xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
70.—(1) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 5 yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(2) Mae’n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth o dan Ran 5 mewn rhandaliadau, rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth o dan y Rhan honno, i fyfyriwr cymwys cyn i’r cadarnhad o bresenoldeb ddod i law onid oes eithriad yn gymwys, y cyfeirir ato ym mharagraff (4).
(4) Mae eithriad yn gymwys at ddibenion paragraff (3)—
(a)pan fo grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy, ac yn yr achos hwnnw caniateir talu’r grant arbennig hwnnw cyn i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law Gweinidogion Cymru; neu
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol oherwydd amgylchiadau eithriadol i wneud taliad a chadarnhad o bresenoldeb heb eto ddod i law.
(5) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 5.
(6) Mae taliadau cymorth o dan Ran 5 i’w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor arno, oni fyddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r diwrnod hwnnw.
(8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl.
(9) Wrth benderfynu a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (7), mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol y byddai peidio â thalu’r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu’r cymorth yn effeithio ar allu’r myfyriwr cymwys i barhau â’r cwrs.
(10) Nid oes cymorth yn daladwy o dan Ran 5 mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.
(11) Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—
(a)swm pob grant at gostau byw y mae’r myfyriwr hwnnw’n gymwys i’w gael ac a fyddai’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol pe na fyddai cyfnod cymhwystra’r myfyriwr hwnnw wedi dod i ben (y “swm llawn”); a
(b)faint o’r swm llawn sy’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod sy’n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys i ben (y “swm rhannol”).
(12) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(13) Os yw Gweinidogion Cymru wedi talu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys i ben a bod taliad yn fwy na swm rhannol y grant hwnnw—
(a)cânt drin y tâl dros ben fel gordaliad o’r grant hwnnw; neu
(b)os ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny cânt estyn cyfnod cymhwystra’r myfyriwr hwnnw mewn perthynas â’r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod swm llawn y grant yn daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu hwnnw.
(14) Yn ddarostyngedig i baragraff (15), os yw taliad grant at gostau byw mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol i’w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y’i telir, swm y grant hwnnw sy’n daladwy yw’r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol i estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol ac yn briodol i benderfynu bod swm llawn y grant hwnnw’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu hwnnw.
(15) Nid yw paragraff (14) yn gymwys i daliad grant at gostau byw i fyfyrwyr anabl o ran offer arbenigol.
(16) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr amgylchiadau i gyd i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r cyfnod o absenoldeb.
(17) Wrth benderfynu pa un a fyddai’n briodol i gymorth fod yn daladwy o dan baragraff (16) mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a’r caledi ariannol a achosid pe na bai’r cymorth yn cael ei dalu.
(18) Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs os yw’r myfyriwr cymwys yn methu â bod yn bresennol oherwydd salwch ac na fu’n absennol am fwy na 60 diwrnod.
(19) Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad o gymorth o dan Ran 5 neu Ran 6, yn penderfynu swm y grant at gostau byw a chostau eraill y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael, naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—
(a)os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yw’r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm ychwanegol, a chânt wneud hynny yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol;
(b)os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yw’r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddidynnu swm y gostyngiad o weddill y grant hwnnw sydd eto i’w dalu;
(c)os yw swm y gostyngiad yn fwy na gweddill y grant hwnnw sydd eto i’w dalu, rhaid gostwng y gweddill hwnnw i ddim, a didynnu’r balans o unrhyw grant arall at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr yn i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd;
(d)gellir adennill unrhyw ordaliad sy’n weddill yn unol â rheoliad 74.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 70 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)