RHAN 2LL+CIncwm
Cyfrifo incwm grantLL+C
4.—(1) Rhaid i’r swm o incwm grant myfyriwr a gymerir i ystyriaeth wrth asesu incwm y myfyriwr, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), fod y cyfan o incwm grant y myfyriwr.
(2) Rhaid hepgor o incwm grant myfyriwr unrhyw daliad—
(a)a fwriedir i ddiwallu ffioedd dysgu neu ffioedd arholiad;
(b)mewn perthynas ag anabledd y myfyriwr;
(c)a fwriedir i ddiwallu gwariant ychwanegol mewn cysylltiad ag astudiaeth breswyl yn ystod y tymor, i ffwrdd o sefydliad addysgol y myfyriwr;
(d)oherwydd bod y myfyriwr yn cynnal cartref yn rhywle arall, ar wahân i’r man lle mae’r myfyriwr yn preswylio yn ystod ei gwrs;
(e)ar gyfer unrhyw berson arall, ond hynny yn unig os yw’r person hwnnw’n preswylio y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad oes swm cymwysadwy mewn perthynas â’r person hwnnw;
(f)a fwriedir i ddiwallu cost llyfrau a chyfarpar;
(g)a fwriedir i ddiwallu costau teithio a dynnir o ganlyniad i bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs;
(h)a fwriedir ar gyfer costau gofal plant i ddibynnydd sy’n blentyn;
(i)o fwrsari addysg uwch i ymadawyr gofal, a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf Plant 1989.
(3) Pan nad oes gan fyfyriwr fenthyciad myfyriwr ac nas trinnir ef fel pe bai’n meddu benthyciad o’r fath, rhaid hepgor o incwm grant y myfyriwr—
(a)y swm o £303 am bob blwyddyn academaidd mewn perthynas â chostau teithio; a
(b)y swm o £390 am bob blwyddyn academaidd tuag at gostau llyfrau a chyfarpar,
pa un a dynnir y cyfryw gostau ai peidio.
(4) Rhaid hepgor hefyd, o incwm grant myfyriwr y grant ar gyfer dibynyddion a elwir yn lwfans dysgu rhieni, a delir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan erthygl 3 o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 neu adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
(5) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (6) a (7), rhaid dosrannu incwm grant myfyriwr—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (8), mewn achos yw’n briodoladwy i’r cyfnod astudio, yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod hwnnw sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y cyfnod astudio ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cyfnod astudio;
(b)mewn unrhyw achos arall, yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y cyfnod y mae’n daladwy ar ei gyfer ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cyfnod y mae’n daladwy ar ei gyfer.
(6) Rhaid dosrannu unrhyw grant mewn perthynas â dibynyddion a delir o dan adran 63(6) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968() (grantiau mewn perthynas â darparu hyfforddiant i swyddogion awdurdodau ysbyty) ac unrhyw swm a fwriedir ar gyfer cynhaliaeth dibynyddion o dan Ran 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003 yn gyfartal dros y cyfnod o 52 wythnos neu, os oes 53 o wythnosau gostyngiad (gan gynnwys rhan-wythnosau) yn y flwyddyn, 53 wythnos.
(7) Mewn achos pan fo myfyriwr yn cael benthyciad myfyriwr, neu y gallai’r myfyriwr fod wedi caffael benthyciad myfyriwr drwy gymryd camau rhesymol ond nad oedd wedi gwneud hynny, rhaid i unrhyw swm a fwriadwyd ar gyfer cynnal dibynyddion ac nad yw is-baragraff (6) na pharagraff 8(2) (symiau eraill sydd i’w diystyru) yn gymwys iddo, gael ei ddosrannu dros yr un cyfnod ag y dosrennir y benthyciad myfyriwr neu, yn ôl fel y digwydd, y byddid wedi ei ddosrannu.
(8) Yn achos myfyriwr ar gwrs rhyngosod, rhaid hepgor unrhyw gyfnodau o brofiad sydd o fewn y cyfnod astudio, a rhaid dosrannu incwm grant y myfyriwr yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod sy’n cychwyn gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn dilyn yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod o brofiad ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cyfnod astudio.
Cyfrifo incwm cyfamod pan asesir cyfraniadLL+C
5.—(1) Pan fo myfyriwr yn cael incwm ar ffurf grant yn ystod cyfnod astudio a chyfraniad wedi ei asesu, rhaid i’r swm o incwm cyfamod y myfyriwr, a gymerir i ystyriaeth ar gyfer y cyfnod hwnnw ac unrhyw wyliau haf sy’n dilyn yn union wedyn, fod y swm cyfan o’r incwm cyfamod, llai, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), swm y cyfraniad.
(2) Rhaid penderfynu swm wythnosol incwm cyfamod y myfyriwr—
(a)drwy rannu swm yr incwm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-baragraff (1) gyda 52 neu 53, pa un bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau; a
(b)drwy ddiystyru £5 o’r swm canlyniadol.
(3) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin y cyfraniad fel pe bai wedi ei gynyddu o ba bynnag swm (os oes un) y mae’r swm a hepgorir o dan baragraff 4(2)(g) (cyfrifo incwm grant) yn brin o’r swm a bennir ym mharagraff 7(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003 (gwariant teithio).
Incwm cyfamod pan nad asesir incwm grant neu nad asesir cyfraniadLL+C
6.—(1) Pan nad yw myfyriwr yn cael incwm ar ffurf grant, rhaid cyfrifo swm incwm cyfamod y myfyriwr fel a ganlyn—
(a)rhaid diystyru unrhyw symiau a fwriadwyd ar gyfer unrhyw wariant a bennir ym mharagraff 4(2)(a) i (e) (cyfrifo incwm grant) ac sy’n angenrheidiol o ganlyniad i bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs;
(b)rhaid dosrannu unrhyw incwm cyfamod, hyd at swm y grant cynhaliaeth safonol, nas diystyrir felly, yn gyfartal rhwng wythnosau’r cyfnod astudio;
(c)rhaid diystyru, o’r swm a ddosrannwyd felly, y swm y byddid wedi ei ddiystyru o dan baragraff 4(2)(f) a (3) (cyfrifo incwm grant) pe bai’r myfyriwr wedi bod yn cael y grant cynhaliaeth safonol; a
(d)rhaid rhannu’r balans, os oes un, gyda 52 neu 53, pa un bynnag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, a’i drin fel incwm wythnosol y mae’n rhaid diystyru £5 ohono.
(2) Pan fo myfyriwr yn cael incwm ar ffurf grant ac nad oes cyfraniad wedi ei asesu, rhaid cyfrifo swm incwm cyfamod y myfyriwr yn unol â pharagraffau (a) i (d) o is-baragraff (1), ac eithrio—
(a)rhaid lleihau gwerth y grant cynhaliaeth safonol o swm y cyfryw incwm grant llai swm sy’n hafal i gyfanswm unrhyw symiau a ddiystyrir o dan baragraff 4(2)(a) i (e); a
(b)rhaid lleihau’r swm sydd i’w ddiystyru o dan is-baragraff (1)(c) o swm sy’n hafal i gyfanswm unrhyw symiau a ddiystyrir o dan baragraff 4(2)(f) ac (g) a (3).
Y berthynas â symiau sydd i’w diystyru o dan Atodlen 9LL+C
7. Rhaid peidio â diystyru unrhyw ran o incwm cyfamod neu incwm grant myfyriwr o dan baragraff 19 o Atodlen 9 (diystyru rhai taliadau elusennol a gwirfoddol etc.).
Symiau eraill sydd i’w diystyruLL+C
8.—(1) At y diben o ganfod incwm arall ac eithrio incwm grant, incwm cyfamod a benthyciadau a drinnir fel incwm yn unol â pharagraff 9 (trin benthyciadau myfyriwr), rhaid diystyru unrhyw symiau a fwriadwyd ar gyfer unrhyw wariant a bennir ym mharagraff 4(2) (cyfrifo incwm grant), sy’n angenrheidiol o ganlyniad i bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys onid yw, ac i’r graddau y mae, y gwariant angenrheidiol yn fwy, neu’n debygol o fod yn fwy, na chyfanswm y symiau a ddiystyrir o dan baragraff 4(2) neu (3), 5(3), 6(1)(a) neu (c) neu 9(5) (cyfrifo incwm grant, incwm cyfamod a thrin benthyciadau myfyriwr) ynglŷn â gwariant cyffelyb.
Trin benthyciadau myfyriwrLL+C
9.—(1) Rhaid trin benthyciad myfyriwr fel incwm.
(2) Wrth gyfrifo’r swm wythnosol o’r benthyciad sydd i’w gymryd i ystyriaeth fel incwm—
(a)mewn perthynas â chwrs sy’n parhau am un flwyddyn academaidd neu lai, rhaid dosrannu benthyciad sy’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod, sy’n dechrau gydag—
(i)ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (ii) yn gymwys, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf yr un flwyddyn academaidd;
(ii)pan yw’n ofynnol bod y myfyriwr yn dechrau mynychu’r cwrs yn Awst, neu pan fo hyd y cwrs yn llai nag un flwyddyn academaidd, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y cwrs,
ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cwrs;
(b)mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs sy’n cychwyn ac eithrio ar 1 Medi, rhaid dosrannu benthyciad sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod—
(i)sy’n dechrau gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd honno; a
(ii)yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y flwyddyn academaidd honno,
ond gan hepgor unrhyw wythnosau gostyngiad sy’n digwydd yn gyfan gwbl o fewn y chwarter pan, ym marn yr awdurdod, y cymerir y cyfnod hwyaf o unrhyw wyliau...;
(c)mewn perthynas â blwyddyn academaidd derfynol cwrs (nad yw’n gwrs sy’n parhau am un flwyddyn), rhaid dosrannu benthyciad sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd derfynol honno yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod, sy’n dechrau gydag—
(i)ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (ii) yn gymwys, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl, diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd honno;
(ii)pan fo’r flwyddyn academaidd derfynol yn cychwyn ar 1 Medi, yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl y cynharaf o 1 Medi neu ddiwrnod cyntaf tymor yr hydref,
ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu, diwrnod olaf y cwrs;
(d)mewn unrhyw achos arall, rhaid dosrannu’r benthyciad yn gyfartal rhwng yr wythnosau yn y cyfnod sy’n dechrau gyda’r cynharaf o’r canlynol—
(i)diwrnod cyntaf yr wythnos ostyngiad gyntaf ym Medi; neu
(ii)yr wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod cyntaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n dilyn yn union ar ôl diwrnod cyntaf tymor yr hydref,
ac yn diweddu gyda’r wythnos ostyngiad y mae ei diwrnod olaf yn cyd-ddigwydd â, neu’n union ragflaenu’r diwrnod olaf ym Mehefin, ac ym mhob achos, o’r swm wythnosol fel y’i dosrannwyd rhaid diystyru £10.
(3) Rhaid trin myfyriwr fel pe bai’n meddu benthyciad myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd os—
(a)rhoddwyd benthyciad myfyriwr i’r myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno; neu
(b)y gallai’r myfyriwr gaffael benthyciad o’r fath mewn perthynas â’r flwyddyn honno drwy gymryd camau rhesymol i wneud hynny.
(4) Pan drinnir myfyriwr fel pe bai’n meddu benthyciad myfyriwr o dan is-baragraff (3), mae swm y benthyciad myfyriwr y mae’n rhaid ei gymryd i ystyriaeth fel incwm, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), fel a ganlyn—
(a)yn achos myfyriwr y rhoddir benthyciad myfyriwr iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd, swm sy’n hafal i—
(i)swm y benthyciad myfyriwr mwyaf y gall y myfyriwr hwnnw ei gaffael mewn perthynas â’r flwyddyn honno drwy gymryd camau rhesymol i wneud hynny; a
(ii)unrhyw gyfraniad, pa un a dalwyd y cyfraniad hwnnw i’r myfyriwr ai peidio;
(b)yn achos myfyriwr na roddwyd benthyciad myfyriwr iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd, swm y benthyciad myfyriwr mwyaf y byddid yn ei roi i’r myfyriwr hwnnw—
(i)pe bai’r myfyriwr yn cymryd pob cam rhesymol i gael y benthyciad myfyriwr mwyaf y mae modd iddo’i gaffael mewn perthynas â’r flwyddyn honno; a
(ii)pe na wneid unrhyw ddidyniad o’r benthyciad hwnnw yn rhinwedd gweithredu prawf modd.
(5) Rhaid didynnu o swm yr incwm a gymerir i ystyriaeth o dan is-baragraff (4)—
(a)y swm o £303 am bob blwyddyn academaidd mewn perthynas â chostau teithio; a
(b)y swm o £390 am bob blwyddyn academaidd tuag at gost llyfrau a chyfarpar,
pa un a dynnir costau o’r fath ai peidio.
[(6) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno sydd —
(a)yn dechrau ar 1 Ionawr ac yn diweddu ar 31 Mawrth;
(b)yn dechrau ar 1 Ebrill ac yn diweddu ar 30 Mehefin;
(c)yn dechrau ar 1 Gorffennaf ac yn diweddu ar 31 Awst; neu
(d)yn dechrau ar 1 Medi ac yn diweddu ar 31 Rhagfyr.]
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Trin benthyciadau ffioeddLL+C
10. Rhaid diystyru fel incwm unrhyw fenthyciad ar gyfer ffioedd, a elwir hefyd yn fenthyciad ffioedd neu’n fenthyciad cyfrannu at ffioedd, a roddir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan erthygl 3 o [Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998] , adran 22 o Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 neu adran 73(f) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Trin taliadau o gronfeydd mynediadLL+C
11.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i daliadau o gronfeydd mynediad nad ydynt yn daliadau y mae paragraff 14(2) neu (3) (incwm a drinnir fel cyfalaf) yn gymwys iddynt.
(2) Rhaid diystyru fel incwm unrhyw daliad o gronfeydd mynediad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) o’r paragraff hwn a pharagraff 40 o Atodlen 9, rhaid diystyru fel incwm—
(a)unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a fwriedir ac a ddefnyddir ar gyfer eitem o fwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref, neu rent ceisydd sengl neu, yn ôl fel y digwydd, y ceisydd neu unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, a
(b)unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a ddefnyddir ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd yn atebol,
hyd at £20 yr wythnos.
(4) Pan wneir taliad o gronfeydd mynediad—
(a)ar neu ar ôl 1 Medi neu ddiwrnod cyntaf y cwrs, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf, ond cyn cael unrhyw fenthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, a’r taliad wedi ei fwriadu at y diben o bontio’r cyfnod hyd nes ceir y benthyciad myfyriwr; neu
(b)cyn diwrnod cyntaf y cwrs i berson gan ddisgwyl y bydd y person hwnnw’n dod yn fyfyriwr,
rhaid diystyru’r taliad hwnnw fel incwm.
Diystyru cyfraniadLL+C
12. Pan fo’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn fyfyriwr ac at y diben o asesu cyfraniad i grant neu fenthyciad myfyriwr y myfyriwr, cymerwyd i ystyriaeth incwm y partner arall, rhaid diystyru swm sy’n hafal i’r cyfraniad hwnnw at y diben o asesu incwm y partner arall hwnnw.
Diystyriad pellach o incwm myfyriwrLL+C
13. Pan fo unrhyw ran o incwm myfyriwr wedi ei chymryd i ystyriaeth eisoes at y diben o asesu hawlogaeth y myfyriwr hwnnw i gael grant neu fenthyciad myfyriwr, rhaid diystyru’r swm a gymerwyd i ystyriaeth wrth asesu incwm y myfyriwr hwnnw.
Incwm a drinnir fel cyfalafLL+C
14.—(1) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm ar ffurf ad-daliad o dreth a ddidynnwyd o incwm cyfamod myfyriwr.
(2) Rhaid trin fel cyfalaf unrhyw swm a delir o gronfeydd mynediad fel cyfandaliad sengl.
(3) Rhaid i swm a delir o gronfeydd mynediad fel cyfandaliad sengl, a fwriedir ac a ddefnyddir ar gyfer eitem ac eithrio bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent, neu a ddefnyddir ar gyfer eitem ac eithrio unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd hwnnw neu unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd yn atebol amdanynt, gael eu diystyru fel cyfalaf, ond am gyfnod, yn unig, o 52 wythnos o ddyddiad y taliad.
Diystyru newidiadau sy’n digwydd yn ystod gwyliau’r hafLL+C
15. Wrth gyfrifo incwm myfyriwr, rhaid i awdurdod ddiystyru unrhyw newid yn y grant cynhaliaeth safonol, sy’n digwydd yn ystod y gwyliau haf cydnabyddedig sy’n briodol i gwrs y myfyriwr, os nad yw’r gwyliau hynny’n ffurfio rhan o gyfnod astudio’r myfyriwr o’r dyddiad y digwyddodd y newid hyd at ddiwedd y gwyliau hynny.