- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Pan fo cydgysylltydd gofal claf perthnasol—
(a)wedi cytuno ar gynllun gofal a thriniaeth i glaf perthnasol ac wedi cofnodi'r cynllun mewn ysgrifen fel y darperir gan adran 18(1) a (2) o'r Mesur;
(b)wedi cofnodi'r cynllun neu'r cynlluniau a benderfynwyd o dan ddarpariaethau adran 18(4) neu (5) o'r Mesur mewn ysgrifen fel y darperir gan adran 18(6) o'r Mesur; neu
(c)wedi adolygu neu wedi diwygio cynllun gofal a thriniaeth i glaf perthnasol fel y darperir gan reoliad 7 neu 11 o'r Rheoliadau,
yna mae darpariaethau'r rheoliad hwn yn gymwys.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo'r personau a ganlyn wedi'u dynodi mewn perthynas â chlaf perthnasol, mae'r cydgysylltydd gofal i gymryd pob cam ymarferol i sicrhau y darperir copi ysgrifenedig iddynt o gynllun gofal a thriniaeth y claf hwnnw—
(a)y claf hwnnw, oni bai—
(i)bod y claf hwnnw wedi gwrthod derbyn copi o'r cynllun; neu
(ii)bod darparu copi o'r cynllun yn debyg o beri niwed difrifol i iechyd neu gyflwr corfforol neu feddyliol y claf hwnnw;
(b)yr holl bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y claf hwnnw, oni bai bod person sydd â'r cyfrifoldeb hwnnw wedi gwrthod derbyn copi o'r cynllun;
(c)holl ofalwyr a holl ofalwyr lleoliad oedolyn y claf hwnnw, oni bai bod gofalwr neu ofalwr lleoliad oedolyn wedi gwrthod derbyn copi o'r cynllun;
(ch)ymarferydd meddygol cofrestredig y claf hwnnw;
(d)y darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl a'r sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i'r claf hwnnw;
(dd)clinigydd cyfrifol y claf hwnnw;
(e)pan fo gwarcheidwad wedi'i benodi i'r claf hwnnw o ganlyniad i gais am warcheidiaeth a wnaed o dan adran 7 o Ddeddf 1983 neu orchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 o Ddeddf 1983—
(i)gwarcheidwad y claf hwnnw, a
(ii)Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol cyfrifol y claf hwnnw;
(f)rhoddai atwrneiaeth arhosol y claf hwnnw a benodwyd yn unol ag adran 10 o Ddeddf 2005, neu ddirprwy i'r claf hwnnw a benodwyd gan y Llys Gwarchod yn unol ag adran 16 o Ddeddf 2005, ar yr amod—
(i)yn achos rhoddai, fod y materion y mae'r cynllun yn ymwneud â hwy gan gynnwys canlyniadau (ond heb fod yn gyfyngedig i ganlyniadau) y cytunwyd arnynt yn unol ag adran 18(1)(a) o'r Mesur, yn dod o fewn cwmpas yr atwrneiaeth arhosol, neu
(ii)yn achos dirprwy, fod y materion y mae'r cynllun yn ymwneud â hwy gan gynnwys canlyniadau (ond heb fod yn gyfyngedig i ganlyniadau) y cytunwyd arnynt yn unol ag adran 18(1)(a) o'r Mesur, yn dod o fewn cwmpas y gorchymyn, y cyfarwyddiadau neu'r telerau ynglŷn â phenodi'r dirprwy a bennwyd gan y Llys Gwarchod;
(ff)os oes gweithredoedd neu benderfyniadau wedi'u cynnig mewn perthynas â'r claf hwnnw o dan adrannau 37, 38, 39, 39A, 39C neu 39D o Ddeddf 2005, Eiriolydd Galluedd Meddwl Annibynnol a benodwyd i gynrychioli'r claf hwnnw yn unol ag adran 35 o'r Ddeddf honno;
(g)os yw'r claf hwnnw'n destun awdurdodiad safonol a roddwyd o dan Ran 4 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, yr awdurdod rheoli, y corff gorchwylio a chynrychiolydd y person perthnasol a benodwyd i'r claf hwnnw o dan baragraff 139 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005; ac
(ng)os yw'r claf hwnnw yn destun awdurdodiad brys a roddwyd o dan Ran 5 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, yr awdurdod rheoli a'r corff goruchwylio.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo'r personau a ganlyn wedi'u dynodi mewn perthynas â chlaf perthnasol, caniateir darparu copi ysgrifenedig o gynllun gofal a thriniaeth y claf perthnasol hwnnw iddynt—
(a)unrhyw berson y mae'r cydgysylltydd gofal yn dymuno iddo gael copi o'r cynllun, er mwyn hwyluso cyflawni'r canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl eu sicrhau i'r claf hwnnw; a
(b)unrhyw berson y mae'r claf hwnnw'n dymuno i gopi o'r cynllun gael ei ddarparu iddo.
(4) Cyn darparu copïau o gynllun gofal a thriniaeth claf perthnasol i unrhyw rai o'r personau a grybwyllir ym mharagraffau (2) a (3)(a) mae'r cydgysylltydd gofal i gymryd i ystyriaeth farn y claf hwnnw ynghylch a ddylid darparu copïau o'r fath i'r personau hynny.
(5) Ond mae'r cydgysylltydd gofal yn cael darparu copïau o gynllun y claf perthnasol i unrhyw rai o'r personau a grybwyllir ym mharagraffau (2) a (3)(a) yn erbyn dymuniadau'r claf hwnnw ar yr amod bod y cydgysylltydd gofal wedi rhoi ystyriaeth ddyladwy i farn y claf hwnnw.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)os oes copi o gynllun i'w ddarparu i berson, caiff y cydgysylltydd gofal gadw'r copi hwnnw yn ôl neu ddarparu copi o ran o'r cynllun hwnnw os yw'r cydgysylltydd gofal o'r farn ei bod er lles claf perthnasol gwneud hynny;
(b)os yw person yn gymwys i gael mwy nag un copi o gynllun sy'n ymwneud â chlaf perthnasol, un copi yn unig o'r cynllun y mae angen ei ddarparu;
(c)mae person yn gymwys i gael copi o gynllun os yw'n gymwys o dan un neu fwy o'r categorïau ym mharagraff (2) ar yr adeg y mae copïau o'r cynllun i'w darparu o dan baragraff (1);
(ch)ni chaiff person y mae cynllun i'w ddarparu iddo wrthod derbyn cynllun oni bai bod darpariaeth ym mharagraff (2) yn caniatáu yn bendant iddo wneud hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: