Diwygio
9. Yn rheoliad 100, ar ôl paragraff (6) mewnosoder—
“(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn garcharor.
(8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.”