Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013

RHAN 9LL+CASESIAD ARIANNOL

Cyfrifo’r cyfraniadLL+C

66.—(1Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw’r swm a gyfrifir o dan Atodlen 5, os oes unrhyw swm o gwbl.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o bryd i’w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 66 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso’r cyfraniadLL+C

67.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (7), mae swm sy’n hafal i’r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl fel y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 5 i’w gymhwyso hyd nes dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a’r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w cael fel a ganlyn—

(a)yn gyntaf, i ostwng GFF;

(b)yn ail, i ostwng ADG;

(c)yn drydydd, i ostwng CCG;

(d)yn bedwerydd, i ostwng PLA;

(e)yn bumed, i ostwng LLC i ddim llai na’r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;

(f)yn chweched, i ostwng GFT.

(2Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 17(1) neu 17(7), er mwyn penderfynu swm gwirioneddol y grant ar gyfer ffioedd sy’n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso’r cyfraniad yn unol â pharagraff (1).

(3Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, pan fo swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 17(2) neu 17(8) a phan fo un o’r amgylchiadau a nodir yn rheoliad 17(4)(b) neu (d) yn gymwys, er mwyn penderfynu swm gwirioneddol y grant ar gyfer ffioedd sy’n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)yn gyntaf, cymhwyso’r cyfraniad i ostwng swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd;

(b)yn ail, os nad yw’r cyfraniad wedi ei ddihysbyddu, didynnu swm sy’n hafal i swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd o’r hyn sy’n weddill o’r cyfraniad gan ostwng gweddill y cyfraniad i ddim llai na dim; ac

(c)yn drydydd, os nad yw’r cyfraniad eto wedi ei ddihysbyddu, cymhwyso’r gweddill yn gyntaf i ostwng ADG, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.

(4Os yw’r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs ar gyfer gradd gyntaf), nid oes unrhyw gyfraniad i’w gymhwyso yn erbyn swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd, a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.

(5Yn achos blwyddyn Erasmus, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso swm y rhan o’r cyfraniad sydd dros ben £1,380 i ostwng ADG yn gyntaf, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.

(6Os nad oes hawl gan y myfyriwr i gael grant ar gyfer ffioedd am unrhyw reswm arall, mae GFF yn ddim, a rhaid cymhwyso’r cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.

(7Yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, rhaid trin GFF fel pe bai’n ddim a chymhwyso’r cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG, ac addesir paragraff (1) yn unol â hynny.

(8Yn y rheoliad hwn—

(a)ADG yw swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 34;

(b)CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 34;

(c)GFF yw swm y grant ar gyfer ffioedd, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w gael o dan Ran 4;

(d)GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w gael o dan reoliad 37 os oes unrhyw swm o gwbl;

(e)LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys (ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol) hawl i’w gael o dan Ran 6 i ddim llai na’r lefel isaf am y flwyddyn academaidd a bennir ym mharagraff (9);

(f)PLA yw swm, os oes unrhyw swm o gwbl, lwfans dysgu’r rhieni a gyfrifir o dan reoliad 34 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).

(9Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) ac (11), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yn rheoliad 67(1)(e) yw, yn achos myfyriwr—

(a)yng nghategori 1, £3,020;

(b)yng nghategori 2, £5,466;

(c)yng nghategori 3, £4,652;

(d)yng nghategori 4, £4,652;

(e)yng nghategori 5, £3,902.

(10Yn ddarostyngedig i baragraff (11), os y flwyddyn academaidd o dan sylw yw blwyddyn derfynol cwrs ac eithrio cwrs dwys, y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw, yn achos myfyriwr—

(a)yng nghategori 1, £2,734;

(b)yng nghategori 2, £4,978;

(c)yng nghategori 3, £4,046;

(d)yng nghategori 4, £4,046;

(e)yng nghategori 5, £3,614.

(11Pan fo categorïau gwahanol yn gymwys i fyfyriwr cymwys ar gyfer gwahanol chwarteri o’r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (9) a (10) yw swm cyfanredol y symiau a benderfynir o dan baragraff (12) ar gyfer pob un o’r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.

(12Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter yw traean o’r swm ym mharagraff (9) neu (10) sy’n cyfateb i’r gyfradd sy’n gymwys ar gyfer y chwarter.

(13Mae’r paragraff hwn yn gymwys i fyfyrwyr math 1 a math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddynt hawl i gael grant cynhaliaeth ac y mae eu cyfraniad yn fwy na dim.

(14Mae’r benthyciad at gostau byw sy’n daladwy o ran blwyddyn academaidd i fyfyriwr y mae paragraff (13) yn gymwys iddo yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn—

pan fo—

  • A yn swm y benthyciad at gostau byw sy’n weddill ar ôl cymhwyso’r cyfraniad yn unol â’r Rhan hon; a

  • B yn swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys.

(15Mae i’r categorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 63.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 67 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)