Search Legislation

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Hyfforddiant ar Ddata Perfformiad Ysgolion

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i lywodraethwr gwblhau’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion cyn pen blwyddyn ar ôl cael ei benodi neu ei ethol (p’un bynnag yw’r diweddaraf) (“cyfnod yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion”) pan fo’r llywodraethwr hwnnw wedi ei benodi neu ei ethol i gorff llywodraethu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)pennaeth ysgol sydd hefyd yn llywodraethwr;

(b)llywodraethwr sydd—

(i)o fewn y flwyddyn yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi cwblhau hyfforddiant awdurdod lleol ar ddata perfformiad ysgolion;

(ii)yn cael ei benodi neu ei ethol am gyfnod pellach mewn unrhyw ysgol a gynhelir; a

(iii)heb gael saib perthnasol mewn gwasanaeth fel llywodraethwr; neu

(c)llywodraethwr sydd—

(i)wedi cwblhau’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion;

(ii)yn cael ei benodi neu ei ethol am gyfnod pellach mewn unrhyw ysgol a gynhelir; a

(iii)heb gael saib perthnasol mewn gwasanaeth fel llywodraethwr.

(3Mae llywodraethwr sydd heb gwblhau’r hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion yn unol â’r Rheoliadau hyn wedi ei atal dros dro o bob cyfarfod o’r corff llywodraethu oddi ar y diwrnod yn dilyn diwedd cyfnod yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion hyd oni fydd y llywodraethwr hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn i’w ddarllen fel pe bai’n effeithio ar hawl llywodraethwr sydd wedi ei atal dros dro i wneud y canlynol—

(a)cael hysbysiadau am gyfarfodydd y corff llywodraethu, ac agenda ac adroddiadau neu bapurau eraill ar gyfer y cyfarfodydd hynny; neu

(b)mynychu cyfarfod o’r corff llywodraethu sydd wedi ei alw yn unol â rheoliad 30 o Reoliadau 2005 neu reoliad 38 o Reoliadau 2010 (yn ôl y digwydd) i ystyried symud y llywodraethwr hwnnw o’i swydd,

yn ystod y cyfnod y mae’r person hwnnw wedi ei atal dros dro.

(5Nid yw llywodraethwr wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd o dan baragraff 5 o Atodlen 5 i Reoliadau 2005 nac o dan baragraff 5 o Atodlen 7 i Reoliadau 2010 (yn ôl y digwydd) am fethu â mynychu unrhyw gyfarfod o’r corff llywodraethu tra bo wedi ei atal dros dro o dan y rheoliad hwn.

(6Mae llywodraethwr sydd wedi ei atal dros dro o dan y rheoliad hwn am gyfnod parhaus o 6 mis i’w anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau mewn swydd o dan reoliad 24 o Reoliadau 2005, ac Atodlen 5 iddynt, neu o dan reoliad 32 o Reoliadau 2010, ac Atodlen 7 iddynt (yn ôl y digwydd).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources