Sylwadau ac esboniadau
10.—(1) Pan fo apêl i gael ei phenderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig—
(a)rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu, o fewn y cyfnod o 6 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, anfon at y person penodedig unrhyw sylwadau y mae'r Awdurdod Trwyddedu'n dymuno'u gwneud ynglŷn â'r apêl, ynghyd ag unrhyw ddogfennau y mae'n bwriadu dibynnu arnynt;
(b)os yw'r apelydd yn dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â'r apêl, yn ychwanegol at y datganiad o seiliau'r apêl y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1)(b) neu'r dogfennau a gyflwynwyd gydag ef, y cyfeirir atynt yn rheoliad 7(2), rhaid i'r apelydd anfon y sylwadau hynny at y person penodedig o fewn y cyfnod o 6 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau.
(2) Pan fo apêl i gael ei phenderfynu drwy gyfrwng gwrandawiad neu ymchwiliad, rhaid i'r apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu, ill dau, o fewn y cyfnod o 6 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, anfon at y person penodedig ddatganiad sy'n cynnwys manylion llawn o'r achos y maent yn bwriadu ei roi gerbron yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad, a rhestr o unrhyw ddogfennau y bwriadant gyfeirio atynt neu'u rhoi yn dystiolaeth.
(3) Ar ddiwedd y cyfnod o 6 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, rhaid i'r person penodedig—
(a)os yw'r apêl i'w phenderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig—
(i)anfon copi o sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu at yr apelydd; a
(ii)anfon copi o unrhyw sylwadau a wnaed gan yr apelydd o dan baragraff (1)(b) at yr Awdurdod Trwyddedu;
(b)os yw'r apêl i'w phenderfynu drwy gyfrwng gwrandawiad neu ymchwiliad, anfon copi o sylwadau a rhestr dogfennau'r Awdurdod Trwyddedu at yr apelydd a chopi o ddatganiad a rhestr dogfennau'r apelydd at yr Awdurdod Trwyddedu;
(c)ym mhob achos, anfon, ar yr un pryd, copïau o unrhyw sylwadau eraill a ddaw i law'r person penodedig mewn perthynas â'r apêl at yr apelydd ac at yr Awdurdod Trwyddedu.
(4) Caiff yr apelydd a'r Awdurdod Trwyddedu, o fewn y cyfnod o 9 wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad dechrau, anfon at y person penodedig esboniadau ar y sylwadau hynny neu'r datganiad hwnnw.
(5) Rhaid i'r person penodedig, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y cyfnod hwnnw o 9 wythnos, anfon copi o esboniadau'r Awdurdod Trwyddedu at yr apelydd, ac ar yr un pryd, anfon copi o esboniadau'r apelydd at yr Awdurdod Trwyddedu.