Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) (Cymru) 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) 1980 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Ysgolion Canol) (Diwygio) 1994 o ran Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r amgylchiadau pan fo ysgol ganol i'w thrin naill ai'n ysgol gynradd neu'n ysgol uwchradd, at ddibenion y Deddfau Addysg.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod ysgol ganol i'w dyfarnu'n ysgol uwchradd pan fo gan yr ysgol honno ystod ehangach o ddisgyblion o oedran ysgol uwchradd nag o ddisgyblion o oedran ysgol gynradd, neu, oni wnaed dyfarniad o dan reoliad 5(2), pan fo'r ysgol honno yn darparu addysg hyd at yr oedran ysgol gorfodol neu ar ôl yr oedran hwnnw.

Mae rheoliad 5(1) yn darparu bod ysgol ganol i'w dyfarnu'n ysgol gynradd pan fo gan yr ysgol honno ystod ehangach o ddisgyblion o oedran ysgol gynradd nag o ddisgyblion o oedran ysgol uwchradd, a phan na fo'r ysgol honno yn darparu addysg hyd at yr oedran ysgol gorfodol nac ar ôl yr oedran hwnnw.

O dan reoliad 5(2), caiff Gweinidogion Cymru drin ysgol ganol yn ysgol gynradd pan fo'r ysgol dan sylw yn darparu addysg hyd at yr oedran ysgol gorfodol neu ar ôl yr oedran hwnnw, a phan fo naill ai'r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu'r hyrwyddwyr yn gofyn i Weinidogion Cymru wneud y dyfarniad hwnnw.

Mae gan Weinidogion Cymru hefyd y pŵer o dan reoliad 6 i ddyfarnu a yw ysgol ganol i'w thrin yn ysgol gynradd neu'n ysgol uwchradd pan fo gan yr ysgol dan sylw ystod gyfartal o ddisgyblion o oedran ysgol gynradd ac oedran ysgol uwchradd, a phan na fo'r ysgol honno yn darparu addysg hyd at yr oedran ysgol gorfodol. Rhaid i Weinidogion Cymru, o dan y rheoliad hwn, ganiatáu i'r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu'r hyrwyddwyr wneud sylwadau a rhaid iddynt ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

Mae rheoliad 7 yn darparu pan fo gan ysgol ganol ddisgyblion yn y pedwerydd cyfnod allweddol fod yn rhaid ei thrin yn ysgol uwchradd at ddibenion adrannau 116A i 116K o Ddeddf Addysg 2002 yn unig, hyd yn oed os caiff ei thrin yn ysgol gynradd at bob diben arall o dan y Ddeddf Addysg.

Mae rheoliad 8 yn darparu pan fo gan ysgol ganol ddisgyblion iau (y rhai nad ydynt wedi cyrraedd 12 mlwydd oed hyd yn hyn) fod yn rhaid ei thrin yn ysgol gynradd at ddibenion adran 101(1)(c) o Ddeddf Addysg 2002 yn unig. Mae'n darparu ymhellach pan fo gan yr ysgol honno ddisgyblion hŷn (y rhai sydd wedi cyrraedd 12 mlwydd oed ond nad ydynt yn 19 mlwydd oed hyd yn hyn) fod yn rhaid ei thrin yn ysgol uwchradd at ddibenion adran 101(1)(c) o Ddeddf Addysg 2002 yn unig.