Gwybodaeth a materion eraillLL+C
113.—(1) Mae Atodlen 3 yn gymwys o ran rhoi gwybodaeth, gan geisydd a chan fyfyriwr rhan-amser cymwys.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r awdurdod academaidd priodol, ar gais y ceisydd, lenwi datganiad yn y ffurf honno y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fynd gyda’r cais am gymorth o dan reoliad 111.
(3) Nid yw’n ofynnol bod awdurdod academaidd yn llenwi datganiad os na all roi’r cadarnhad sydd yn ofynnol gan baragraff (4)(a)(ii) neu (4)(b)(ii).
(4) Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 am y tro cyntaf, datganiad—
(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf bythefnos o’r cwrs rhan-amser dynodedig;
(b)mewn unrhyw achos arall pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014, datganiad—
(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon;
(c)pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, datganiad—
(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o’r cwrs rhan-amser dynodedig ym mlwyddyn academaidd y cwrs hwnnw y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—
(a)swm y ffioedd a godir mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon;
(b)dwyster yr astudio;
(c)nodyn ardystio gan yr awdurdod academaidd ei fod o’r farn—
(i)mai cwrs rhan-amser dynodedig yw’r cwrs;
(ii)y bydd yn bosibl i’r ceisydd gwblhau’r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 95(1)(c).
(6) At ddibenion paragraff (5)(c)(ii) rhaid i’r awdurdod academaidd roi sylw i—
(a)unrhyw gynnydd ym mha mor ddwys y byddai angen astudio er mwyn i’r ceisydd gwblhau’r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 95(1)(c);
(b)unrhyw rannau o’r cwrs y mae wedi bod yn ofynnol i’r ceisydd eu hailadrodd.
(7) Rhaid i awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol pan fydd unrhyw un o’r digwyddiadau canlynol yn digwydd—
(a)bod myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs rhan-amser dynodedig, neu’n rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn hawlio cymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon, a bod yr awdurdod academaidd wedi penderfynu neu gytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno;
(b)y newidir, neu y digwydd newidiadau i unrhyw ran o’r wybodaeth am y cwrs a gyflwynwyd yn rhan o ddatganiad o dan baragraffau (2) i (6).
(8) Pan fydd awdurdod academaidd yn hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (7), rhaid i’r awdurdod academaidd hefyd ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth bellach sy’n ofynnol ganddynt mewn perthynas â’r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (7).
(9) At ddibenion paragraff (8), ystyr “digwyddiad perthnasol” (“relevant event”) yw digwyddiad neu ddigwyddiadau o dan baragraff (7) sy’n ffurfio testun yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (7).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 113 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)