xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Gwnaed
12 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Gorffennaf 2011
Yn dod i rym
15 Awst 2011
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y Rheoliadau canlynol fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd—
(a)Rhan B o Atodiad XIV i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007(3) sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (y Rheoliad CMO Sengl); a
(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008(4) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod.
I'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(5), mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, fel sy'n ofynnol gan adran 48(4A)(6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau canlynol, fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(7), sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Mae Gweinidogion Cymru, y breinir ynddynt yn awr y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1), 17, 26(2) a (3), 45(1) a 48(1)(8) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(9), yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau hynny a'r pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A(10) o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Awst 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae'r Rheoliadau yn gymwys i gig dofednod a ddisgrifir ym mhwynt I(1) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl, ac eithrio cig dofednod a ddisgrifir ym mhwynt I(2) o'r Rhan honno o'r Atodiad hwnnw i'r Rheoliad hwnnw.
(4) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran cyflenwi meintiau bach o gig dofednod yn uniongyrchol gan gynhyrchydd sydd â'i gynnyrch blynyddol yn llai na 10,000 o adar pan fo'r cig—
(a)yn dod o ddofednod a gigyddir ar fferm y cynhyrchydd; a
(b)yn cael ei gyflenwi i—
(i)y defnyddiwr olaf; neu
(ii)sefydliad manwerthu lleol sy'n cyflenwi cig o'r fath yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf fel cig ffres.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw awdurdod sy'n arfer swyddogaeth a roddwyd iddo gan reoliad 9;
mae i “cig dofednod” (“poultrymeat”) yr ystyr a roddir i “poultrymeat” gan bwynt II(1) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl;
ystyr “darpariaeth cig dofednod Ewropeaidd” (“European poultrymeat provision”) yw darpariaeth o'r Rheoliad CMO Sengl neu Reoliad y Comisiwn a bennir yng ngholofn 1 o Ran 1 neu 2 o Atodlen 1, fel y'i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o Ran 1 neu 2 o'r Atodlen honno;
ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw le, gan gynnwys y lleoedd y mae'n ofynnol eu harchwilio o dan Erthygl 12(5)(a) i (d) o Reoliad y Comisiwn, ac unrhyw gerbyd, ôl-gerbyd, stondin neu adeiledd symudol;
ystyr “y Rheoliad CMO Sengl” (“Single CMO Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (y Rheoliad CMO Sengl);
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â safonau marchnata ar gyfer cig dofednod, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;
ystyr “swyddog” (“officer”)—
mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o bwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff hwnnw; a
mewn perthynas â chorff anghorfforedig, yw unrhyw aelod o'i gorff llywodraethu neu brif weithredwr, rheolwr neu swyddog cyffelyb arall y corff hwnnw;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd ag awdurdod ysgrifenedig gan awdurdod gorfodi i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;
mae “torri” (“contravene”) yn cynnwys methiant i gydymffurfio, ac mae “toriad” (“contravention”) i'w ddehongli yn unol â hynny, ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl yn gyfeiriad at Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
(3) Mae i'r ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Rheoliad CMO Sengl neu yn Rheoliad y Comisiwn, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Rheoliad Ewropeaidd y'u defnyddir ynddo.
3. Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw'n torri darpariaeth o Reoliad y Comisiwn y cyfeirir ati yng ngholofn 1 o Atodlen 2, fel y'i darllenir ynghyd ag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno.
4.—(1) Rhaid i gig dofednod, a dorrir ac a drinnir mewn mangreoedd o'r math a grybwyllir ym mharagraff (2) ac a gaiff ei farchnata yn y mangreoedd hynny fel cig dofednod ffres, gael ei gadw yn y mangreoedd hynny ar dymheredd nad yw'n is na — 2ºC nac yn uwch nag 8ºC(11).
(2) Y mathau o fangreoedd yw—
(a)siopau manwerthu; a
(b)mangreoedd cyfagos i fannau gwerthu,
lle gwneir y torri a'r trin at yr unig ddiben o gyflenwi yn y fan a'r lle yn uniongyrchol i'r defnyddiwr.
5.—(1) Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi fel yr awdurdod cymwys at y diben o gofrestru lladd-dai a chynhyrchwyr fel sy'n ofynnol gan Erthygl 12 o Reoliad y Comisiwn.
(2) Caiff unrhyw berson sy'n dymuno gweithredu fel—
(a)lladd-dy; neu
(b)cynhyrchydd,
a awdurdodwyd i ddefnyddio'r termau a bennir yn Erthygl 11 o Reoliad y Comisiwn wneud cais mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais am gofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru, heb oedi'n afresymol, hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen o'r materion a bennir ym mharagraff (4).
(4) Y materion penodedig yw—
(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais;
(b)y rhesymau dros unrhyw wrthod cofrestriad; ac
(c)yr hawl i apelio, a roddir gan reoliad 6, mewn unrhyw achos pan wrthodir cofrestriad.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu diddymu cofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cynhyrchydd, neu, yn ôl fel y digwydd, y person sy'n cynnal busnes y lladd-dy dan sylw, o'r materion a bennir ym mharagraff (6).
(6) Y materion penodedig yw—
(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru i ddiddymu'r cofrestriad;
(b)y dyddiad y bydd y diddymiad yn cael effaith;
(c)y rhesymau am y diddymu; ac
(ch)yr hawl i apelio, a roddir gan reoliad 6.
6.—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad a bennir ym mharagraff (2) apelio i lys ynadon yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
(2) Y penderfyniadau yw—
(a)gwrthod cofrestriad, neu
(b)diddymu cofrestriad.
(3) Mae'r weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(12) yn gymwys i'r achosion.
(4) Y cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl yn erbyn penderfyniad a bennir ym mharagraff (2) yw 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y rhoddir hysbysiad o'r penderfyniad.
(5) Ni fydd diddymu cofrestriad fel a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) yn cael effaith hyd nes bo'r amser a ganiateir i apelio yn erbyn y penderfyniad wedi dod i ben, neu, os cyflwynir apêl, hyd nes penderfynir yr apêl yn derfynol neu hyd nes tynnir yr apêl yn ôl.
7. Mewn apêl yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru fel a grybwyllir yn rheoliad 6(2), caiff y llys ynadon naill ai wrthdroi'r penderfyniad neu gadarnhau'r penderfyniad.
8.—(1) Ac eithrio pan gyflawnir gwiriad cynhwysiad dŵr, fel sy'n ofynnol gan Erthygl 16(1), (2), (3) neu (4) neu 20(2), (3) a (4) o Reoliad y Comisiwn, gan yr Asiantaeth, rhaid i wiriad o'r fath gael ei wneud gan weithredwr busnes bwyd y lladd-dy neu'r ffatri dorri dan sylw.
(2) Ac eithrio pan wneir y gwiriad cynhwysiad dŵr y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gan yr Asiantaeth, rhaid gwneud gwiriad o'r fath—
(a)ar gost gweithredwr y busnes bwyd; a
(b)o dan gyfrifoldeb yr Asiantaeth ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan yr Asiantaeth.
(3) Mae Atodlen 3 yn cael effaith mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy i'r Asiantaeth am wiriadau cynhwysiad dŵr a gyflawnir gan yr Asiantaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn mae i “gweithredwr busnes bwyd” (“food business operator”) yr ystyr a roddir i “food business operator” yn Erthygl 3(3) o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(13) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
9.—(1) Rhaid i'r Asiantaeth orfodi'r darpariaethau cig dofednod Ewropeaidd mewn lladd-dai a ffatrïoedd torri.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i awdurdod bwyd orfodi—
(a)y darpariaethau cig dofednod Ewropeaidd yn ei ardal (ac eithrio mewn lladd-dai a ffatrïoedd torri); a
(b)rheoliad 4.
(3) Rhaid i awdurdod iechyd porthladd orfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ddosbarth mewn perthynas â chig dofednod a fewnforir o drydedd wlad.
(4) Rhaid i'r gofynion cadw cofnodion yn Erthygl 12(2) a (4) o Reoliad y Comisiwn gael eu gorfodi gan Weinidogion Cymru.
(5) Yn y rheoliad hwn—
mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(14), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw, a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno.
10. Rhaid i bob awdurdod gorfodi roi i unrhyw awdurdod gorfodi arall unrhyw gymorth a gwybodaeth y mae angen rhesymol eu cael ar yr awdurdod hwnnw at y diben o gynorthwyo'r awdurdod hwnnw i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn.
11.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre (ac eithrio mangre a ddefnyddir fel tŷ annedd preifat) ar unrhyw adeg resymol at y diben o sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff y swyddog awdurdodedig fynd â'r canlynol gydag ef—
(a)unrhyw bersonau eraill sy'n angenrheidiol ym marn y swyddog awdurdodedig; a
(b)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.
(3) Rhaid i swyddog awdurdodedig beidio ag arfer y pwerau o dan baragraff (1) neu (2) ac eithrio ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, dogfen a ddilyswyd yn briodol i ddangos awdurdod y swyddog.
(4) Nid oes hawl i fynnu cael mynediad i unrhyw fangre a ddefnyddir fel tŷ annedd preifat onid eir i mewn iddi yn unol â gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn
(5) Os yw ynad heddwch, ar sail tystiolaeth ysgrifenedig a roddwyd o dan lw, wedi ei fodloni ynglŷn â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (6), caiff yr ynad lofnodi gwarant sy'n caniatáu i swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen.
(6) Y materion yw—
(a)bod sail resymol dros gredu bod Amod A neu B wedi ei fodloni; a
(b)bod Amod C, CH, D neu DD wedi ei fodloni.
(7) Amod A yw fod eitemau yn y fangre o'r math a grybwyllir yn rheoliad 12(1)(a) neu ddogfennau neu gofnodion o'r math a grybwyllir yn rheoliad 12(1)(ch) a bod eu harchwilio'n debygol o ddatgelu tystiolaeth o dorri'r Rheoliadau hyn.
(8) Amod B yw fod toriad o'r Rheoliadau hyn wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd yn y fangre honno.
(9) Amod C yw fod mynediad i'r fangre wedi ei wrthod, neu'n debygol o gael ei wrthod a'r meddiannydd wedi ei hysbysu (naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen) y gellir gwneud cais am warant.
(10) Amod CH yw fod mynediad i'r fangre wedi ei wrthod, neu'n debygol o gael ei wrthod, a phe hysbysid y meddiannydd y gellid gwneud cais am warant o dan y rheoliad hwn, gallai hynny danseilio'r diben o fynd i mewn.
(11) Amod D yw fod y fangre heb feddiannydd, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai aros iddo ddychwelyd danseilio'r diben o fynd i mewn.
(12) Amod DD yw fod y fangre'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat.
(13) Mae gwarant a roddir o dan baragraff (5)—
(a)yn ddilys am un mis, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y rhoddir y warant; a
(b)rhaid dangos y warant i'w harchwilio gan y person (os oes un) y mae'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn feddiannydd y fangre, neu'r person sy'n gofalu amdani.
(14) Rhaid i swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre sydd heb feddiannydd, neu sydd â'i meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn i'r swyddog ddod yno.
12.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig (“S”) sy'n mynd i mewn i fangre o dan reoliad 11—
(a)archwilio'r fangre, ac unrhyw offer, peiriannau neu gyfarpar sydd yn y fangre honno, ac unrhyw rai o'r eitemau canlynol a ddarganfyddir yn y fangre honno—
(i)unrhyw gig y mae gan S sail resymol dros gredu ei fod yn gig dofednod (gan gynnwys syrth ac unrhyw ddeunydd pacio y canfyddir y cig ynddynt);
(ii)unrhyw gynhwysydd gwag;
(iii)unrhyw label;
(iv)unrhyw ddeunydd pacio; a
(v)unrhyw ddofednod byw;
(b)chwilio'r fangre;
(c)cynnal unrhyw ymholiadau, archwiliadau neu brofion;
(ch)sicrhau mynediad i unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ym mha bynnag ffurf y'u cedwir) sy'n ymwneud â materion o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn, eu harchwilio a'u copïo, a'u symud oddi yno i alluogi eu copïo;
(d)sicrhau mynediad i, ac archwilio a gwirio gweithrediad, a'r data a gynhwysir mewn, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw ddyfais storio electronig neu gyfarpar cysylltiedig (“offer cyfrifiadurol”), a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r dogfennau neu gofnodion a grybwyllir yn is-baragraff (ch) gan gynnwys data mewn perthynas â ffeiliau a ddilëwyd a logiau gweithgarwch; ac at y diben hwnnw, caiff S ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy'n gofalu am yr offer cyfrifiadurol, neu rywfodd arall yn ymwneud â'u gweithredu, yn rhoi i S pa bynnag gymorth (gan gynnwys darparu cyfrineiriau) ag a fynnir yn rhesymol gan S, ac yn ystod y gwiriadau, caiff S adfer data a gedwir yn yr offer cyfrifiadurol; ac
(dd)pan gedwir dogfen neu gofnod a grybwyllir yn is-baragraff (ch) drwy gyfrwng gyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol bod y cofnod yn cael ei gynhyrchu ar ffurf sy'n caniatáu ei gludo ymaith.
(2) Caiff S roi cyfarwyddyd i berson sy'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r eitemau neu'r mangreoedd a grybwyllir isod, bod rhaid gadael y canlynol heb ymyrryd â hwy cyhyd ag y bo'n angenrheidiol yn rhesymol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad—
(a)unrhyw un neu ragor o'r eitemau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) i (v); a
(b)unrhyw fangre y darganfyddir unrhyw rai o'r eitemau hynny arni neu ynddi.
(3) Pan fo S yn rhoi cyfarwyddyd i berson o dan baragraff (2) rhaid cadw'r eitemau hynny sy'n destun y cyfarwyddyd yn y fangre honno ar gost y person hwnnw.
(4) Caiff S ymafael mewn, a chadw, unrhyw eitem o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) i (iv) neu ddogfen neu gofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(ch) os oes rheswm ganddo i gredu y gallai fod eu hangen fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.
(5) Caiff S ymafael mewn unrhyw eitem o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) i (iv) fel un sy'n agored i'w dinistrio, os yw S o'r farn yn rhesymol ei bod yn torri unrhyw ddarpariaeth o'r Rheoliadau hyn.
(6) Caiff S ymafael mewn unrhyw offer cyfrifiadurol at y diben o gopïo dogfennau neu gofnodion o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(ch), a gwirio gweithrediad, a'r data a gynhwysir mewn, unrhyw offer cyfrifiadurol a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r dogfennau neu'r cofnodion hynny (ac wrth wneud hynny caiff adfer data), ar yr amod y dychwelir yr offer cyn gynted ag y bo'n ymarferol, a beth bynnag o fewn 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod yr ymafaelir yn yr offer.
(7) Os na all S symud ymaith eitem neu offer cyfrifiadurol yr ymafaelir ynddi neu ynddynt o dan baragraff (4), (5) neu (6) ar unwaith, caiff—
(a)marcio'r eitem neu offer mewn unrhyw ffordd y tybia'n briodol; a
(b)rhoi i'r person sy'n ymddangos iddo ei fod â gofal o'r eitem neu offer cyfrifiadurol hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 12(7)”) sy'n—
(i)nodi manylion adnabod yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol;
(ii)ei gwneud yn ofynnol nad oes neb yn ymyrryd â'r eitem neu'r offer cyfrifiadurol hyd nes ei chesglir neu eu cesglir gan S; a
(iii)gwahardd symud yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol o'r fangre lle ei darganfuwyd neu eu darganfuwyd, hyd nes ei chesglir neu eu cesglir gan S.
(8) Pan fo S, yn unol ag Erthygl 8 o Reoliad y Comisiwn, wedi gwirio swp o gig dofednod ac wedi ei fodloni nad yw'r swp yn cydymffurfio â gofynion Erthygl 1 neu 7 o Reoliad y Comisiwn, caiff S roi cyfarwyddyd i unrhyw berson sy'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r swp neu'r fangre i beidio â marchnata neu fewnforio'r swp hwnnw hyd nes dangosir prawf i'r awdurdod gorfodi bod y swp wedi ei wneud i gydymffurfio â'r gofynion hynny.
(9) Caiff S roi pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyrir yn briodol gan S mewn perthynas â swp o gig dofednod y mae paragraff (10) yn gymwys iddo—
(a)i atal marchnata'r swp o fewn yr Undeb Ewropeaidd hyd nes bo'r deunydd pacio wedi ei farcio, dan oruchwyliaeth, yn y modd a grybwyllir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 16(6) o Reoliad y Comisiwn; neu
(b)i sicrhau yr allforir y swp i drydedd wlad.
(10) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i—
(a)swp o ieir wedi eu rhewi neu'u rhewi'n gyflym yr ystyrir, yn dilyn gwrth-ddadansoddiad, nad yw'n cydymffurfio ag Erthygl 15(1) o Reoliad y Comisiwn;
(b)swp a fewnforiwyd o ieir wedi eu rhewi neu'u rhewi'n gyflym, y canfyddir nad yw'n cydymffurfio ag Erthygl 15(1) o Reoliad y Comisiwn;
(c)swp o doriadau cig dofednod ffres, wedi eu rhewi neu'u rhewi'n gyflym yr ystyrir, yn dilyn gwrth-ddadansoddiad, nad yw'n cydymffurfio ag Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn; ac
(ch)swp a fewnforiwyd o doriadau cig dofednod ffres, wedi eu rhewi neu'u rhewi'n gyflym, y canfyddir nad yw'n cydymffurfio ag Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn.
(11) Rhaid i S beidio ag arfer unrhyw bŵer o dan y rheoliad hwn, neu roi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn, ac eithrio ar ôl cyflwyno, os gofynnir iddo, dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod.
(12) Caiff S gynnal archwiliad ar gais aelod-wladwriaeth arall neu ar gais y Comisiwn Ewropeaidd.
(13) Yn y rheoliad hwn, mae i “dofednod byw” (“live poultry”) yr ystyr a roddir i “live poultry” yn Rhan XX o Atodiad I i'r Rheoliad CMO Sengl.
13.—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig (“S”) ddilyn y gweithdrefnau a bennir yn y rheoliad hwn os yw'n ymafael mewn unrhyw beth o dan reoliad 12(4), (5) neu (6).
(2) Rhaid i S roi i'r person y mae'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r fangre yr ymafaelir yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ynddi (“y fangre”), hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddatgan—
(a)beth yr ymafaelodd S ynddo;
(b)pa bryd yr ymafaelodd S ynddo;
(c)ar ba sail yr ymafaelwyd yn yr eitem neu'r offer; ac
(ch)i ba gyfeiriad ac yn ystod pa gyfnod y gellir anfon hawliad am ddychwelyd yr eitem neu'r offer.
(3) Ond os yw'r fangre heb feddiannydd neu os yw'n ymddangos i S nad oes neb â gofal o'r fangre, rhaid i S osod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre sy'n cynnwys yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (2).
(4) Caiff person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig (gan gynnwys credydwr sydd â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem neu'r offer) hysbysu S ynglŷn ag unrhyw hawliad na ddylid bod wedi ymafael yn yr eitem, dogfen neu gofnod, neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig, gan ddatgan yn llawn y sail dros wneud yr hawliad.
(5) Rhaid anfon yr hawliad i'r cyfeiriad a bennir yn yr hysbysiad ymafael, o fewn 14 diwrnod o'r ymafaeliad, sy'n cychwyn ar y diwrnod yr ymafaelwyd yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol.
(6) Os na cheir hysbysiad o hawliad o fewn 14 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 12(4), caiff yr awdurdod gorfodi gadw'r eitem ymafaeledig cyhyd â bo angen tra'n ei dal at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn treial.
(7) Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 14 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 12(4), rhaid i'r awdurdod gorfodi—
(a)dychwelyd yr eitem ymafaeledig o fewn 7 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad; neu
(b)cadw'r eitem ymafaeledig cyhyd â bo angen tra'n ei dal at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn treial, ond rhaid iddo hysbysu'r hawlydd bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad.
(8) Os na cheir hysbysiad o hawliad o fewn 14 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 12(5), caiff yr awdurdod gorfodi—
(a)os yw'r awdurdod gorfodi'n penderfynu peidio â dinistrio'r eitem ymafaeledig, ond yn hytrach ei chadw at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, gadw'r eitem ymafaeledig cyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny, ond rhaid i'r awdurdod gorfodi—
(i)hysbysu'r person perthnasol bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn 14 diwrnod o ddiwedd y cyfnod hawlio, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod hawlio; neu
(ii)os na ŵyr yr awdurdod gorfodi pwy yw'r person perthnasol, ac os methir â darganfod hynny yn dilyn ymholiadau rhesymol gan yr awdurdod gorfodi, gosod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu ynghlwm wrth wrthrych amlwg ar y fangre honno, o fewn 14 diwrnod o ddiwedd y cyfnod hawlio, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod hawlio, yn datgan bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw a'r rheswm pam y mae'n cael ei chadw; neu
(b)dinistrio'r eitem ymafaeledig o fewn 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod hawlio o 14 diwrnod, ond rhaid i'r awdurdod gorfodi—
(i)hysbysu'r person perthnasol bod yr eitem ymafaeledig wedi ei dinistrio, o fewn 14 diwrnod ar ôl ei dinistrio, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y dinistrir yr eitem (neu ddiwrnod olaf y dinistrio os yw dinistrio'r eitem yn digwydd ar fwy nag un diwrnod); neu
(ii)os na ŵyr yr awdurdod gorfodi pwy yw'r person perthnasol, ac os methir â darganfod hynny yn dilyn ymholiadau rhesymol gan yr awdurdod gorfodi, gosod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu ynghlwm wrth wrthrych amlwg ar y fangre honno, o fewn 14 diwrnod o ddinistrio'r eitem, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y dinistrir yr eitem (neu ddiwrnod olaf y dinistrio os yw dinistrio'r eitem yn digwydd ar fwy nag un diwrnod) yn datgan bod yr eitem ymafaeledig wedi ei dinistrio.
(9) Ym mharagraff (8) ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—
(a)os yw'r awdurdod gorfodi'n gwybod enw person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig, y person hwnnw, neu (os gŵyr yr awdurdod gorfodi enwau mwy nag un person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig) pob un o'r personau hynny; neu
(b)os na ŵyr yr awdurdod gorfodi enw person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig, y person sy'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi ei fod â gofal o'r fangre.
(10) Yn achos unrhyw eitem a ddinistrir o dan baragraff (8)(b), caiff yr awdurdod gorfodi adennill y costau canlynol fel dyled oddi ar unrhyw berson a oedd â buddiant perchnogol yn yr eitem yn union cyn ei dinistrio (ar wahân i gredydwr sydd â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem)—
(a)costau symud a chludo'r eitem o'r fangre i'r storfa lle'i cedwir;
(b)costau storio'r eitem am hyd at 14 diwrnod;
(c)unrhyw gostau ar gyfer symud a chludo'r eitem, os symudir hi o un storfa i storfa arall;
(ch)costau cludo'r eitem o'r storfa i'r man lle'i dinistrir; a
(d)costau dinistrio'r eitem.
(11) Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 14 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 12(5), rhaid i'r awdurdod gorfodi—
(a)dychwelyd yr eitem ymafaeledig o fewn saith diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad;
(b)os yw'r awdurdod gorfodi'n penderfynu peidio â dinistrio'r eitem ymafaeledig, ond yn hytrach ei chadw at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, gadw'r eitem cyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny, ond rhaid i'r awdurdod gorfodi hysbysu'r hawlydd bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn saith diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad; neu
(c)o fewn 14 diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad, cychwyn achos (“achos rheoliad 13(11)(c)”) mewn llys ynadon, i geisio gorchymyn i'w awdurdodi i ddinistrio'r eitem.
(12) Mewn achos rheoliad 13(11)(c) caiff y llys ynadon—
(a)awdurdodi'r awdurdod gorfodi i ddinistrio'r eitem ymafaeledig;
(b)awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r eitem at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, am gyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny; neu
(c)ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod gorfodi'n dychwelyd yr eitem at yr hawlydd, a gosod terfyn amser ar gyfer gwneud hynny.
(13) Os yw llys ynadon, mewn achos rheoliad 13(11)(c) yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i ddinistrio'r eitem ymafaeledig, caiff y llys hefyd orchymyn bod yr hawlydd (ond nid hawlydd sydd yn gredydwr â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem) yn talu pa rai bynnag a bennir gan y llys o'r costau a restrir ym mharagraff (10).
(14) Os nad yw person sydd â buddiant perchnogol mewn eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 12(5) yn bwriadu gwneud hawliad o dan baragraff (4), caiff y person hwnnw hysbysu'r awdurdod gorfodi o hynny mewn ysgrifen, a chaiff yr awdurdod gorfodi (ond nid oes rhaid iddo) weithredu mewn un o'r ffyrdd a bennir ym mharagraff (8) heb aros i'r cyfnod hawlio o 14 diwrnod ddod i ben, ar ôl cael—
(a)cadarnhad ysgrifenedig gan y person hwnnw nad oes gan neb arall fuddiant perchnogol yn yr eitem honno (neu fod pob un sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem yn fodlon i'r awdurdod gorfodi weithredu heb aros i'r cyfnod hawlio o 14 diwrnod ddod i ben); a
(b)indemniad ysgrifenedig gan y person hwnnw rhag unrhyw hawliad a wneir gan berson arall sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem, a allai godi o ganlyniad i weithredu gan yr awdurdod gorfodi heb aros i'r cyfnod hawlio o 14 diwrnod ddod i ben.
(15) Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 14 diwrnod yn achos unrhyw offer cyfrifiadurol yr ymafaelir ynddo o dan reoliad 12(6), rhaid i'r awdurdod gorfodi—
(a)dychwelyd yr offer cyfrifiadurol ymafaeledig o fewn saith diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad, neu, os yw'n fyrrach, o fewn gweddill y cyfnod hwyaf o 14 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 12(6); neu
(b)cychwyn achos mewn llys ynadon o fewn saith diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad, onid oes saith diwrnod neu lai yn weddill cyn i'r cyfnod hwyaf o 14 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 12(6) ddod i ben, am orchymyn yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig yn hwy na'r cyfnod o 14 diwrnod a bennir yn rheoliad 12(6).
(16) Os yw llys ynadon, yn achos unrhyw offer cyfrifiadurol yr ymafaelir ynddo o dan reoliad 12(6), yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r offer cyfrifiadurol yr ymafaelwyd ynddo, caiff y llys osod amodau ynglŷn ag ar ba sail y caniateir parhau i gadw'r offer, gan gynnwys pennu terfyn amser pan fydd rhaid dychwelyd yr offer.
(17) Mae'r weithdrefn mewn llys ynadon o dan y rheoliad hwn ar ffurf achwyniad, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(15) yn gymwys i'r achosion.
14.—(1) Os oes gan swyddog awdurdodedig sail resymol dros gredu bod unrhyw berson yn torri, neu wedi torri—
(a)darpariaeth cig dofednod Ewropeaidd; neu
(b)rheoliad 4,
caiff y swyddog awdurdodedig, drwy hysbysiad (“hysbysiad cydymffurfio”), ei gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw'n cymryd pa bynnag gamau (neu gamau sydd o leiaf yn gyfwerth â'r rheini), o fewn pa bynnag gyfnod a bennir gan y swyddog awdurdodedig, i sicrhau nad yw'r toriad yn parhau neu'n digwydd drachefn.
(2) Rhaid i hysbysiad cydymffurfio—
(a)datgan y sail dros yr hyn y mae'r swyddog awdurdodedig yn ei gredu;
(b)pennu'r mater sy'n gyfystyr â thoriad o'r Rheoliadau hyn;
(c)pennu'r gweithgareddau y mae'n rhaid iddynt beidio, neu'r camau y mae'n rhaid eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;
(ch)datgan o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid i weithgaredd beidio, neu y mae'n rhaid cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, neu gamau sydd o leiaf yn gyfwerth â'r rheini;
(d)datgan yr hawl, a roddir gan reoliad 15, i apelio i lys ynadon; a
(dd)datgan y cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o'r fath.
(3) Mae peidio â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio yn dramgwydd.
15.—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan hysbysiad cydymffurfio apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw i lys ynadon.
(2) Mae'r weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achosion.
(3) Y cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl yn erbyn hysbysiad cydymffurfio yw 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad cydymffurfio.
(4) Caiff llys ynadon atal hysbysiad cydymffurfio dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth.
16. Mewn apêl yn erbyn hysbysiad cydymffurfio, caiff y llys ynadon naill ai ddiddymu'r hysbysiad cydymffurfio neu gadarnhau'r hysbysiad gydag addasiad neu heb addasiad.
17.—(1) Caiff awdurdod gorfodi, ym mha bynnag fodd yr ystyria'n briodol, roi cyhoeddusrwydd i achosion pan ddinistrir eitemau yr ymafaelwyd ynddynt o dan reoliad 12(5).
(2) Caiff awdurdod gorfodi, ym mha bynnag fodd yr ystyria'n briodol, roi cyhoeddusrwydd i achosion pan roddir hysbysiadau cydymffurfio gan yr awdurdod.
(3) Ond rhaid i awdurdod gorfodi beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiad cydymffurfio a roddir ganddo—
(a)hyd nes bo'r amser ar gyfer apelio yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio wedi mynd heibio;
(b)yn ystod y cyfnod pan fo unrhyw apêl yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio ar droed; neu
(c)pan fo apêl yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio wedi llwyddo.
18. Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw—
(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b)heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i swyddog awdurdodedig unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol i'r swyddog ofyn amdano neu amdani ar gyfer cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;
(c)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan reoliad 12(2), (8) neu (9);
(ch)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â hysbysiad rheoliad 12(7);
(d)yn fwriadol yn rhoi i swyddog awdurdodedig unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol; neu
(dd)heb esgus rhesymol, yn methu â dangos dogfen neu gofnod pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.
19. Mae Person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 3, 14(3) neu 18, yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
20.—(1) Caniateir cychwyn achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn o fewn y cyfnod o un flwyddyn o'r dyddiad pryd y daeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos i sylw'r erlynydd.
(2) Ond ni chaniateir cychwyn achos o'r fath yn rhinwedd paragraff (1) fwy na thair blynedd ar ôl cyflawni'r tramgwydd.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan yr erlynydd neu ar ei ran ac y nodir arni'r dyddiad pryd y daeth tystiolaeth i sylw'r erlynydd, sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn achos, yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno; a
(b)rhaid barnu bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac yr honnir iddi gael ei llofnodi felly wedi ei llofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.
21.—(1) Os profir bod tramgwydd a gyflawnir gan gorff corfforaethol (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaeth Albanaidd) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, swyddog o'r corff corfforaethol, neu berson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mae'r swyddog neu'r person hwnnw (yn ogystal â'r corff corfforaethol) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod, a pherson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mewn perthynas â swyddogaethau'r aelod o reoli, fel y mae'n gymwys i swyddog corff corfforaethol.
(3) Os profir bod tramgwydd a gyflawnir gan gorff anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth anghorfforedig) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, unrhyw swyddog neu berson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mae'r swyddog neu'r person hwnnw (yn ogystal â'r corff anghorfforedig) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(4) Os profir bod tramgwydd a gyflawnir gan bartneriaeth (gan gynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaeth Albanaidd) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, neu berson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mae'r partner neu'r person (yn ogystal â'r bartneriaeth) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “tramgwydd” (“offence”) yw tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
22. Pan fo cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn gan un person (“A”) yn ganlyniad gweithred neu ddiffyg gweithred gan berson arall (“B”), mae B hefyd yn cyflawni'r tramgwydd, a cheir cyhuddo B o'r tramgwydd a'i gollfarnu amdano yn rhinwedd y rheoliad hwn, pa un a ddygir achos yn erbyn A ai peidio.
23.—(1) Mae'n amddiffyniad i berson a gyhuddir o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn os yw'r person hwnnw'n profi ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd.
(2) Ni chaiff A ddibynnu ar amddiffyniad sy'n cynnwys honiad bod cyflawni'r tramgwydd i'w briodoli i weithred neu ddiffyg gweithred gan B oni fydd—
(a)A, saith diwrnod o leiaf cyn y gwrandawiad, wedi rhoi i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi pa bynnag wybodaeth a oedd ym meddiant A ar y pryd, ar gyfer adnabod, neu gynorthwyo i adnabod, B; neu
(b)y llys yn rhoi caniatâd i A.
24.—(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi i'r person hwnnw drwy—
(a)ei ddanfon at y person hwnnw;
(b)ei adael yng nghyfeiriad priodol y person hwnnw;
(c)ei anfon at y person hwnnw drwy'r post i'r cyfeiriad hwnnw; neu
(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (9), ei anfon at y person hwnnw drwy gyfathrebiad electronig.
(2) Ceir rhoi'r hysbysiad i gorff corfforaethol drwy ei roi i swyddog o'r corff hwnnw.
(3) Ceir rhoi'r hysbysiad i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, partneriaeth Albanaidd neu bartneriaeth anghorfforedig drwy ei roi i bartner neu i berson sydd â rheolaeth ar fusnes y bartneriaeth, neu sy'n ei reoli.
(4) Ceir rhoi'r hysbysiad i unrhyw gorff anghorfforedig arall drwy ei roi i swyddog o'r corff anghorfforedig.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(16) (cyfeiriadau at gyflwyno drwy'r post) yn y modd y'i cymhwysir i'r rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y rhoddir hysbysiad iddo yw—
(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff;
(b)yn achos partneriaeth anghorfforedig neu unrhyw gorff anghorfforedig arall, cyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth neu'r corff;
(c)yn achos person y rhoddir hysbysiad iddo gan ddibynnu ar baragraff (2), (3) neu (4), cyfeiriad priodol y corff corfforaethol, y bartneriaeth neu'r corff anghorfforaethol arall dan sylw; ac
(ch)mewn unrhyw achos arall, y cyfeiriad olaf sy'n hysbys ar gyfer y person dan sylw.
(6) At ddibenion paragraff (5), mae'r cyfeiriadau at y “brif swyddfa” mewn perthynas â chwmni a gofrestrwyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, partneriaeth sy'n cynnal busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu unrhyw gorff anghorfforedig arall sydd â'i brif swyddfa y tu allan i'r Deyrnas Unedig, yn cynnwys, ym mhob achos, cyfeiriad at brif swyddfa'r corff hwnnw o fewn y Deyrnas Unedig (os oes un).
(7) Mae paragraff (8) yn gymwys os yw'r person y bwriedir rhoi hysbysiad iddo o dan y Rheoliadau hyn wedi pennu cyfeiriad, o fewn y Deyrnas Unedig (“y cyfeiriad penodedig”), ac eithrio cyfeiriad priodol y person hwnnw (fel y'i penderfynir o dan baragraff (5)), fel y cyfeiriad lle bydd y person hwnnw, neu rywun arall ar ran y person hwnnw, yn derbyn dogfennau o'r un disgrifiad â hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn.
(8) Rhaid trin y cyfeiriad penodedig yn ogystal, at ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 yn y modd y'i cymhwysir i'r rheoliad hwn, fel cyfeiriad priodol y person.
(9) Os yw hysbysiad a roddir i berson o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei anfon gan awdurdod gorfodi drwy gyfathrebiad electronig, ni cheir trin yr hysbysiad fel pe bai wedi ei roi oni fydd—
(a)y person y rhoddir yr hysbysiad iddo wedi dynodi wrth yr awdurdod gorfodi ei fod yn fodlon derbyn hysbysiadau drwy gyfathrebiad electronig ac wedi darparu cyfeiriad addas at y diben hwnnw; a
(b)yr hysbysiad yn cael i anfon i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person hwnnw.
(10) Yn y rheoliad hwn—
nid yw “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig na phartneriaeth Albanaidd; ac
yr un ystyr sydd i “cyfathrebiad electronig” (“electronic communication”) ag a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(17).
25.—(1) Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990(18) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau a bennir ym mharagraff (2)—
(a)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir bwyd i'w fwyta gan bobl);
(b)adran 29 (caffael samplau);
(c)adran 30(8) (tystiolaeth ddogfennol);
(ch)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll); a
(d)adran 46(1) (treuliau swyddogion awdurdodedig).
(2) Yr addasiadau yw—
(a)dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (1) at Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (neu Ran o'r Ddeddf honno) fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn;
(b)dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (1) at swyddog awdurdodedig, neu swyddog awdurdod gorfodi neu awdurdod bwyd, fel cyfeiriad at swyddog awdurdodedig fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hyn;
(c)mewn perthynas ag adran 29—
(i)ym mharagraff (b)(ii), dehongli'r cyfeiriad at adran 32 fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn; a
(ii)ym mharagraff (d), hepgor y geiriau “or of regulations or order made under it”;
(ch)mewn perthynas ag adran 30(8)(a), hepgor y geiriau “under subsection (6) above”; a
(d)mewn perthynas ag adran 44, dehongli unrhyw gyfeiriad at awdurdod bwyd fel cyfeiriad at awdurdod gorfodi.
26. Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(19), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt), mewn perthynas â Chymru, yn lle teitl a chyfeirnod Rheoliadau Cig Dofednod (Cynhwysiad Dŵr) 1984(20), rhodder teitl a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.
27. Dirymir y canlynol o ran Cymru—
(a)Rheoliadau Cig Dofednod (Cynhwysiad Dŵr) 1984; a
(b)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(21)—
(i)erthygl 9; a
(ii)yn Atodlenni 1, 3 a 5, y cyfeiriadau at Reoliadau Cig Dofednod (Cynhwysiad Dŵr) 1984.
Alun Davies
Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
12 Gorffennaf 2011
Rheoliad 2(1)
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Darpariaeth berthnasol o'r Rheoliad CMO Sengl | Darpariaethau i'w darllen gyda'r darpariaethau o'r Rheoliad CMO Sengl a grybwyllir yng ngholofn 1 | Deunydd pwnc |
Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf, i'r graddau y mae'n ymwneud â marchnata cig dofednod | Erthygl 116 o'r Rheoliad CMO Sengl a Rhan B o Atodiad XIV i'r Rheoliad hwnnw, a Rheoliad y Comisiwn | Gwaharddiad ar farchnata cig dofednod ac eithrio yn unol â'r safonau marchnata a bennir yn Rhan B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl a Rheoliad y Comisiwn. Graddio ansawdd. |
Pwynt III(1) o Ran B o Atodiad XIV | Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn | |
Pwynt III(2) o Ran B o Atodiad XIV | Rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn a Phwynt II(2) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl mewn perthynas â chig dofednod ffres Pwynt II(3) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl mewn perthynas â chig dofednod wedi ei rewi Pwynt II(4) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl mewn perthynas â chig dofednod wedi ei rewi'n gyflym Pwynt II(6) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl mwn perthynas â pharatoi cig dofednod ffres | Marchnata cig dofednod a pharatoadau cig dofednod mewn cyflwr ffres, wedi eu rhewi neu wedi eu rhewi'n gyflym. |
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Darpariaeth berthnasol o Reoliad y Comisiwn | Darpariaethau i'w darllen gyda'r darpariaethau o Reoliad y Comisiwn grybwyllir yng ngholofn 1 | Deunydd pwnc |
Erthygl 3(1) | Erthygl 3(2), (3) a (4) o Reoliad y Comisiwn | Cyflwyno carcasau dofednod. |
Erthygl 3(4), yr is-baragraff cyntaf | Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn | Cyfansoddiad y syrth pan gyflwynir carcas dofednod i'w farchnata ynghyd â syrth. |
Erthygl 3(4), yr ail is-baragraff | Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn | Labelu carcas dofednod a gyflwynir i'w farchnata ynghyd â syrth pan nad yw'r syrth yn cynnwys un neu ragor o'r galon, y gwddf, y lasog neu'r afu. |
Erthygl 3(5) | Pwyntiau III(1) a (2) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl | Dynodiadau sydd i'w dangos ar ddogfennau masnachol penodedig. |
Erthygl 4(1) | Erthyglau 1 a 3(1) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad I i'r Rheoliad hwnnw | Yr enwau y mae'n rhaid gwerthu cig dofednod odanynt. |
Erthygl 4(2) | Erthyglau 1(1) a (2) ac 11 o Reoliad y Comisiwn | Gofyniad na fydd termau atodol yn camarwain y defnyddiwr. |
Erthygl 5(1) | Erthyglau 1 ac 11 o Reoliad y Comisiwn | Cyfyngiad ar ddefnyddio enwau er mwyn osgoi dryswch rhwng yr enwau yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (ynglŷn â mathau a chyflwyniadau o gig dofednod), a'r dynodiadau a ddarperir ar eu cyfer yn Erthygl 11 o Reoliad y Comisiwn (ynglŷn â dulliau o ffermio, yr oedran cigydda a hyd y cyfnod pesgi). |
Erthygl 5(2) | Erthygl 5(3), (4) a (6) o Reoliad y Comisiwn, fel y'i darllenir, yn achos Erthygl 5(4), gydag Erthygl 5(5) o'r Rheoliad hwnnw | Gofynion ychwanegol ynglŷn â labelu, cyflwyno a hysbysebu cig dofednod a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr olaf. |
Erthygl 6 | Pwynt II(3) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl | Y tymheredd y mae'n rhaid storio a chadw cig dofednod wedi ei rewi. |
Erthygl 7(1) | Pwynt III(I) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl | Criteria sydd i'w cymhwyso wrth raddio carcasau a thoriadau cig dofednod fel rhai dosbarth A neu B. |
Erthygl 7(2) | Erthygl 7(1) o Reoliad y Comisiwn | Criteria ychwanegol ar gyfer graddio carcasau a thoriadau cig dofednod fel rhai dosbarth A. |
Erthygl 10 | Atodiad III i Roliad y Comisiwn | Termau i ddisgrifio'r dull a ddefnyddiwyd i oeri cig dofednod. |
Erthygl 11(1), yr is-baragraff cyntaf | Yr ail is-baragraff o Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiadau IV a V i'r Rheoliad hwnnw | Termau i ddisgrifio mathau penodol o ddulliau ffermio. |
Erthygl 11(1), y trydydd is-baragraff | Is-baragraff cyntaf o Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn | Dynodiad foie gras. |
Erthygl 11(2) | Pedwerydd indent o Erthygl 1(1)(a) ac Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad V(b), (c) neu (d) i'r Rheoliad hwnnw | Defnyddio dynodiadau ynglŷn ag oedran cigydda a hyd y cyfnod pesgi. |
Erthygl 12(1) | Erthygl 11 o Reoliad y Comisiwn | Cofrestru cynhyrchwyr a lladd-dai gan ddefnyddio'r termau marchnata arbennig a grybwyllir yn Erthygl 11(1) ynglŷn â dulliau ffermio, a rhwymedigaeth berthynol ar ladd-dai o ran cadw cofnodion. |
Erthygl 12(2) | Erthygl 12(1) o Reoliad y Comisiwn | Cadw cofnodion gan gynhyrchwyr, drwy ddefnyddio'r termau marchnata arbennig a grybwyllir yn Erthygl 11(1) ynglŷn â dulliau ffermio. |
Erthygl 12(3) | Erthygl 11(1)(a) o Reoliad y Comisiwn | Cadw cofnodion gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd anifeiliaid, o gyfansoddiad y bwyd anifeiliaid a gyflenwir i gynhyrchwyr sy'n cynhyrchu adar i'w marchnata gan ddefnyddio'r term marchnata arbennig mewn perthynas â bwyd anifeiliaid (“fed with ....% ....”) (“bwydwyd â ... ... ... ... % ... ... ... ....”). |
Erthygl 12(4) | Erthygl 11(1)(d) ac (e) o Reoliad y Comisiwn | Cadw cofnodion gan ddeorfeydd sy'n cyflenwi mathau o adar sy'n prifio'n araf i gynhyrchwyr adar “traditional free range” (“maes traddodiadol”) ac adar “free-range — total freedom” (“maes — rhyddid llwyr”). |
Erthygl 14, y paragraff cyntaf | Erthygl 10 ac 11 o Reoliad y Comisiwn | Gwahardd mewnforio cig dofednod sy'n dwyn rhai dynodiadau opsiynol ynglŷn â'r dull o oeri neu rai mathau o ffermio, onid yw'n dod gyda thystysgrif swyddogol. |
Erthygl 15(1) | Atodiadau VI a VII i Reoliad y Comisiwn | Gwahardd marchnata ieir wedi eu rhewi neu'u rhewi'n gyflym pan fo'r cynhwysiad dŵr yn uwch na'r gwerthoedd sy'n dechnegol anochel. |
Erthygl 16(1) | Atodiadau VI a IX i Reoliad y Comisiwn | Gwiriadau ar garcasau o ran cynhwysiad dŵr. |
Erthygl 16(1), yr ail is-baragraff | Atodiadau VI ac XI i Reoliad y Comisiwn | Gwneud yr addasiadau technegol angenrheidiol pan fo'r cynhwysiad dŵr uwchlaw'r lefel a ganiateir. |
Erthygl 16(2) | Erthygl 15(1) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiadau VI a VII i'r Rheoliad hwnnw | Gwiriadau cynhwysiad dŵr ar ieir wedi eu rhewi ac ieir wedi eu rhewi'n gyflym. |
Erthygl 16(3) | Erthyglau 16(1) a (2) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiadau VI, VII a IX i'r Rheoliad hwnnw | Cynyddu amlder y gwiriadau cynhwysiad dŵr ar ieir wedi eu rhewi ac ieir wedi eu rhewi'n gyflym. |
Erthygl 16(4) | Erthygl 16(1) a (2) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiadau VI i IX i'r Rheoliad hwnnw. | Gwiriadau cynhwysiad dŵr ar garcasau ieir wedi eu hoeri ag aer. |
Erthygl 16(6) | Atodiad X i Reoliad y Comisiwn | Marchnata ieir wedi eu rhewi ac ieir wedi eu rhewi'n gyflym o dan oruchwyliaeth pan fo'r cynhwysiad dŵr yn uwch na'r gwerthoedd sy'n dechnegol anochel. |
Erthygl 20(1) | Atodiad VIII i Reoliad y Comisiwn | Gwaharddiad ar farchnata rhai toriadau cig dofednod os yw'r cynhwysiad dŵr yn uwch na'r gwerthoedd sy'n dechnegol anochel. |
Erthygl 20(2)(a) | Erthyglau 16(1) a 20(1) o Reoliad y Comisiwn, ac Atodiad IX i'r Rheoliad hwnnw | Gwiriadau cynhwysiad dŵr mewn lladd-dai ar garcasau ieir a thyrcïod a fwriedir i'w defnyddio mewn toriadau cig dofednod. |
Erthygl 20(2), yr ail is-baragraff | Erthygl 20(2)(a) a (3) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiadau VI i IX i'r Rheoliad hwnnw | Gwiriadau cynhwysiad dŵr ar doriadau cig dofednod wedi eu hoeri ag aer. |
Erthygl 20(3) | Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn, ac Atodiad VIII i'r Rheoliad hwnnw | Gwiriadau cynhwysiad dŵr ar doriadau cig dofednod mewn ffatrïoedd torri. |
Erthygl 20(4) i'r graddau y mae'n cymhwyso Erthygl 16(3) o Reoliad y Comisiwn | Erthygl 16(1) a (2) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiadau VI, VII a IX i'r Rheoliad hwnnw | Cynyddu amlder y gwiriadau cynhwysiad dŵr ar doriadau cig dofednod. |
Erthygl 20(4) i'r graddau y mae'n cymhwyso Erthygl 16(6) o Reoliad y Comisiwn | Atodiad X i Reoliad y Comisiwn | Marchnata toriadau cig dofednod penodedig o dan oruchwyliaeth pan fo'r cynhwysiad dŵr yn uwch na'r gwerthoedd sy'n dechnegol anochel. |
Rheoliad 3
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Darpariaeth berthnasol o Reoliad y Comisiwn | Darpariaethau i'w darllen gyda'r darpariaethau o Reoliad y Comisiwn a grybwyllir yng ngholofn 1 | Deunydd pwnc |
Erthygl 4(2) | Erthyglau 1(1) a (2) ac 11 o Reoliad y Comisiwn | Gofyniad na fydd termau atodol yn camarwain y defnyddiwr. |
Erthygl 5(2) | Erthygl 5(3), (4) a (6) o Reoliad y Comisiwn, fel y'i darllenir, yn achos Erthygl 5(4), gydag Erthygl 5(5) o'r Rheoliad hwnnw | Gofynion ychwanegol ynglŷn â labelu, cyflwyno a hysbysebu cig dofednod a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr olaf. |
Erthygl 11(1), yr is-baragraff cyntaf | Yr ail is-baragraff o Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn, ac Atodiadau IV a V i'r Rheoliad hwnnw | Termau i ddisgrifio mathau penodol o ddulliau ffermio. |
Erthygl 11(1), y trydydd is-baragraff | Is-baragraff cyntaf Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn | Dynodiad foie gras. |
Rheoliad 8(3)
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 16(1)” (“Article 16(1) water content check”) yw gwiriad o'r math a grybwyllir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 16(1) o Reoliad y Comisiwn;
ystyr “gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 16(2)” (“Article 16(2) water content check”) yw gwiriad o'r math a grybwyllir yn Erthygl 16(2) o Reoliad y Comisiwn;
ystyr “gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 16(3)” (“Article 16(3) water content check”) yw gwiriad o'r math a grybwyllir yn ail is-baragraff Erthygl 16(3) o Reoliad y Comisiwn;
ystyr “gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 20(2)” (“Article 20(2) water content check”) yw gwiriad o'r math a grybwyllir ym mharagraff (a) o is-baragraff cyntaf Erthygl 20(2) o Reoliad y Comisiwn;
ystyr “gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 20(3)” (“Article 20(3) water content check”) yw gwiriad o'r math a grybwyllir yn Erthygl 20(3) o Reoliad y Comisiwn;
ystyr “gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 20(4)” (“Article 20(4) water content check”) yw gwiriad o'r math a grybwyllir yn ail is-baragraff Erthygl 16(3) o Reoliad y Comisiwn, fel un sy'n gymwys i doriadau cig dofednod yn rhinwedd Erthygl 20(4) o'r Rheoliad hwnnw.
2. Mae'r tabl canlynol yn pennu'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â gwiriadau cynhwysiad dŵr a gyflawnir gan yr Asiantaeth—
Gwiriad | Ffi (£) |
---|---|
Gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 16(1) | 42 |
Gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 16(2) | 297.02 |
Gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 16(3) | 297.02 |
Gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 20(2) | 42 |
Gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 20(3) | 207.02 |
Gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 20(4) | 207.02 |
3. Mae pob ffi sy'n daladwy o dan yr Atodlen hon yn daladwy i'r Asiantaeth o fewn 28 diwrnod wedi i'r Asiantaeth roi i'r gweithredwr anfoneb sy'n gofyn am dalu'r ffi, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y ceir yr anfoneb.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu safonau marchnata uniongyrchol gymwysadwy yr UE (Undeb Ewropeaidd) mewn perthynas â chig dofednod.
Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn dirymu, mewn perthynas â Chymru, Rheoliadau Cig Dofednod (Cynhwysiad Dŵr) 1984 (O.S. 1984/1145),
(b)yn gwneud methiant i gydymffurfio â'r darpariaethau o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 (OJ Rhif L 157, 17.6.2008, t. 46) a grybwyllir yn Atodlen 2 (darpariaethau mewn perthynas â marchnata cig dofednod) yn dramgwydd (rheoliad 3 ac Atodlen 2),
(c)yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chofrestru lladd-dai a chynhyrchwyr fel sy'n ofynnol gan Erthygl 12 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 (rheoliad 5) a darparu ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniad i wrthod cofrestriad o'r fath a phenderfyniad i ddiddymu cofrestriad o'r fath (rheoliadau 6 a 7),
(ch)yn darparu ar gyfer talu ffioedd mewn perthynas â gwiriadau cynhwysiad dŵr a gyflawnir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (rheoliad 8 ac Atodlen 3),
(d)yn darparu ar gyfer gorfodi (rheoliadau 9 a 10),
(dd)yn rhoi pwerau mynediad (rheoliad 11) a phwerau eraill (rheoliad 12), gan gynnwys pwerau i ymafael a dinistrio,
(e)yn gwneud methiant i gydymffurfio â'r darpariaethau o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (y Rheoliad CMO Sengl) (OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t. 1) ac o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008, a grybwyllir yn Atodlen 1, yn fater y ceir dyroddi hysbysiad cydymffurfio yn ei gylch (rheoliad 14); ac yn darparu ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau cydymffurfio (rheoliadau 15 ac 16). Mae methiant i gydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio yn dramgwydd, ac
(f)yn gwneud rhwystro swyddog awdurdodedig yn dramgwydd (rheoliad 18).
Yn dilyn collfarn ddiannod, gellir cosbi tramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn gyda dirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (rheoliad 19).
Mae asesiad effaith rheoleiddiol o effaith y Rheoliadau hyn ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael yn www.cymru.gov.uk neu gan yr Adran Materion Gwledig, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 5) 2010, O.S. 2010/2690.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o'r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).
OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 513/2010 (OJ Rhif L 150, 16.6.2010, t.40).
OJ Rhif L 157, 17.6.2008, t.46, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 557/2010 (OJ Rhif L 159, 25.6.2010, t. 13).
Mewnosodwyd is-adran (4A) o adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28).
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t. 14).
Diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40), paragraffau 7, 10(1) a (3) o Atodlen 5, ac Atodlen 6, i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (“Deddf 1999”) ac O.S. 2002/794. Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 17 gan baragraffau 7, 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 26(2) gan baragraff 13 o Atodlen 8, a Rhan 1 o Atodlen 23, i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p.15). Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 45(1) gan baragraffau 8 ac 20 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.
Mae swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru, ar ôl eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, a'u trosglwyddo wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30(2)(a) of Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).
Mae hyn yn rhanddirymu darpariaethau pwynt II(2) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl.
OJ Rhif L 31, 1.2.2002 t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t. 14).
2000 p.7. Diwygiwyd adran 15 gan Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21).