- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
125.—(1) Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â chwrs ôl-radd dynodedig hyd nes terfynir y statws hwnnw yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 122.
(2) Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).
(3) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 122, mae’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig.
(4) Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“A” yn y paragraff hwn a pharagraff (5))—
(a)yn tynnu’n ôl o’i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu na fyddant yn trosglwyddo statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 126; neu
(b)yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.
(6) Pan fo’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig sy’n gwrs rhan-amser, mae’r cyfnod cymhwystra’n terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pan â’n amhosibl, yn ystod y flwyddyn honno neu ar ei diwedd, i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys gwblhau’r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 124(1)(b)(ii).
(7) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—
(a)terfynu’r cyfnod cymhwystra;
(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant o dan y Rhan hon;
(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 131.
(8) Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar y dyddiad y daw’r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y byddant yn penderfynu arnynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 125 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: