Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 19/01/2024.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), y dyddiad pan wneir cais yw—
(a)mewn achos pan fo—
(i)dyfarniad o gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys credyd gwarant wedi ei wneud i’r ceisydd neu bartner y ceisydd, a
(ii)y cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod wedi ei wneud o fewn un mis i’r dyddiad y cafwyd, yn swyddfa briodol yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr hawliad am y credyd pensiwn y wladwriaeth hwnnw sy’n cynnwys credyd gwarant,
diwrnod cyntaf yr hawlogaeth i gredyd pensiwn y wladwriaeth sy’n cynnwys credyd gwarant, sy’n codi o’r hawliad hwnnw;
(b)mewn achos pan fo—
(i)ceisydd neu bartner y ceisydd yn berson sy’n cael credyd gwarant,
(ii)y ceisydd yn dod yn atebol am y tro cyntaf i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd a feddiennir gan y ceisydd fel ei gartref, a
(iii)y swyddfa ddynodedig yn cael y cais a wnaed i’r awdurdod o fewn un mis i ddyddiad y newid,
y dyddiad pan fo’r newid yn digwydd;
(c)mewn achos pan fo—
(i)dyfarniad o gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol wedi ei wneud i’r ceisydd neu bartner y ceisydd, a
(ii)y cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod wedi ei wneud o fewn un mis i’r dyddiad y cafwyd yr hawliad am y cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith, lwfans cyflogaeth a chymorth neu gredyd cynhwysol,
diwrnod cyntaf yr hawlogaeth i gymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu gredyd cynhwysol sy’n codi o’r hawliad hwnnw;
(d)mewn achos pan fo—
(i)ceisydd neu bartner y ceisydd yn berson sy’n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol,
(ii)y ceisydd yn dod yn atebol am y tro cyntaf i dalu treth gyngor mewn perthynas â’r annedd a feddiennir gan y ceisydd fel ei gartref, a
(iii)y swyddfa ddynodedig yn cael y cais a wnaed i’r awdurdod o fewn un mis i ddyddiad y newid,
y dyddiad pan fo’r newid yn digwydd;
(e)mewn achos pan fo—
(i)y ceisydd yn gyn-bartner person yr oedd hawl ganddo, ar y dyddiad y bu farw’r person hwnnw, neu y gwahanodd y ceisydd a’r person hwnnw, i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod, a
(ii)y ceisydd yn gwneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod o fewn un mis i ddyddiad y farwolaeth neu’r gwahanu,
dyddiad y farwolaeth neu’r gwahanu;
(f)ac eithrio pan fodlonir paragraff (a), (b) neu (e), mewn achos pan fo’r swyddfa ddynodedig wedi cael cais, a gwblhawyd yn briodol, o fewn un mis (neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod) i’r dyddiad y dyroddwyd ffurflen gais i’r ceisydd, wedi i’r ceisydd yn gyntaf hysbysu’r awdurdod, ym mha bynnag fodd, o’i fwriad i wneud cais, dyddiad yr hysbysiad cyntaf;
(g)mewn unrhyw achos arall, y dyddiad y ceir y cais yn y swyddfa ddynodedig.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(c) yn unig, rhaid trin person y dyfarnwyd iddo lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm fel pe bai hawl ganddo i gael y lwfans hwnnw ar gyfer unrhyw ddiwrnodau sy’n union ragflaenu diwrnod cyntaf y dyfarniad hwnnw pan fyddai’r person hwnnw, oni bai am reoliadau a wnaed o dan—
(a)yn achos lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, paragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 (diwrnodau aros); neu
(b)yn achos lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, paragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (diwrnodau aros),
wedi bod â hawl i gael y lwfans hwnnw.
(3) O ran y diffyg y cyfeirir ato ym mharagraff 7 o Atodlen 12 (cais dros y teleffon)—
(a)pan fo’r diffyg wedi ei gywiro o fewn un mis (neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod) i’r dyddiad y tynnwyd sylw at y diffyg ddiwethaf gan yr awdurdod, rhaid i’r awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud yn briodol y tro cyntaf;
(b)pan nad yw’r diffyg wedi ei gywiro o fewn un mis (neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod) i’r dyddiad y tynnwyd sylw at y diffyg ddiwethaf gan yr awdurdod, rhaid i’r awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud yn briodol y tro cyntaf os yw o’r farn bod ganddo wybodaeth ddigonol i wneud penderfyniad ar y cais.
(4) Rhaid i awdurdod drin cais diffygiol fel pe bai wedi ei wneud yn ddilys y tro cyntaf, os yw’r amodau a bennir yn is-baragraff (5)(a), (b) neu (c), mewn unrhyw achos penodol, wedi eu bodloni.
(5) Yr amodau yw—
(a)pan fo paragraff 4(1)(a) o Atodlen 12 (ffurflen anghyflawn) yn gymwys, bod yr awdurdod yn cael, yn y swyddfa ddynodedig, y cais wedi ei gwblhau’n briodol neu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i’w gwblhau neu’r dystiolaeth, o fewn un mis ar ôl gofyn am y cyfryw, neu pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod; neu
(b)pan fo paragraff 4(1)(b) o Atodlen 12 (cais nad yw ar y ffurflen gymeradwy, neu’r awdurdod yn gofyn am wybodaeth bellach) yn gymwys—
(i)bod y swyddfa ddynodedig yn cael y ffurflen gymeradwy, a anfonwyd at y ceisydd, wedi ei chwblhau’n briodol o fewn un mis ar ôl ei hanfon at y ceisydd; neu, yn ôl fel y digwydd,
(ii)bod y ceisydd yn cyflenwi pa bynnag wybodaeth neu dystiolaeth y gofynnwyd amdani o dan baragraff 4 o Atodlen 12, o fewn un mis ar ôl gofyn am y cyfryw,
neu, yn y naill achos neu’r llall, o fewn pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod; neu
(c)pan fo’r awdurdod wedi gofyn am wybodaeth bellach, bod yr awdurdod yn cael, yn y swyddfa ddynodedig, y cais wedi ei gwblhau’n briodol neu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani o fewn un mis ar ôl gofyn am y cyfryw, neu o fewn pa bynnag gyfnod hwy a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod.
(6) Ac eithrio yn achos cais a wneir gan berson a drinnir fel pe na bai’n byw ym Mhrydain Fawr, pan nad yw person wedi dod yn atebol i awdurdod am dreth gyngor, ond rhagwelir y bydd y person hwnnw’n atebol felly o fewn cyfnod o 13 wythnos (y cyfnod perthnasol), caiff y person hwnnw wneud cais am ostyngiad o dan gynllun awdurdod ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw mewn perthynas â’r dreth honno ac, ar yr amod bod atebolrwydd yn codi o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i’r awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud ar y diwrnod y mae’r atebolrwydd am y dreth yn codi.
(7) Ac eithrio yn achos cais a wneir gan berson a drinnir fel pe na bai’n byw ym Mhrydain Fawr, pan nad oes hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod ar yr adeg y mae’r awdurdod yn cael y cais, ond ym marn yr awdurdod, oni fydd yr amgylchiadau yn newid, bydd hawl gan y ceisydd i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod am gyfnod sy’n cychwyn ddim hwyrach na’r drydedd wythnos ostyngiad ar ddeg ar ôl y dyddiad y gwnaed y cais (neu pa bynnag gyfnod arall a ystyrir yn rhesymol gan yr awdurdod), caiff yr awdurdod drin y cais fel pe bai wedi ei wneud ar ddyddiad yn yr wythnos ostyngiad sy’n union ragflaenu’r wythnos ostyngiad gyntaf yn y cyfnod o hawlogaeth hwnnw, a dyfarnu gostyngiad yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 13 para. 2 mewn grym ar 28.11.2013, gweler rhl. 1(2)
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: