xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10LL+CTALIADAU

Talu grantiau neu fenthyciadau ar gyfer ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefnLL+C

68.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer ffioedd neu’r benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn i’w gael i awdurdod academaidd y mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn atebol i dalu iddo.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer ffioedd neu’r benthyciad cyfrannu at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r grant ar gyfer ffioedd neu’r benthyciad cyfrannu at ffioedd—

(a)oni fyddant wedi cael cais am daliad oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol; a

(b)bod cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer ffioedd ddim hwyrach na 10 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod ym mharagraff (3)(b), neu yn ddi-oed ar ôl i gais am daliad ddod i law, a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn gais dilys, os yw hynny’n digwydd yn hwyrach.

(5Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant ar gyfer ffioedd neu’r benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn i’w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.

(6Ni cheir gwneud taliad o’r grant ar gyfer ffioedd, neu’r benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â chwrs dynodedig—

(a)os bydd y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, cyn diwedd cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n bresennol o dan reoliad 13(3) a 13(4), yn rhoi’r gorau i ymgymryd â’r cwrs; a

(b)os yw’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol eto ar y cwrs neu, yn ôl fel y digwydd, ymgymryd eto â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hi, neu o gwbl.

(7Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu’n rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn o’r cwrs dynodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 68 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)