xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 2162 (Cy. 211) (C. 97)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2014

Gwnaed

7 Awst 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 50(4) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2014.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 18 Awst 2014

2.  Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 i rym yw 18 Awst 2014—

(a)adran 2 i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 1 (cyngor y gweithlu addysg);

(b)yn Atodlen 1—

(i)paragraff 3(1), (2), (3), (4)(a) a (5) (aelodaeth);

(ii)paragraff 4 (aelodaeth: darpariaeth bellach);

(iii)paragraff 5 (deiliadaeth);

(iv)paragraff 6 (diswyddo);

(v)paragraff 7 (tâl, lwfansau a threuliau aelodau);

(vi)paragraff 9(1), (2) a (3) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r prif swyddog); a

(vii)paragraff 12 (pwyllgorau’n gyffredinol).

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

7 Awst 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 18 Awst 2014 adran 2 i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 1 (cyngor y gweithlu addysg) o Ddeddf 2014 a’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 1 iddi—

(a)paragraff 3(1), (2), (3), (4)(a) a (5) (aelodaeth);

(b)paragraff 4 (aelodaeth: darpariaeth bellach);

(c)paragraff 5 (deiliadaeth);

(d)paragraff 6 (diswyddo);

(e)paragraff 7 (tâl, lwfansau a threuliau aelodau);

(f)paragraff 9(1), (2) a (3) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r prif swyddog); ac

(g)paragraff 12 (pwyllgorau’n gyffredinol).

Mae’r adran honno a’r paragraffau yn Atodlen 1 i Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag aelodaeth Cyngor y Gweithlu Addysg a phenodi aelodau iddo.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 4214 Gorffennaf 2014O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)
Adran 431 Medi 2014O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)
Adran 4414 Gorffennaf 2014O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)
Adran 4814 Gorffennaf 2014O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)
Paragraff 1(1), (2) a (6) o Atodlen 314 Gorffennaf 2014O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)