Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 6

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Schedule 6:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Rheoliad 108

ATODLEN 6LL+CASESIAD ARIANNOL — GRANTIAU RHAN-AMSER AR GYFER DIBYNYDDION

DiffiniadauLL+C

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;

(b)mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

(c)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;

(d)ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;

(e)ystyr “myfyriwr sy’n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n rhiant i fyfyriwr cymwys;

(f)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol ac yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol ac yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(g)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(h)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw’r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu mewn perthynas â hi;

(i)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys) neu baragraff 4 (yn achos partner myfyriwr rhan-amser cymwys) a’r incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) a hwnnw’n incwm a gafwyd ar ôl didynnu treth incwm; ac

(j)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 3, mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae cais wedi ei wneud ar ei chyfer o dan reoliad 111 ac, o ran paragraff 4, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) â’r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi ei gyfrifiannu at ddibenion—

(i)y Deddfau Treth Incwm;

(ii)deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu

(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),

ac eithrio bod incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall yn cael ei ddiystyru.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

Incwm yr aelwydLL+C

2.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr rhan-amser cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd—

(a)yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys a chanddo bartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei gyfuno gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

(b)yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys.

(3Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae’r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu am bob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr hwnnw.

(4Er mwyn cyfrifo’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy’n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy’n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (a) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy’n rhiant ac y mae gan ei blentyn ef neu blentyn ei bartner sy’n fyfyriwr cymwys ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy’n rhiant neu bartner y myfyriwr sy’n rhiant neu’r ddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwysLL+C

3.—(1Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys, didynnir o’i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi ei ddidynnu eisoes wrth bennu’r incwm trethadwy) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall sy’n daladwy o dan bolisi a dalwyd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bensiwn sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(1), neu pan gyfrifiennir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad drosto yn cael ei roi petai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano ac os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy’n wahanol i’r ffynonellau neu’r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, ni ddiystyrir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach diystyrir ei incwm i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw’n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

(3Pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—

(a)os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn prynu sterling â’r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr rhan-amser cymwys fel hyn;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio’r gyfradd ar gyfer y mis y daeth i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwysLL+C

4.—(1Er mwyn pennu incwm trethadwy partner (“A” yn y paragraff hwn) myfyriwr rhan-amser cymwys, rhaid i unrhyw ddidyniadau sydd i’w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir—

(a)ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol cyffelyb;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly odano neu odani; neu

(c)o dan is-baragraff (2)

beidio â chael eu gwneud na’u caniatáu.

(2Er mwyn pennu incwm gweddilliol A, didynnir o’r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) swm cyfanredol unrhyw symiau sy’n dod o dan unrhyw rai o’r paragraffau canlynol—

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy’n ymwneud â phensiwn (nad yw’n bremiwm sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy’n cyfateb i’r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai’r cyfan o incwm A mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, er mwyn galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debyg o beidio â bod, ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod, yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, er mwyn galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn academaidd o’i gwrs y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi, drwy gymryd mai incwm gweddilliol A yw cyfartaledd incwm gweddilliol A am bob un o’r blynyddoedd ariannol y mae’r flwyddyn academaidd honno’n digwydd ynddynt.

(5Os yw A yn bodloni Gweinidogion Cymru bod ei incwm yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan A, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn gyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n diweddu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol gynharach ac y cedwir cyfrifon mewn perthynas ag ef ynglŷn â’r busnes neu’r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw A’n derbyn unrhyw incwm nad yw’n ffurfio rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, am yr unig reswm—

(a)nad yw A’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b)nad yw’r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae incwm trethadwy A at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai’r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl fel y digwydd.

(7Os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, rhaid ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon mewn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm A at ddibenion yr Atodlen hon fydd gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi ei bennu yn unol â’r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn digwydd ynddo, fel y’i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, ni chymerir incwm y partner i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

(9Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, pennir incwm y partner drwy gyfeirio at incwm y partner o dan is-baragraff (1), ei rannu â hanner cant a dau a’i luosi â nifer yr wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol pan nad oedd y myfyriwr rhan-amser cymwys a’i bartner, yn ôl penderfyniad Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu.

(10Os oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo’r cyfraniadLL+C

5.—(1Mae’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £39,793, £1 am bob £9.27 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £39,793; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,793 neu lai, dim.

(2Rhaid i’r cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.

(3Caniateir i’r cyfraniad gael ei addasu’n unol â pharagraff 6.

(4Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.

(5Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os cyfansoddir incwm yr aelwyd o incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys ac incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys, a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

Cyfraniadau holltLL+C

6.  Os defnyddir yr un incwm aelwyd i asesu swm dyfarniad statudol y mae gan ddau neu ragor o bersonau hawl i’w gael, rhennir y cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â’r myfyriwr rhan-amser cymwys â’r nifer hwnnw o bersonau.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)

(1)

2004 p.12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p.11), adrannau 68, 69 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27.

(2)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources