- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
17.—(1) Oni fydd un o’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff (4) yn gymwys, swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw’r swm lleiaf o’r canlynol—
(a)£1,380 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban: neu
(b)£1,425 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon, a
(c)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
(2) Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus pan fo un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£680 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban; neu
(b)£700 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; a
(c)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
(3) Os cyfrifir cyfraniad sy’n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o’r grant ar gyfer ffioedd a benderfynir o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 67.
(4) Y canlynol yw’r amgylchiadau—
(a)blwyddyn academaidd derfynol y cwrs dynodedig os yw fel rheol yn ofynnol i’r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
(b)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012—
(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;
(c)mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs sy’n arwain at radd gyntaf)—
(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;
(ii)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu
(iii)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs,
blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos;
(d)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012 ac a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor—
(i)pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(ii)os bydd, mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.
(5) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,465.
(6) Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,030.
(7) Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy’n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw’r lleiaf o £1,285 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno—
(a)os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;
(b)os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac
(c)os nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.
(8) Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy’n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw’r lleiaf o’r symiau canlynol, sef £680 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno—
(a)os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;
(b)os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac
(c)os yw un neu fwy o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.
(9) Pan gyfrifir cyfraniad sy’n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o swm y grant ar gyfer ffioedd a benderfynir o dan baragraff (7) neu (8) yn unol â rheoliad 67.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 17 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: