xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Dŵr, Cymru
Gwnaed
1 Hydref 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Hydref 2013
Yn dod i rym
25 Hydref 2013
Mae Gweinidogion Cymru wedi’u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag y llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol. Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan yr adran honno, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Gweler O.S. 2001/2555 am y dynodiad a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 28(1) o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno, mae’r dynodiad hwnnw wedi ei freinio bellach yng Ngweinidogion Cymru.