xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
11.—(1) Ac eithrio mewn achos y mae is-baragraff (2) neu (4) yn gymwys iddo, at y diben o gyfrifo incwm wythnosol ceisydd sy’n bensiynwr pan fo’r cyfnod y gwneir taliad mewn perthynas ag ef—
(a)yn ddim hwy nag wythnos, rhaid cynnwys y cyfan o’r taliad hwnnw yn incwm wythnosol y ceisydd;
(b)yn hwy nag wythnos, rhaid penderfynu’r swm sydd i’w gynnwys yn incwm wythnosol y ceisydd—
(i)mewn achos pan fo’r cyfnod hwnnw’n fis, drwy luosi swm y taliad gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 52;
(ii)mewn achos pan fo’r cyfnod hwnnw’n dri mis, drwy luosi swm y taliad gyda 4 a rhannu’r lluoswm gyda 52;
(iii)mewn achos pan fo’r cyfnod hwnnw’n flwyddyn, drwy rannu’r lluoswm gyda 52;
(iv)mewn unrhyw achos arall, drwy luosi swm y taliad gyda 7 a rhannu’r lluoswm gyda nifer y diwrnodau yn y cyfnod y gwneir y taliad mewn perthynas ag ef.
(2) Mae is-baragraff (3) yn gymwys—
(a)pan fo patrwm gwaith rheolaidd y ceisydd yn gyfryw nad yw’r ceisydd yn gweithio yr un oriau bob wythnos; neu
(b)pan fo swm incwm y ceisydd yn codi a gostwng ac wedi newid fwy nag unwaith.
(3) Rhaid penderfynu swm wythnosol incwm y ceisydd hwnnw—
(a)mewn achos y mae is-baragraff (2)(a) yn gymwys iddo, os oes cylch gwaith adnabyddadwy, drwy gyfeirio at incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd dros gyfnod y cylch cyfan (ac os yw’r cylch yn cynnwys cyfnodau pan nad yw’r person yn gweithio, gan gynnwys y cyfnodau hynny, ond diystyru unrhyw absenoldebau eraill); neu
(b)mewn unrhyw achos arall, ar sail—
(i)y ddau daliad diwethaf os gwahenir y taliadau hynny gan gyfnod o fis neu fwy;
(ii)y pedwar taliad diwethaf os gwahenir y ddau daliad diwethaf gan gyfnod o lai nag un mis; neu
(iii)cyfrifo neu amcangyfrif pa bynnag daliadau eraill a allai, yn amgylchiadau penodol yr achos, [F1alluogi] penderfynu incwm wythnosol cyfartalog y ceisydd yn fwy cywir.
(4) At ddibenion is-baragraff (3)(b) y taliadau diwethaf yw’r taliadau diwethaf cyn y dyddiad y gwnaed y cais, neu y triniwyd y cais fel pe bai wedi ei wneud.
(5) Os oes hawl gan y ceisydd i gael taliad y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddo, rhaid trin swm y taliad hwnnw fel pe bai wedi ei wneud mewn perthynas â chyfnod o flwyddyn.
(6) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i’r canlynol—
(a)breindaliadau neu symiau eraill a delir yn gyfnewid am ddefnyddio, neu’r hawl i ddefnyddio, unrhyw hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach;
(b)unrhyw daliad mewn perthynas ag—
(i)unrhyw lyfr a gofrestrwyd o dan Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982; neu
(ii)unrhyw waith a wnaed o dan unrhyw gynllun hawliau benthyg i’r cyhoedd rhyngwladol cyfatebol i Gynllun Hawliau Benthyg i’r Cyhoedd 1982; ac
(c)unrhyw daliad a wneir ar sail achlysurol.
(7) Y cyfnod y mae’n rhaid cymryd i ystyriaeth drosto unrhyw fudd-dal o dan y Deddfau budd-dal yw’r cyfnod y mae’r budd-dal hwnnw’n daladwy mewn perthynas ag ef.
(8) Os gwneir taliadau mewn arian ac eithrio sterling, rhaid penderfynu gwerth y taliad ar sail y cyfwerth sterling ar y dyddiad y gwneir y taliad.
(9) Rhaid diystyru’r symiau a bennir yn Atodlen 3 wrth gyfrifo—
(a)enillion y ceisydd; a
(b)unrhyw swm y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddo, os y ceisydd yw perchennog cyntaf yr hawlfraint, dyluniad, patent neu nod masnach, neu os yw’n gyfrannwr gwreiddiol i’r llyfr neu’r gwaith y cyfeirir ato yn is-baragraff (6)(b).
(10) At ddibenion is-baragraff (9)(b), ac at y dibenion hynny yn unig, rhaid trin y symiau a bennir yn is-baragraff (6) fel pe baent yn enillion.
(11) Rhaid diystyru incwm a bennir yn Atodlen 4 wrth gyfrifo incwm y ceisydd.
(12) Mae Atodlen 5 yn cael effaith fel a ganlyn—
(a)rhaid diystyru’r cyfalaf a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen honno at y diben o benderfynu incwm ceisydd; a
(b)rhaid diystyru’r cyfalaf a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno at y diben o benderfynu incwm ceisydd o dan baragraff 31 (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf: pensiynwyr).
(13) Yn achos unrhyw incwm a gymerir i ystyriaeth at y diben o gyfrifo incwm person, rhaid diystyru unrhyw swm sy’n daladwy fel treth.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Atod. 1 para. 11(3)(b)(iii) wedi ei amnewid (15.1.2014) gan Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/66), rhlau. 1, 6(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)