xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, ddarpariaethau penodol yn Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 (OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t 18) (“FIC”).
Maent hefyd yn gweithredu, yng Nghymru, ddarpariaethau penodol yn Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ar fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi eu trin ag ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L 66, 13.3.1999, t 16) ac ail baragraff is-baragraff 1 o Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2000/36/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cynhyrchion coco a siocled a fwriedir i bobl eu bwyta (OJ Rhif L 197, 3.8.2000, t 19).
Mae rheoliad 3 yn cynnwys rhanddirymiad sy’n ymwneud â llaeth neu gynhyrchion llaeth a gynigir mewn potel wydr a fwriedir i’w hailddefnyddio. Mae rheoliad 4 ac Atodlen 2 yn darparu rhanddirymiad sy’n ymwneud â defnyddio dynodiad briwgig ar gyfer brwgig nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion a nodwyd ym mhwynt 1 o Ran B o Atodiad VI i FIC.
Mae rheoliad 5 yn galluogi manylion sy’n ymwneud â sylwedd neu gynnyrch alergenaidd mewn bwyd heb ei ragbecynnu i gael eu rhoi ar gael (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r rheoliad) gan ddefnyddio unrhyw ddull y mae gweithredwr busnes bwyd yn ei ddewis. Rhaid i’r manylion gofynnol gael eu rhoi ar gael o dan FIC ond gellir eu rhoi ar gael gan ddefnyddio’r dulliau y darperir ar eu cyfer yn FIC neu yn unol â darpariaethau rheoliad 5.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i enw’r bwyd gael ei ddarparu yn achos bwydydd penodol nad ydynt wedi eu rhagbecynnu a bwydydd penodol sydd wedi eu rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol. Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i ddangosiad meintiol o’r cynnwys cig gael ei roi yn achos cynhyrchion penodol. Rhaid i’r manylion hynny gael eu rhoi yn un o’r ffyrdd a bennir yn rheoliadau 6(4) (yn achos enw’r bwyd) a 7(5) (yn achos y dangosiad o’r cynnwys cig). Nid yw darpariaethau rheoliadau 6(4) a 7(5) yn gymwys i gynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell. Mae Erthygl 14(2) o FIC (fel y’i darllenir gyda darpariaethau perthnasol eraill FIC) yn gymwys yn achos cynnig o’r fath.
Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth benodol gael ei darparu pan fydd cynhyrchion bwyd a arbelydrwyd neu gynhyrchion bwyd sy’n cynnwys cynhwysyn a arbelydrwyd yn cael eu gwerthu mewn swmp a phan fydd cynhwysion a arbelydrwyd yn cael eu defnyddio mewn cynhyrchion bwyd penodol sydd wedi eu rhagbecynnu.
Mae rheoliad 9 yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladd i orfodi’r Rheoliadau. Mae rheoliad 10 yn peri mai trosedd yw methu â chydymffurfio â darpariaethau penodedig yn FIC ac â’r gofyniad ynglŷn ag alergenau yn rheoliad 5(5). Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer y gosb i’r trosedd hwnnw.
Mae rheoliad 12 ac Atodlen 4 yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16), gydag addasiadau. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso (gydag addasiadau) adran 10(1), sy’n galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno sy’n ei gwneud yn ofynnol i rywun gydymffurfio â darpariaethau penodedig yn FIC (ac eithrio i’r graddau y mae rhai o’r darpariaethau yn gymwys i’r manylyn gorfodol sy’n ymwneud â swm net neu swm yn gyffredinol) neu â darpariaethau penodedig yn rheoliadau 5 i 8. Mae’r darpariaethau, fel y’u cymhwysir, yn peri mai trosedd yw methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella.
Mae rheoliad 13 a chofnod 1 y tabl yn Rhan 1 o Atodlen 6 yn dirymu’r rhan fwyaf o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499) ar 13 Rhagfyr 2014 i’r graddau y mae’r Rheoliadau hynny’n gymwys i Gymru. Mae rheoliad 13 a chofnod 1 y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 6 yn dirymu gweddill darpariaethau Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (ynglŷn â thermau sy’n ymwneud ag alcohol, hufen a chaws) ar 13 Rhagfyr 2018 i’r graddau y mae’r Rheoliadau hynny’n gymwys i Gymru. Mae rheoliad 13 ac Atodlen 6 hefyd yn dirymu offerynnau statudol perthnasol eraill.
Mae rheoliad 14 ac Atodlen 7 yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, i’r graddau y mae’r Rheoliadau hynny’n gymwys i Gymru, yn ystod y cyfnod cyn i’r Rheoliadau hynny gael eu dirymu (fel y disgrifir uchod). Maent yn diwygio offerynnau statudol eraill er mwyn cymryd i ystyriaeth y ffaith bod deddfwriaeth berthnasol yr UE yn cael ei diddymu a’i disodli a bod Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 yn cael eu dirymu.
Mae rheoliad 14 a Rhan 1 o Atodlen 7 hefyd yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996 (O.S. 1996/1502), fel y maent yn gymwys i Gymru, er mwyn cymryd i ystyriaeth y ffaith bod Cyfarwyddeb y Cyngor 89/396/EEC (OJ Rhif L 186, 30.6.1989, t 21) yn cael ei ddiddymu a’i ddisodli gan Gyfarwyddeb 2011/91/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch dangosiadau neu farciau sy’n nodi i ba lot y mae deunydd bwyd yn perthyn (OJ Rhif L 334, 16.12.2011, t 1). Mae Rhan 2 o Atodlen 7 yn cynnwys y ddarpariaeth sy’n gweithredu ail baragraff is-baragraff 1 o Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2000/36/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (a grybwyllir uchod).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu ar wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/wales.