xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2013.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
(a)adeiladau addysgol ac adeiladau ymgymerwyr statudol yng Nghymru;
(b)adeiladau'r Goron yng Nghymru; ac
(c)gwaith adeiladu a gyflawnir gan awdurdodau'r Goron yng Nghymru neu y bwriedir iddo gael ei gyflawni gan awdurdodau'r Goron yng Nghymru.
(4) Daw pob un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn a nodir yn ail golofn y Tabl yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiad a nodir yng ngholofn gyntaf y Tabl hwnnw, at y diben a nodir yn y drydedd golofn.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “adeiladau addysgol ac adeiladau ymgymerwyr statudol” (“educational buildings and buildings of statutory undertakers”) yw adeiladau sy'n dod o fewn adran 4(1)(a), (b) neu (c) o Ddeddf Adeiladu 1984.
ystyr “adeilad y Goron” (“Crown building”) yw adeilad y mae gan y Goron neu'r Ddugiaeth fuddiant ynddo;
mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” yn yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009(1);
ystyr “awdurdod y Goron” (“Crown authority”) yw Comisiynwyr Ystad y Goron, un o Weinidogion y Goron, un o adrannau'r llywodraeth, unrhyw berson neu gorff arall y cyflawnir ei swyddogaethau ar ran y Goron (heb fod yn berson neu'n gorff y cyflawnir ei swyddogaethau ar ran Ei Mawrhydi fel unigolyn preifat), neu berson sy'n gweithredu yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn neu Ddugiaeth Cernyw;
ystyr “buddiant y Ddugiaeth” (“Duchy interest”) yw buddiant sydd gan Ei Mawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu fuddiant sydd gan Ddugiaeth Cernyw; ac
ystyr “buddiant y Goron” (“Crown interest”) yw buddiant sydd gan Ei Mawrhydi yn hawl y Goron, neu sydd gan un o adrannau'r llywodraeth, neu sy'n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Mawrhydi at ddibenion un o adrannau'r llywodraeth;
O.S. 2009/3019. Trosglwyddodd Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 swyddogaethau penodol a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Ddeddf Adeiladu 1984, i Weinidogion Cymru, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru. Darparodd erthygl 3(a) o'r Gorchymyn nad oedd swyddogaethau wedi eu trosglwyddo i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas ag adeilad ynni a eithrir fel y'i diffinnir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn.