisiynwyr, ar risg y perchennog, symud y cerbyd neu beri iddo gael ei symud oddi yno.

(2Rhaid i unrhyw arwydd a godir o dan baragraff (1)(b) neu (c) gael ei arddangos mewn lle amlwg, yn y man, neu'n agos at y man, y mae'n cyfeirio ato.

(3Pan fo'r Comisiynwyr yn arfer y pwerau yn yr erthygl hon, i symud cerbyd neu beri bod cerbyd yn cael ei symud, rhaid i'r Comisiynwyr hysbysu'r heddlu cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

(4Mae treuliau symud a chadw cerbyd o dan yr erthygl hon, a threuliau cysylltiedig, yn adenilladwy gan unrhyw berson sy'n gyfrifol.

(5At ddibenion paragraff (4), ystyr “person sy'n gyfrifol” (“person responsible”) yw—

(a)perchennog y cerbyd ar yr adeg y'i gosodwyd yn y man y'i symudwyd ohono o dan baragraff (1), oni phrofir gan y perchennog nad oedd a wnelo ef â gosod y cerbyd yn y man hwnnw ac na wyddai fod y cerbyd yno;

(b)unrhyw berson a osododd y cerbyd yn y man hwnnw; neu

(c)unrhyw berson a gollfarnwyd am dramgwydd o dan adran 2 o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978(4) o ganlyniad i osod y cerbyd yn y man hwnnw.

(6Os yw'r Comisiynwyr wrth arfer y pwerau yn yr erthygl hon yn symud cerbyd i fan lle nad yw'n hawdd i'w weld o'r man y'i symudwyd ohono, rhaid iddynt, os a chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol iddynt wneud hynny, anfon at y person sydd wedi ei gofrestru ar y pryd fel perchennog y cerbyd yng nghyfeiriad olaf y perchennog hwnnw sy'n hysbys, ei gyfeiriad cofrestredig neu'r cyfeiriad lle cedwir y cerbyd fel arfer, hysbysiad bod y Comisiynwyr wedi arfer y pwerau o dan yr erthygl hon, ac o'r man y symudwyd y cerbyd iddo.

(7Rhaid arddangos arwydd sy'n datgan effaith gyffredinol paragraff (1) mewn safle amlwg ym mhob man lle mae ffordd sy'n agored i gerbydau yn mynd i mewn i unrhyw ran o fangre'r harbwr.

Atal cerbydau a barciwyd yn anghyfreithlon rhag symud

32.—(1Os gadewir cerbyd ym mangre'r harbwr yn groes i erthygl 31, caiff swyddog awdurdodedig y Comisiynwyr—

(a)gosod dyfais atal symud ar y cerbyd tra bo'n parhau yn y man y'i canfuwyd gan y swyddog awdurdodedig; neu

(b)ei symud o'r man hwnnw i le arall ym mangre'r harbwr, a gosod dyfais atal symud arno yn y man arall hwnnw.

(2Rhaid i'r person sy'n gosod y ddyfais osod hysbysiad hefyd ar y cerbyd—

(a)yn dynodi bod dyfais o'r fath wedi ei gosod ar y cerbyd ac yn rhybuddio na ddylid gwneud unrhyw ymgais i yrru'r cerbyd, nac i'w roi ar fynd rywfodd arall cyn ei ryddhau o'r ddyfais honno;

(b)yn pennu pa gamau y mae'n rhaid eu cymryd i gael rhyddhau'r cerbyd; ac

(c)yn rhoi pa bynnag wybodaeth arall a ragnodir gan y Comisiynwyr.

(3Ni cheir rhyddhau cerbyd, y gosodwyd dyfais atal symud arno yn unol â'r erthygl hon, o'r ddyfais honno ac eithrio gan, neu o dan gyfarwyddyd person a awdurdodwyd gan y Comisiynwyr i roi cyfarwyddyd o'r fath.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid rhyddhau cerbyd y gosodwyd dyfais atal symud arno yn unol â'r erthygl hon, o'r ddyfais honno, pan delir pa bynnag ffi a ragnodir gan y Comisiynwyr mewn perthynas â'r rhyddhau, gan ddefnyddio unrhyw ddull o dalu a bennir yn yr hysbysiad a osodir o dan baragraff (2).

(5Mae unrhyw berson sy'n tynnu ymaith, neu'n ceisio tynnu ymaith, ddyfais atal symud a osodwyd ar gerbyd yn unol â'r erthygl hon, ac yntau heb ei awdurdodi i wneud hynny yn unol â pharagraff (3), yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(6Os symudir cerbyd yn unol â'r erthygl hon cyn bod dyfais atal symud wedi ei gosod arno, bydd unrhyw bŵer i'w symud ymaith o dan erthygl 31, a oedd yn arferadwy mewn perthynas â'r cerbyd hwnnw yn union cyn ei symud, yn parhau'n arferadwy tra bo'r cerbyd yn aros yn y man y'i symudwyd iddo.

(7Yn yr erthygl hon ystyr “dyfais atal symud” (“immobilisation device”) yw unrhyw ddyfais neu offer a gymeradwywyd fel “immobilisation device” at ddibenion adran 104 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(5).

(8Rhaid arddangos arwydd sy'n datgan effaith gyffredinol paragraff (1) mewn safle amlwg ym mhob man lle mae ffordd sy'n agored i gerbydau yn mynd i mewn i unrhyw ran o fangre'r harbwr.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources