Cychwyn mewn ardaloedd penodedig ar 28 Chwefror 2014
2.—(1) Daw darpariaethau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a bennir ym mharagraff (2) i rym ar 28 Chwefror 2014 mewn perthynas â’r ardaloedd awdurdod lleol a ganlyn—
(a)Ynys Môn;
(b)Conwy;
(c)Sir Ddinbych;
(d)Gwynedd.
(2) Y darpariaethau yw—
(a)adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd);
(b)adran 58(1), (3)-(5), (6)(a), (7)-(9) ac (11)-(14) (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd);
(c)adran 59(1) a (3) (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd);
(d)adran 60(2) (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd);
(e)adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
(f)adran 62(1) (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
(g)adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd);
(h)adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).