Hysbysiadau cosb
21.—(1) Os oes rheswm gan Weinidogion Cymru dros gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi i'r person hwnnw hysbysiad (hysbysiad cosb) yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Caiff hysbysiad cosb fod am unrhyw swm hyd at uchafswm o £5,000.
(3) Rhaid i hysbysiad cosb—
(a)rhoi pa bynnag fanylion am amgylchiadau'r tramgwydd honedig ag sy'n angenrheidiol i roi gwybodaeth resymol am y tramgwydd;
(b)datgan swm y gosb;
(c)datgan yn ystod pa gyfnod, yn rhinwedd rheoliad 22, na chychwynnir achos ynglŷn â'r tramgwydd;
(ch)datgan y cyfeiriad lle y ceir talu'r gosb; a
(d)datgan na cheir gwneud y taliad mewn arian parod.