- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
97.—(1) At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael mewn perthynas â chwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 yw—
(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r symiau canlynol—
(i)swm y grant ffioedd sylfaenol (a gyfrifir yn unol â’r paragraffau canlynol), neu
(ii)y “ffioedd gwirioneddol” (“actual fees”), sef swm y ffioedd a godir mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs rhan-amser dynodedig; a
(b)grant nad yw’n fwy na £1,155 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â’r cwrs rhan-amser dynodedig.
(2) Mae’r grant ffioedd sylfaenol yn amrywio yn ôl dwysedd yr astudio.
Cyfrifir y dwysedd astudio, a mynegir ef fel canran, fel a ganlyn:
ac y mae—
PT yn dynodi nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill sydd i’w dyfarnu i’r myfyriwr rhan-amser cymwys gan yr awdurdod academaidd os bydd yn cwblhau’n llwyddiannus y flwyddyn academaidd y mae’n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi o dan reoliad 111; ac
FT yn dynodi—
os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, 120;
os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill y byddai’n ofynnol i fyfyriwr llawnamser safonol eu hennill ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn iddo gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol o fewn y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs hwnnw.
(3) At ddibenion paragraff (2)—
(a)mae “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) a “myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) i’w dehongli’n unol â rheoliad 95; a
(b)mae “y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (“the period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) i’w gyfrifo’n unol â rheoliad 95.
(4) Y “grant ffioedd sylfaenol” (“basic fee grant”) yw—
(a)£690, os yw’r dwysedd astudio yn llai na 60 y cant (“lefel 1”);
(b)£820, os yw’r dwysedd astudio yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant (“lefel 2”);
(c)£1,025, os yw’r dwysedd astudio yn 75 y cant neu’n fwy (“lefel 3”).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) a rheoliad 114(6), mae swm y cymorth sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—
(a)os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar ddyddiad y cais, hawlogaeth—
(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor;
(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 i lwfans o dan y trefniadau a elwir y Fargen Newydd;
(iii)o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;
(iv)i gredyd cynhwysol; neu
(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;
mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;
(b)os yw’r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;
(c)os yw’r incwm perthnasol yn £16,865, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai nag uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a);
(d)os yw’r incwm perthnasol yn fwy na £16,865 ond yn llai na £25,435, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy, a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw’r swm a bennir yn unol â pharagraff (6);
(e)os yw’r incwm perthnasol yn £25,435, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw £50;
(f)os yw’r incwm perthnasol yn fwy na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ac nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a);
(g)os yw’r incwm perthnasol yn £26,095 neu’n fwy ond yn llai na £28,180, nid oes cymorth ar gael o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw’r swm sy’n weddill ar ôl didynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;
(h)os yw’r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw £50;
(i)os yw’r incwm perthnasol yn fwy na £28,180, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1).
(6) Os yw paragraff (5)(d) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(a) drwy ddidynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) un o’r symiau canlynol—
(a)£50 plws £1 arall am bob £14.52, £11.90 neu £9.26 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865 yn ôl a yw dwysedd yr astudio ar lefel 1, 2 neu 3, yn y drefn honno; neu
(b)os yw’r grant ffioedd sylfaenol yn fwy na’r ffioedd gwirioneddol, swm sy’n hafal i’r hyn sy’n weddill ar ôl didynnu o’r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng y grant ffioedd sylfaenol a’r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negyddol ac os felly mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) yn daladwy).
(7) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i’w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;
(b)ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;
(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
(d)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;
(e)ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys—
(i)unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a
(ii)unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—
(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;
(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;
(iii)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’n briod i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar y diwrnod cyntaf o’r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi, a phan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;
(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’n briod neu’n bartner sifil iddo pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(g)nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) yn cael ei drin fel partner—
(i)os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu
(ii)os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser;
(h)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;
(i)mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (8).
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys yn hafal i’w adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, llai—
(i)£2,000 mewn perthynas â phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys;
(ii)£2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ar ei bartner; a
(iii)£1,000 mewn perthynas â phob un plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ar ei bartner.
(9) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy nag adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, rhaid iddynt asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
(10) Yn y rheoliad hwn ystyr ffynonellau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys mewn blwyddyn ariannol yw swm cyfanredol ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â swm cyfanredol incwm am y flwyddyn honno unrhyw berson sy’n bartner i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ar y dyddiad gwneir y cais am gymorth o dan y Rhan hon.
(11) Yn y rheoliad hwn ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig a bennir” (“specified designated part-time course”) yw’r cwrs y mae’r person yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs rhan-amser presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad o’r statws hwnnw neu fwy gan Weinidogion Cymru o gwrs rhan-amser (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir yw’r cwrs cychwynnol.
(12) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 97 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: