Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys sylwedd neu gynnyrch alergenaidd etc.LL+C
5.—(1) Caniateir i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd perthnasol y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo roi ar gael y manylion a bennir yn Erthygl 9(1)(c) (labelu sylweddau neu gynhyrchion penodol sy’n peri alergeddau neu anoddefeddau) ynglŷn â’r bwyd hwnnw drwy unrhyw ddull y mae’r gweithredwr hwnnw’n ei ddewis, gan gynnwys ar lafar, yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd perthnasol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr ac eithrio drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell ac sydd—
(a)heb ei ragbecynnu, [F1neu]
(b)wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr[F2.]
F3(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3) Pan fo gweithredwr busnes bwyd yn bwriadu rhoi’r manylion a bennir yn Erthygl 9(1)(c) ynglŷn â bwyd perthnasol ar gael ar lafar, a bod sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II neu sy’n deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II yn cael ei ddefnyddio fel cynhwysyn neu gymorth prosesu wrth weithgynhyrchu neu baratoi’r bwyd, rhaid i’r gweithredwr ddangos bod modd sicrhau manylion y sylwedd neu’r cynnyrch hwnnw drwy ofyn i aelod o’r staff.
(4) Rhaid i’r dangosiad a grybwyllir ym mharagraff (3) gael ei roi—
(a)ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu
(b)ar hysbysiad, bwydlen, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.
(5) O ran bwyd perthnasol y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r manylion yn Erthygl 9(1)(c) a roddwyd ar gael gan weithredwr busnes bwyd gael eu rhoi ar gael â chyfeiriad clir at enw’r sylwedd neu’r cynnyrch a restrir yn Atodiad II—
(a)pan fo’r cynhwysyn neu’r cymorth prosesu perthnasol yn deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II, a
(b)pan fo’r manylion yn cael eu rhoi ar gael ac eithrio drwy ddull y darperir ar ei gyfer yn FIC.
(6) Yn y rheoliad hwn ystyr “bwyd perthnasol” (“relevant food”) yw bwyd y mae cynhwysyn neu gymorth prosesu a restrir yn Atodiad II, neu sy’n deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II, wedi eu defnyddio wrth ei weithgynhyrchu neu ei baratoi ac yn dal yn bresennol yn y cynnyrch gorffenedig (hyd yn oed os yw mewn ffurf a addaswyd).
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 5(2)(a) wedi ei fewnosod (1.10.2021) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/295), rhlau. 1(2), 2(2)(a)
F2Rhl. 5(2)(b): atalnod llawn wedi ei amnewid ar gyfer gair (1.10.2021) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/295), rhlau. 1(2), 2(2)(b)
F3Rhl. 5(2)(c) wedi ei hepgor (1.10.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/295), rhlau. 1(2), 2(2)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)