- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 20
1. Mae gwerth anifail nad yw'n anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis i'w gyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol—
A × B = C.
Yn y fformiwla hon—
A yw'r ffigur penodedig a ddarperir gan y tabl ar gyfer pob rhywogaeth a chategori o anifail nad yw'n anifail buchol;
B yw'r ffigur a ddarperir gan un o baragraffau 2 i 5; ac
C yw gwerth yr anifail nad yw'n anifail buchol at ddibenion erthygl 20.
Rhywogaeth | Categori | Ffigur penodedig |
---|---|---|
(1) Carw | £400.00 | |
(2) Gafr | (a)nad yw'n fwy na blwydd oed; | (a)£80.00 |
(b)anifail nad yw'n bridio dros flwydd oed; | (b)£160.00 | |
(c)benyw sy'n bridio; | (c)£250.00 | |
(ch)gwryw magu dros flwydd oed; | (ch)£350.00 | |
(3) Alpaca, gwanaco, lama a ficwnia | (a)nad yw'n fwy na 18 mis oed; | (a)£750.00 |
(b)anifail nad yw'n bridio dros 18 mis oed; | (b)£750.00 | |
(c)benyw sy'n bridio dros 18 mis oed; | (c)£1500.00 | |
(ch)gwryw magu sydd dros 18 mis oed; | (ch)£1500.00 |
2.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo hysbysiad gwella milfeddygol wedi ei gyflwyno i geidwad anifail nad yw'n anifail buchol, a'r ceidwad hwnnw'n methu â chydymffurfio ag un neu ragor o ofynion yr hysbysiad.
(2) Pan fo—
(a)y ceidwad wedi methu â chydymffurfio ag un gofyniad yn yr hysbysiad gwella milfeddygol;
(b)anifail nad yw'n anifail buchol wedi ei brofi o dan erthygl 9 (profi ar gyfer twbercwlosis);
(c)yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol wedi ei gigydda yn dilyn y prawf hwnnw o dan adran 32(1) o'r Ddeddf fel y mae'n gymwys i dwbercwlosis; ac
(ch)y prawf wedi ei gyflawni ar yr haid oedd yn cynnwys yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol (ar ôl cyflwyno'r hysbysiad gwella milfeddygol i'r ceidwad)—
(i)am y tro cyntaf, bydd “B” yn 0.75;
(ii)am yr ail dro, bydd “B” yn 0.5; neu
(iii)ar ôl yr ail dro, bydd “B” yn 0.05.
(3) Pan fo—
(a)y ceidwad wedi methu â chydymffurfio â mwy nag un gofyniad yn yr hysbysiad gwella milfeddygol;
(b)anifail nad yw'n anifail buchol wedi ei brofi o dan erthygl 9;
(c)yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol wedi ei gigydda yn dilyn y prawf hwnnw o dan adran 32(1) o'r Ddeddf fel y mae'n gymwys i dwbercwlosis; ac
(ch)y prawf wedi ei gyflawni ar yr haid oedd yn cynnwys yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol (ar ôl cyflwyno'r hysbysiad gwella milfeddygol i'r ceidwad)—
(i)am y tro cyntaf, bydd “B” yn 0.5; neu
(ii)ar ôl y tro cyntaf, bydd “B” yn 0.05.
3.—(1) Pan fo—
(a)yn ofynnol i geidwad anifail nad yw'n anifail buchol fod wedi peri i'r anifail hwnnw gael ei brofi â phrawf perthnasol erbyn y dyddiad a bennir mewn hysbysiad (“y dyddiad penodedig”) o dan erthygl 9(1) (profi ar gyfer twbercwlosis);
(b)y prawf wedi ei gyflawni ar ddyddiad (“dyddiad y prawf”) sydd ar ôl y dyddiad penodedig;
(c)yr anifail nad yw'n anifail buchol wedi ei gigydda yn dilyn y prawf o dan adran 32(1) o'r Ddeddf fel y mae'n gymwys i dwbercwlosis; ac
(ch)y cyfnod rhwng y dyddiad penodedig a dyddiad y prawf—
(i)yn fwy na 60 diwrnod ond nid yn fwy na 90 diwrnod, bydd “B” yn 0.75;
(ii)yn fwy na 90 diwrnod ond nid yn fwy na 180 diwrnod, bydd “B” yn 0.5; ac
(iii)yn fwy na 180 diwrnod, bydd “B” yn 0.05.
(2) Os cigyddwyd anifail nad yw'n anifail buchol yn dilyn cyflawni'r prawf perthnasol arno o dan erthygl 9(5), bydd “B” yn 0.05.
(3) Os cigyddwyd anifail nad yw'n anifail buchol yn rhinwedd darpariaethau erthygl 9(6), bydd “B” yn 0.05.
4.—(1) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, y tu hwnt i amheuaeth resymol, bod ceidwad anifail nad yw'n anifail buchol wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 73 o'r Ddeddf (tramgwyddau cyffredinol) yn rhinwedd y Gorchymyn hwn; a
(b)anifail nad yw'n anifail buchol wedi ei gigydda o dan adran 32(1) o'r Ddeddf fel y mae'n gymwys i dwbercwlosis—
(i)o fewn cyfnod o 6 mis ar ôl bodloni is-baragraff (1)(a); neu
(ii)wedi i'r cyfnod hwnnw ddod i ben yn dilyn cyflawni'r prawf perthnasol am y tro cyntaf ar anifeiliaid y ceidwad nad ydynt yn anifeiliaid buchol; ac
(c)is-baragraff (1)(a) wedi ei fodloni—
(i)ar un achlysur, bydd “B” yn 0.5; a
(ii)ar fwy nag un achlysur, bydd “B” yn 0.05.
(2) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys o ran methiant i gydymffurfio â hysbysiadau a gyflwynir o dan erthygl 8(1) neu 9(1).
5. Pan nad yw paragraffau 2, 3, a 4 yn gymwys, bydd “B” yn 1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: