- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau yn Erbyn Penderfyniadau Trwyddedu ) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy, y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (1).
3. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Awdurdod Trwyddedu” (“the Licensing Authority”) yw Gweinidogion Cymru, yn gweithredu yn eu swyddogaeth fel yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009;
mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys map, ffotograff neu adroddiad;
mae i “dyddiad dechrau” (“start date”) yr ystyr a roddir gan reoliad 8(3);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009;
ystyr “hysbysiad apêl dilys” (“valid notice of appeal”) yw hysbysiad apêl—
sy'n cydymffurfio â rheoliad 7(1);
a anfonwyd ynghyd â'r dogfennau sy'n ofynnol gan reoliad 7(2); ac
a gafwyd gan Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser perthnasol;
ystyr “y person penodedig” (“the appointed person”) yw'r person a benodir o dan reoliad 5(1);
ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw—
y terfynau amser a bennir yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw gyfarwyddyd a roddir neu ofyniad a wneir gan y person penodedig yn rhinwedd y Rheoliadau hyn;
ond mae is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i reoliad 25(1).
ystyr “trwydded forol” (“marine licence”) yw trwydded a roddir o dan Ran 4 o'r Ddeddf
Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth ymgymryd â gweithgareddau morol trwyddedadwy yng Nghymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adran 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Gweler adran 322(1) am ddiffiniad o'r rhanbarth hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: