Cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyrLL+C
13.—(1) At ddibenion paragraff 18 (cyfrifo incwm ar sail wythnosol: pensiynwyr), rhaid i enillion ceisydd sy’n deillio, neu’n debygol o ddeillio, o’i gyflogaeth fel enillydd cyflogedig, ac y’u cymerir i ystyriaeth, yn ddarostyngedig i baragraff 11(4) ac Atodlen 3 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr), fod yn enillion net y ceisydd hwnnw.
(2) At ddibenion is-baragraff (1) rhaid cyfrifo’r enillion net, ac eithrio pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, drwy gymryd i ystyriaeth enillion gros y ceisydd o’r gyflogaeth honno dros y cyfnod asesu, llai—
(a)unrhyw swm a ddidynnir o’r enillion hynny fel—
(i)treth incwm;
(ii)cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol o dan DCBNC;
(b)hanner unrhyw swm a delir gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol;
(c)hanner y swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (4) mewn perthynas ag unrhyw gyfraniad cymwys sy’n daladwy gan y ceisydd; a
(d)os yw’r enillion hynny’n cynnwys taliad sy’n daladwy o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cael effaith yng Ngogledd Iwerddon ac sy’n cyfateb i dâl salwch statudol, tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol cyffredin neu ychwanegol neu dâl mabwysiadu statudol, unrhyw swm a ddidynnir o’r enillion hynny fel unrhyw gyfraniadau sy’n cyfateb i gyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol o dan DCBNC.
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfraniad cymwys” (“qualifying contribution”) yw unrhyw swm sy’n daladwy fesul cyfnod fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn personol.
(4) Rhaid cyfrifo’r swm mewn perthynas ag unrhyw gyfraniad cymwys drwy luosi swm dyddiol y cyfraniad cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod asesu; ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid penderfynu swm dyddiol y cyfraniad cymwys fel a ganlyn—
(a)os yw’r cyfraniad cymwys yn daladwy yn fisol, drwy luosi swm y cyfraniad cymwys gyda 12 a rhannu’r lluoswm gyda 365;
(b)mewn unrhyw achos arall, drwy rannu swm y cyfraniad cymwys gyda’r rhif sy’n hafal i nifer y diwrnodau yn y cyfnod y mae’r cyfraniad cymwys yn berthynol iddo.
(5) Pan benderfynir enillion ceisydd o dan baragraff 11(2)(b) (cyfrifo incwm wythnosol: dosbarthiadau A a B) rhaid cyfrifo enillion net y ceisydd hwnnw drwy gymryd i ystyriaeth yr enillion hynny dros y cyfnod asesu, llai—
(a)swm mewn perthynas â threth incwm, sy’n gyfwerth â’r swm a gyfrifir drwy gymhwyso i’r enillion hynny y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 35, 36 neu 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007() (lwfansau personol), fel y bo’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd, ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir y gyfradd dreth sylfaenol iddynt a swm y rhyddhad personol sy’n ddidynadwy o dan yr is-baragraff hwn ar sail pro rata;
(b)swm sy’n gyfwerth â swm y cyfraniadau Dosbarth 1 sylfaenol a fyddai’n daladwy gan y ceisydd o dan DCBNC mewn perthynas â’r enillion hynny pe bai cyfraniadau o’r fath yn daladwy; ac
(c)hanner unrhyw swm a fyddai’n daladwy gan y ceisydd fel cyfraniad tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol, pe bai’r enillion a amcangyfrifwyd felly yn enillion gwirioneddol.