xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
32.—(1) Rhaid i gynllun wneud darpariaeth mewn perthynas â’r dosbarthiadau o bersonau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 22 a 23 (dosbarthiadau A a B).
(2) Mae Atodlenni 1 i 5, sy’n cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun mewn perthynas â’r dosbarthiadau hynny o bersonau, yn cael effaith.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r darpariaethau ym mharagraff 33 o Atodlen 1 (parhad cyfnod gostyngiad estynedig) yn ofynion sylfaenol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 32 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
33.—(1) Rhaid i gynllun wneud darpariaeth mewn perthynas â’r dosbarthiadau o bersonau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 24 a 25 (dosbarthiadau C a D).
(2) Mae Atodlenni 6 i 10, sy’n cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun mewn perthynas â’r dosbarthiadau hynny o bersonau, yn cael effaith.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r darpariaethau ym mharagraffau 35 (parhad cyfnod gostyngiad estynedig) a 40 (parhad cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys)) o Atodlen 6 yn ofynion sylfaenol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 33 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
34.—(1) Rhaid i gynllun gynnwys y darpariaethau a bennir yn Atodlenni 12 i 14.
(2) Rhaid i’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (1) fod yn gymwys i bob cais am ostyngiad o’r dreth gyngor oni ddarperir yn wahanol.
(3) Mae Atodlenni 12 i 14, sy’n cynnwys materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun mewn perthynas â phob ceisydd am ostyngiad o’r dreth gyngor, yn cael effaith oni ddarperir yn wahanol.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r darpariaethau ym mharagraffau 3 a 4 o Atodlen 13 (ôl-ddyddio) yn ofynion sylfaenol.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r swm sydd i’w ddiystyru yn unol â pharagraff 1(a) a (b) o Atodlen 4 (symiau sydd i’w diystyru ar gyfer pensiwn anabledd rhyfel, pensiwn rhyfel gwraig weddw a phensiwn rhyfel gŵr gweddw: pensiynwyr) a pharagraff 20(a) a (b) o Atodlen 9 (symiau sydd i’w diystyru ar gyfer pensiwn anabledd rhyfel, pensiwn rhyfel gwraig weddw a phensiwn rhyfel gŵr gweddw: personau nad ydynt yn bensiynwyr) yn lleiafswm gofynnol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 34 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)