Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 8) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i Ran 3 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) mewn perthynas â dwy ardal awdurdod lleol (ac eithrio rhan o adran 58(6)).

Mae’r darpariaethau yn Rhan 3 o’r Mesur (ac eithrio rhan o adran 58 (6)) eisoes mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen, Sir y Fflint, Caerdydd, Bro Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful, Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Powys, Wrecsam, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe. Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Rhan 3 mewn perthynas â’r pedair ardal awdurdod lleol sy’n weddill yng Nghymru, sef Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd ar 28 Chwefror 2014.

Mae darpariaethau Rhan 3 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol a restrir i sefydlu un neu fwy o dimau integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”) yn eu hardal. Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol y mae ei ardal yn cyfateb i ardal awdurdod lleol gymryd rhan wrth sefydlu tîm ICiD. Mae adran 58 yn nodi’r mathau o achosion a all gael eu hatgyfeirio i dîm ICiD ac mae adran 58(6) yn nodi’r categorïau o oedolion a gaiff fod yn ddarostyngedig i atgyfeiriad teulu. Dim ond paragraff (a) o adran 58(6) sydd wedi ei gychwyn, felly dim ond atgyfeiriadau mewn perthynas â theuluoedd pan fo rhiant yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau sy’n gallu cael eu derbyn gan dîm ICiD. Mae adrannau 61 a 62 yn darparu ar gyfer sefydlu byrddau ICiD i oruchwylio’r timau ICiD.