xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr

7.—(1Bydd aelod nad yw'n llywodraethwr yn parhau yn ei swydd hyd nes iddo gael ei symud ohoni yn unol â rheoliad 5(1) neu baragraff (5).

(2Mae unrhyw berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd fel llywodraethwr o dan reoliad 24 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir, a pharagraffau 2 i 12 o Atodlen 5 iddynt, neu o dan reoliad 32 o'r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir, a pharagraffau 2 i 12 o Atodlen 7 iddynt, wedi ei anghymhwyso rhag dal, neu rhag parhau i ddal, swydd fel aelod nad yw'n llywodraethwr o gyd-bwyllgor.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5) rhaid i'r cyrff addysg sy'n cydlafurio benderfynu hawliau pleidleisio aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr.

(4Rhaid i aelod nad yw'n llywodraethwr beidio â phleidleisio ar unrhyw benderfyniad ynghylch y canlynol—

(a)disgybl unigol neu aelod unigol o'r staff os cafodd yr aelod nad yw'n llywodraethwr ei wahardd o dan reoliad 8(2) o'r rhan honno o'r cyfarfod pan gafodd y mater ei ystyried;

(b)cyllideb ac ymrwymiadau ariannol corff addysg sy'n cydlafurio; neu

(c)derbyniadau.

(5Caniateir i gyd-bwyllgor symud aelod nad yw'n llywodraethwr o'i swydd ar unrhyw adeg.