xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2GOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD ANIFEILIAID AC EITHRIO MEWN LLADD-DAI

RHAN 1Rhagarweiniol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “anifail” (“animal”) yw anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau.

Cwmpas

2.—(1Mae’r Atodlen hon yn gymwys i’r canlynol—

(a)lladd anifeiliaid mewn iard gelanedd;

(b)lladd dofednod neu gwningod ar y fferm at y diben o gyflenwi meintiau bach o gig gan y cynhyrchwr yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi cig o’r fath yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol fel cig ffres yn unol ag Erthygl 11; ac

(c)lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-dy neu yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

(2Ond yn achos anifeiliaid a leddir yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-baragraff (1)(c)—

(a)nid yw Rhannau 2 a 3 yn gymwys; a

(b)nid yw Rhan 4 yn gymwys oni leddir yr anifail drwy waedu.

Esemptiadau

3.—(1Nid oes dim yn yr Atodlen hon sy’n gymwys i’r canlynol—

(a)lladd anifail mewn lladd-dy;

(b)lladd anifail at y diben o reoli clefyd, oni chaiff ei stynio gan follt gaeth dreiddiol neu drydanu, ac mewn achos o’r fath, rhaid stynio’r anifail yn unol â pharagraffau 34, 37 neu 38 o Ran 5 (yn ôl fel y digwydd);

(c)lladd mochyn, dafad neu afr gan berchennog yr anifail ar gyfer ei fwyta gartref yn breifat gan y perchennog, oni chaiff yr anifail ei ladd drwy waedu, ac mewn achos o’r fath, rhaid stynio’r anifail a’i waedu yn unol â Rhan 5; neu

(d)lladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed neu embryonau mewn gwastraff deorfa, ar yr amod y cydymffurfir â pharagraff 44.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “rheoli clefyd” (“disease control”) yw rheoli, gan yr awdurdod cymwys, unrhyw glefyd sy’n hysbysadwy gan neu o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) neu’n unol ag unrhyw rwymedigaeth UE.