Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwystra i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012

Rheoliad 4(1)(a)

YR ATODLENGOFYNION PROFFESIYNOL

1.  Y gofynion proffesiynol yw bod rhaid i berson fod—

(a)yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru neu'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol;

(b)yn nyrs lefel gyntaf neu'n nyrs ail lefel, a gofrestrwyd yn Is-Ran 1 neu yn Is-Ran 2 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(1), gan gynnwys cofnod sy'n dynodi mai nyrsio iechyd meddwl neu nyrsio anableddau dysgu yw ei maes ymarfer;

(c)yn therapydd galwedigaethol a gofrestrwyd yn Rhan 6 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(2);

(d)yn seicolegydd ymarferol a gofrestrwyd yn Rhan 14 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001; neu

(e)yn ymarferydd meddygol cofrestredig.