Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

Rheoliad 10

[F1Atodlen 4LL+CDULLIAU DADANSODDI AR GYFER PENDERFYNU YMFUDIAD PLWM A CHADMIWM

1.  Amcan a maes cymhwysoLL+C

Mae’r dull yn caniatáu i’r ymfudiad penodol o blwm a/neu gadmiwm gael ei benderfynu.

2.  Yr egwyddorLL+C

  • Penderfynir yr ymfudiad penodol o blwm a/neu gadmiwm gan ddefnyddio dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy’n bodloni’r meini prawf perfformiad ym mharagraff 4.

3.  AdweithyddionLL+C

  • Rhaid i bob adweithydd fod o ansawdd dadansoddol, oni phennir fel arall.

Pan fo cyfeiriad at ddŵr, mae’n golygu dŵr a ddistyllwyd neu ddŵr o ansawdd cyfatebol.

(a)asid asetig 4 % (v/v), mewn hydoddiant dyfrllyd

Ychwaneger 40 ml o asid asetig grisialog at ddŵr fel bod y lefel yn cyrraedd 1 000 ml.

(b)Hydoddiannau stoc

Paratoer hydoddiannau stoc sy’n cynnwys 1 000 mg/litr o blwm ac o leiaf 500 mg/litr o gadmiwm yn eu trefn mewn hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).

4.  Meini prawf perfformiad y dull dadansoddi drwy gyfrwng offerynLL+C

(a)Rhaid i’r terfyn canfod ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu’n is na—

0,1 mg/litr ar gyfer plwm,

0,01 mg/litr ar gyfer cadmiwm.

Diffinnir y terfyn canfod fel y crynodiad o’r elfen yn yr hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(a), sy’n rhoi signal sy’n hafal i ddwywaith sŵn cefndir yr offeryn.

(b)Rhaid i’r terfyn meintioliad ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu’n is na—

0,2 mg/litr ar gyfer plwm,

0,02 mg/litr ar gyfer cadmiwm.

(c)Adennill. Rhaid i’r hyn a adenillir o blwm a chadmiwm a ychwanegir at yr hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(a), ddod o fewn 80-120 % o’r swm a ychwanegir.

(d)Penodoldeb. Rhaid i’r dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy’n cael ei ddefnyddio fod yn rhydd o ymyriannau matrics ac ymyriannau sbectrol.

5.  DullLL+C

(a)Paratoi’r sampl

Rhaid i’r sampl fod yn lân ac yn rhydd o saim neu sylwedd arall sy’n debygol o effeithio ar y prawf.

Golcher y sampl mewn hydoddiant sy’n cynnwys glanedydd hylif i’r cartref ar dymheredd o tua 40 °C. Rinsier y sampl yn gyntaf mewn dŵr tap ac wedyn mewn dŵr wedi ei ddistyllu neu ddŵr o ansawdd cyfatebol. Draenier y sampl a’i sychu i osgoi unrhyw staen. Nid yw’r arwyneb sydd i’w brofi i’w drafod ar ôl iddo gael ei lanhau.

(b)Penderfynu plwm a/neu gadmiwm

Cynhelir prawf ar y sampl a baratowyd yn y modd hwn o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3.

Cyn cymryd yr hydoddiant prawf ar gyfer penderfynu plwm a/neu gadmiwm, homogeneiddier cynnwys y sampl drwy ddull priodol, sy’n osgoi colli unrhyw hydoddiant neu’n osgoi sgrafellu’r arwyneb syn cael ei brofi.

  • Cynhalier prawf gwag ar yr adweithydd a ddefnyddir ar gyfer pob cyfres o benderfyniadau.

  • Cynhalier y penderfyniadau ar gyfer plwm a/neu gadmiwm o dan amodau priodol.]